Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Fideo: cyfleoedd ym maes gofal

Gwyliwch fideo o bobl go iawn yn sôn am y gwaith gwerth chweil a wnânt ym maes gofal. Dysgwch sut y gwnaeth hyfforddiant eu helpu i gael swydd lle maent yn gwneud gwahaniaeth.

Methu gweld y fideo?

DWP jobcentre videos care employee.jpg

I chwarae'r fideo hwn mae arnoch angen Adobe Flash Player fersiwn 9 neu uwch ar eich cyfrifiadur ac mae'n rhaid i chi fod wedi galluogi JavaScript ar eich porwr. Mae ein tudalen Help gyda ffeiliau fideo yn rhoi cyngor os nad ydych yn sicr sut mae gwneud hyn. Mae'r meddalwedd Flash yn rhad ac am ddim.

Gweithio yn y diwydiant gofal cymdeithasol

Dysgwch pa sgiliau sydd eu hangen arnoch, y cyfleoedd a gynigir a sut i gael cymorth wrth chwilio am swydd yn y diwydiant gofal cymdeithasol.

Fersiwn testun

Lee Flint, Rheolwr Gweithrediadau: "Mae gofal yn fwy na swydd 9.00 am tan 5.00 pm, mae'n wasanaeth 24 awr a gall fod yn emosiynol a blinedig iawn oherwydd bod y bobl hyn yn dibynnu'n helaeth ar gymorth, yn gorfforol ac yn emosiynol."

Katherine Thomson, Cynorthwy-ydd Gofal, Aigburth House: "Mae llawer o bobl y mae angen gofalu amdanynt, fel gweithwyr cymorth a gofalu am bobl ifanc. Plant neu bobl awtistig, a phobl ddall - mae pob math o bobl y mae angen gofalu amdanynt."

Lee Flint: "Mae angen math arbennig o berson i weithio mewn amgylchedd o'r fath."

Gary Fuller, Gofalwr, Gofal Iechyd Exemplar: "Cyn i mi ddod i Long Grove fel cynorthwy-ydd gofal roeddwn yn rhiant sengl. Roeddwn wedi bod ar fudd-daliadau am tua wyth neu naw mlynedd."

Emily Barnes, Gweithiwr Cymorth, Adams House: "Helpu'n gyffredinol mewn siopau pizza neu archfarchnadoedd - dim ond swydd oedd hynny, nid gyrfa."

Katherine Thomson: "Roeddwn yn ddi-waith."

Gary Fuller: "Y peth nesaf a ddigwyddodd oedd i mi fynd i'r Ganolfan Gwaith i weld pa opsiynau oedd ar gael i mi. Fy ymgynghorydd hawlio, Debbie Rogers, a awgrymodd Gwrs Exemplar - rhoddodd fy enw ymlaen, a chefais fy nerbyn."

Katherine Thomson: "Cefais ymgynghorydd newydd yn y Ganolfan Gwaith ac roedd yn fy ngweld bob wythnos, fel y dywedodd, a gwnaeth fy ffonio hyd yn oed y tu allan i oriau gwaith, a'm helpu i deimlo y gallwn gael swydd."

Emily Barnes: "Cefais fy rhoi ar dreial gwaith i wneud yn siŵr fy mod yn hapus â'r swydd."

Marcus Foster, Rheolwr Recriwtio, Anchor Homes: "Os ydych yn gyflogai a'ch bod yn meddwl 'iawn, mae'n swnio fel swydd dda i mi ond dwi ddim yn siŵr' gallwch fynd a rhoi cynnig arni, am ychydig ddiwrnodau. Rydych yn dal yn ddi-waith felly'n parhau i gael budd-daliadau - nid yw llawer o bobl am fynd allan a rhoi cynnig ar hyn gan eu bod yn poeni am eu budd-daliadau. Os oes cyfle i ddod i'r gwaith ar gwpl o sifftiau, dwy neu dair yr wythnos efallai, cewch weld pa fath o swydd yw hi. Rhoi cynnig arni, ac nid oes ymrwymiad. Os ydych yn cymryd ati, mae hynny'n wych. Os na, byddant yn dweud wrthych 'mae'n iawn, gwnaethoch roi cynnig arni'. Os na weithiodd allan nid dyna'r lle i chi - mae gofalwyr i bawb."

