Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gweithio yn y diwydiant gofal cymdeithasol

Os ydych am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, yn dda am wrando ac yn gallu siarad â phobl yn hawdd, efallai yr hoffech ystyried gweithio yn y diwydiant gofal cymdeithasol. Dysgwch am brofiadau pobl, ble i gael cyngor gyrfaoedd a sut i gael help i ddod o hyd i swydd.

A yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn addas i chi?

Boed gyda phlant, pobl ifanc, pobl hŷn neu deuluoedd, os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda phobl, gallai'r diwydiant gofal cymdeithasol fod yn addas i chi.

Gall fod yn heriol weithiau ond mae gweithwyr yn y sector hwn yn dweud bod y gwaith yn werth chweil oherwydd eu bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Dyma rywfaint o sylwadau cadarnhaol gan bobl sy'n gweithio yn y diwydiant manwerthu ar hyn o bryd.

Simon Rhead, Cynorthwy-ydd Gofal Cymdeithasol

"Roeddwn am gael gyrfa lle roeddwn yn gweithio gyda phobl. Y penderfyniad gorau wnes i oedd dod yn gynorthwyydd gofal cymdeithasol."

Elaine Major, Gweithiwr Cynnal Iechyd Meddwl

"Rwyf bob amser wedi mwynhau helpu pobl. Mae fy swydd yn waith caled, ond ni fyddwn yn ei newid am ffortiwn."

Gofal cymdeithasol: y ffeithiau

Yn aml mae gan bobl syniadau pendant am swyddi gwahanol. Ond mae'n bwysig cael y ffeithiau bob amser. Dyma rywfaint o gamsyniadau cyffredin, ynghyd â'r ffeithiau go iawn.

  • "Onid yw gwaith gofal cymdeithasol yn anodd ac yn achosi straen?" - ddim yn wir, weithiau mae'n heriol ond mae gweithwyr yn y sector hwn yn dweud bod y gwaith yn werth chweil oherwydd eu bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl
  • "Nid oes llawer o gyfle am ddyrchafiad" - gallwch gael gyrfa wych gyda chyfleoedd i arbenigo mewn gwaith gydag oedolion neu blant neu mewn mathau penodol o wasanaethau
  • "Nid oes llawer o gyfleoedd i ennill cymwysterau na chael hyfforddiant" - mae cyflogwr yn rhoi pwyslais mawr ar sicrhau bod eu gweithwyr yn cael yr hyfforddiant a'r cymorth cywir i gyflawni'r swydd; eich iechyd a diogelwch yw'r flaenoriaeth. Gall cymwysterau penodol fod yn ofyniad cyfreithiol, ynghyd â chofrestriad proffesiynol
  • "Mae'n amhosib cael swydd ym maes gofal cymdeithasol os oes gennych chi gofnod troseddol" - efallai y bydd yn rhaid i ymgeiswyr ar gyfer gwaith cymdeithasol gael gwiriad Cofnodion Troseddol yng Nghymru a Lloegr neu wiriad Disclosure Scotland yn yr Alban a datgan pob collfarn flaenorol - ond y cyflogwr sy'n penderfynu - bydd yn ystyried pob dim, ac nid yw cael cofnod troseddol yn golygu o reidrwydd na chewch chi swydd

Manteision gweithio yn y diwydiant gofal cymdeithasol:

Mae llawer o fanteision o weithio yn y diwydiant gofal cymdeithasol, gan gynnwys:

  • cyfleoedd ardderchog - gyrfa wych gyda chyfleoedd i arbenigo mewn gwaith gydag oedolion neu blant neu mewn math penodol o wasanaeth
  • amodau gwaith amrywiol - gan ymweld â phobl yn eu cartrefi neu weithio mewn cartref gofal preswyl neu feithrinfa
  • rhagolygon da - gallwch gael gyrfa wych ac mae cyflogwyr yn rhoi pwyslais mawr ar sicrhau y caiff eu gweithwyr yr hyfforddiant cywir

Enghreifftiau o brofiadau pobl

Bill Jordan, Rheolwr Uned Breswyl

"Cyn dechrau ym maes gwaith cymdeithasol fel gyrfa, roeddwn yn weldiwr pibau. Penderfynais newid gyrfa gan fod gennyf ddiddordeb mewn gweithio yn uniongyrchol gyda phobl ac roeddwn am gael heriau a chyfleoedd newydd. Rwy'n ennill tua £27,000 erbyn hyn."

George Sim, Gweithiwr Cynnal Gofal Cymdeithasol

"Dewisais wneud gwaith cynnal gan fod fy chwaer yn anabl a sylweddolais fod angen gwirioneddol am bobl i wneud y math hwn o waith. Rwy'n ennill £14,000."

Cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am rolau penodol yn y diwydiant gofal cymdeithasol drwy ddefnyddio'r ddolen cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi isod.

Dewch o hyd i swydd yn y sector hwn

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant a gyrfaoedd yn y diwydiant gofal cymdeithasol drwy fynd i'r gwefannau canlynol.

I chwilio am swyddi sydd ar gael yn y sector hwn, defnyddiwch y ddolen 'Dechrau chwiliad swyddi a sgiliau' isod neu ffoniwch 0845 6067 890 i siarad ag ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith.

Bydd yn gallu rhoi gwybod pa help a chymorth sydd ar gael i'ch helpu i mewn i waith.

Additional links

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli eich helpu chi a’ch cymuned – cael gwybod mwy

Dechrau masnachfraint

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hunangyflogedig, efallai y bydd dechrau masnachfraint yn opsiwn sy’n werth ei ystyried

Allweddumynediad llywodraeth y DU