Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth

Os ydych yn hoffi bod wrth y llyw ac yn mwynhau gweithio gydag amrywiaeth eang o gwsmeriaid, efallai yr hoffech ystyried gweithio ym maes trafnidiaeth. Dysgwch am brofiadau pobl, ble i gael cyngor gyrfaoedd a sut i gael help i ddod o hyd i swydd.

A yw gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth yn addas i chi?

Gallwch gael yr hyblygrwydd a'r oriau gwaith sy'n cyd-fynd â'ch ymrwymiadau. Mae gyrwyr yn treulio llawer o amser gyda theithwyr, felly mae angen iddynt fwynhau helpu pobl.

Dyma rywfaint o sylwadau cadarnhaol gan bobl sy'n gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth ar hyn o bryd:

Ryan Palmer, Gyrrwr HGV

"Rwyf wedi mwynhau gyrru erioed – nawr gallaf ei wneud fel bywoliaeth."

Martine Lynch, Rheolwr Gwasanaethau Bysys

"Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda phobl – mae'n golygu bod pob diwrnod yn wahanol."

Trafnidiaeth: y ffeithiau

Yn aml mae gan bobl syniadau pendant am swyddi gwahanol. Ond mae'n bwysig cael y ffeithiau bob amser. Dyma rywfaint o gamsyniadau cyffredin, ynghyd â'r ffeithiau go iawn.

  • "Mae angen i yrwyr trenau gael cymhwyster arbennig ar gyfer eu swyddi" - nid yw cymhwyster academaidd penodol yn angenrheidiol, ond mae sgiliau llythrennedd a rhifedd da yn bwysig ynghyd â bod yn gyfathrebwr da
  • "Ni cheir llawer o ragolygon yn y sector trafnidiaeth" - ddim yn wir, gall y llwybr gyrfa fod yn hir a chynyddol
  • "Ym maes hedfan mae'r rhan fwyaf o ferched yn gweithio fel criw caban ac mae dynion yn trin bagiau" - mae amrywiaeth yn bwysig iawn ym mhob sector ac mae ystod eang o swyddi ar gael ar gyfer dynion a merched

Manteision gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth

Mae llawer o fanteision o weithio yn y diwydiant trafnidiaeth, gan gynnwys:

  • hyblygrwydd - mae rhai swyddi yn caniatáu i chi weithio yn ystod oriau sy'n cyd-fynd â'ch ymrwymiadau
  • amodau gwaith amrywiol - gan weithio yn y swyddfa, yn yr awyr agored neu ar y ffordd
  • rhagolygon da - gallwch fod yn fos arnoch chi eich hun fel gyrrwr tacsi neu ddatblygu fel rhan o dîm o beirianyddion neu griw trafnidiaeth

Enghreifftiau o brofiadau pobl

John Batey, Gyrrwr Tacsi

"Rwy'n mwynhau bod yn fos arnaf fi fy hun a dewis fy oriau. Rwy'n mwynhau'r hyblygrwydd mae'n ei roi i mi i gyd-fynd â'm hymrwymiadau eraill. Fel gyrrwr tacsi rwy'n ennill £15,000."

Craig Broome, Peiriannydd Bws

"Yn y depo mae gennym dîm o beirianyddion. Mae'n bwysig ein bod yn deall ein gilydd ac yn cydweithio. Fel arfer mae cyflogeion newydd yn cael cefnogaeth gan fentor. Mae'n llawer o hwyl ac mae pobl y gallaf ddibynnu arnynt. Rwy'n ennill £21,000."

Cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am rolau penodol yn y diwydiant trafnidiaeth drwy ddefnyddio'r ddolen cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi isod.

Dewch o hyd i swydd yn y sector hwn

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant a gyrfaoedd yn y diwydiant trafnidiaeth drwy fynd i'r gwefannau canlynol.

I chwilio am swyddi sydd ar gael yn y sector hwn, defnyddiwch y ddolen 'Dechrau chwiliad swyddi a sgiliau' isod neu ffoniwch 0845 6067 890 i siarad ag ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith.

Bydd yn gallu rhoi gwybod pa help a chymorth sydd ar gael i'ch helpu i mewn i waith.

Additional links

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli eich helpu chi a’ch cymuned – cael gwybod mwy

Dechrau masnachfraint

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hunangyflogedig, efallai y bydd dechrau masnachfraint yn opsiwn sy’n werth ei ystyried

Allweddumynediad llywodraeth y DU