Katherine Thomson: "Ar y diwrnod cyntaf yma rydych yn gwneud rhan gyntaf eich cyfnod sefydlu. Cewch eich cyflwyno i rai pobl a gweld lle mae'r holl ystafelloedd a'r allanfeydd tân."

Fran Shaw, Rheolwr Cynorthwyol, Aigburth House: "Pan fydd rhywun yn dechrau a'u bod wedi bod allan o waith am amser hir, yn aml nid oes ganddynt lawer o hyder. Fel rheol, nid oes ganddynt lawer o hunanwerth. Yn gyntaf, rydyn ni'n dod â nhw i mewn, yn rhoi hyfforddiant symud a chario sylfaenol iddynt, cyflwyniad sylfaenol, ac yn eu paru â rhywun am ychydig sifftiau ac ar ôl hynny gallwch weld eu hyder yn cynyddu."

Emily Barnes: "Fy swydd i yw gweithiwr cymorth a bydda i'n helpu pobl yn eu bywyd bob dydd gyda phroblemau gwahanol sy'n codi."

Gary Fuller: "Ar hyn o bryd dwi'n helpu ac yn cynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth. Gallwn eu helpu drwy wneud paned iddynt neu fynd â nhw i siopa. Maent yn gwerthfawrogi popeth y byddwch yn ei wneud. Mae hynny'n wobr ynddi ei hun, ac rydych yn teimlo'n falch eich bod wedi cael eich talu am y diwrnod."

Fran Shaw, Rheolwr Cynorthwyol, Aigburth House: "Mae Partneriaethau Cyflogaeth Lleol yn dueddol o ganfod pobl â sgiliau naturiol. Nid oes ots gennym a oes gan bobl brofiad ond yn hytrach a ydynt yn garedig ac yn ystyrlon a'u bod yn gwybod sut i barchu pobl ac yn gydymdeimladol."

Emily Barnes: "Mae pob un ohonynt yn unigolion felly mae angen i chi fod yn gydymdeimladol ac yn ymwybodol o ba fath o bobl ydyn nhw."

Katherine Thomson: "Gwnes ofalu am fy mam a'm tad cyn iddynt farw. Efallai eich bod wedi gofalu rhywfaint gartref. Dwi'n meddwl y byddai rhywun sy'n rhiant eisoes yn ddigon cymwys oherwydd dyna beth yw gofal yn y bôn."

Marcus Foster: "Pan fyddant yn gwneud cais i ni rydym yn gofyn iddynt ddangos eu gallu a'u dealltwriaeth o beth yw gofal. Mae'n fanwl iawn. Mae hyn yn cynnwys siarad â'r preswylwyr a gwneud ffrindiau gyda nhw. Mae'n ymwneud â rhoi gofal personol iddynt. Mae'n ymwneud â sicrhau eu bod yn lân, yn hapus ac yn gyfforddus. Mae'n ymwneud â siarad â nhw yn unigol a gwneud gweithgareddau gyda nhw. Rydych yn gweithio gyda nhw yn eu cartrefi, felly mae meddu ar agwedd garedig iawn yn bwysig iawn i ni."

Emily Barnes: "Sgiliau cyfathrebu da a sgiliau pobl o ddydd i ddydd."

Katherine Thomson: "Dwi'n credu bod yn rhaid i chi boeni am bobl - swydd ofalu ydy hi yn y pen draw, yn de?"

Marcus Foster: "Dwi'n credu os byddech yn gofyn i'r bobl sydd wedi gweithio i ni 'pam rydych chi'n gweithio mewn gofal?' byddent yn dweud eu bod yn mynd adref ar ddiwedd y dydd yn gwybod eu bod wedi helpu i wella bywydau pobl."

Gary Fuller: "Mae'n syndod faint o foddhad rydych chi'n ei gael o'r swydd, mewn difrif."

Katherine Thomson: "Mae'n rhoi boddhad mawr i mi. Yn enwedig pan fyddant yn mynd ar deithiau diwrnod neu'n eistedd yn y lolfa yn gwylio ffilm, neu os bydd canwr yn dod a'ch bod yn eu gweld yn hapus."

Gary Fuller: "Dwi ddim yn ei ystyried yn swydd. Dwi'n ei ystyried fel cartref oddi cartref oherwydd uned fechan hunangynhwysol yw Long Grove. Mae'r holl beth yn hunangynhaliol a phan fydd un defnyddiwr gwasanaeth yn rhoi gwên i chi mae'n ddechrau gwych i'r diwrnod."

Susan Cunningham, Cyfarwyddwr Gofal Iechyd: "Un o brif fanteision gweithio yn ein diwydiant yw hyblygrwydd yr oriau. Mae gwaith gofal bob amser wedi cael ei ystyried yn waith ag oriau anghymdeithasol ond gall pobl gyda phlant weithio dau batrwm sifft 12 awr gyda phum diwrnod i ffwrdd a gallant weithio dyletswydd nos, ac mae'n gweithio'n wych o ran mynd â phlant i'r ysgol ac o'r ysgol."

Emily Barnes: "Nid yw'n swydd naw tan bump lle byddwch yn eistedd ac yn gwneud rhywbeth. Mae pob diwrnod yn wahanol. Ambell ddiwrnod rydych yn brysur iawn ac yn gwneud pum peth ar unwaith, ac ar ddiwrnodau eraill rydych yn eistedd yn hamddenol yn siarad, ac mae'r ddau yn rhoi boddhad gan eich bod yn gwybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth."

Katherine Thomson: "Dwi'n teimlo'n fwy positif am bopeth. Mae gennyf arian i'w wario.

Gary Fuller: "Mae'n sicr wedi bod yn brofiad cadarnhaol i mi. Gall hyd yn oed bawb gartref weld y gwahaniaeth."

Emily Barnes: "Mae gen i lawer mwy o hunanwerth a hyder. Dwi'n teimlo bod gen i bwrpas mewn bywyd oherwydd fy mod yn dod yma ac yn mwynhau beth dwi'n ei wneud, a dwi hefyd yn helpu eraill."

Katherine Thomson: "Gall unrhyw un ei wneud os ydynt am wneud hynny oherwydd eich bod yn cael hyfforddiant o'r diwrnod cyntaf, nid yw'n angenrheidiol i chi gael profiad o ofal."

Marcus Foster: "Mae cyfle i ddatblygu ac mae'n yrfa, os ydych am ei chael. Dydyn ni ddim yn mynnu hyn. Os ydych am wella eich hun i fod yn uwch reolwr gallwch wneud hynny dros nifer o flynyddoedd. Rydych wedi'ch hyfforddi ac yn cyrraedd eich lefel. Gallwch amrywio eich swydd o ofalu i arlwyaeth, i gadw tŷ, i weithgareddau, gan weithio gyda'r trigolion eu hunain."

Emily Barnes: "Mae'n gyfle gwych a pharhaus."

Gary Fuller: "Mae'n yrfa, ac oherwydd y Cwrs Exemplar dwi'n mynd i ennill NVQs gwahanol. Dwi am barhau gyda chwrs ar ddeall problemau iechyd meddwl. Dwi'n datblygu."

Fran Shaw: "Unwaith y bydd gennych gymhwyster gallwch ehangu arno. Gallwch symud ymlaen, a mynd i faes gwahanol."

Gary Fuller: "Byddwn yn bendant yn cynghori rhywun i ddychwelyd i'r gwaith. Ewch i Ganolfan Gwaith, edrychwch i weld pa opsiynau sydd gennych. Byddwch ar eich ennill pa ffordd bynnag yr ewch."

Gweithio yn y diwydiant gofal cymdeithasol

Dysgwch pa sgiliau sydd eu hangen arnoch, y cyfleoedd a gynigir a sut i gael cymorth wrth ddod o hyd i swydd yn y diwydiant gofal cymdeithasol.

Additional links

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli eich helpu chi a’ch cymuned – cael gwybod mwy

Dechrau masnachfraint

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hunangyflogedig, efallai y bydd dechrau masnachfraint yn opsiwn sy’n werth ei ystyried

Allweddumynediad llywodraeth y DU