Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Fideo: cyfleoedd ym maes lletygarwch

Gwyliwch fideo o bobl go iawn yn sôn am fwynhau eu gwaith ym maes lletygarwch. Dysgwch sut y gwnaethant gymryd y camau cyntaf at swydd newydd gyda chymorth gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Methu gweld y fideo?

DWP jobcentre videos hospitality employee.jpg

I chwarae'r fideo hwn mae arnoch angen Adobe Flash Player fersiwn 9 neu uwch ar eich cyfrifiadur ac mae'n rhaid i chi fod wedi galluogi JavaScript ar eich porwr. Mae ein tudalen Help gyda ffeiliau fideo yn rhoi cyngor os nad ydych yn sicr sut mae gwneud hyn. Mae'r meddalwedd Flash yn rhad ac am ddim.

Gweithio yn y diwydiant lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth

Dysgwch fwy am y manteision, pa sgiliau sydd eu hangen arnoch, cyfleoedd swyddi a sut i gael cymorth wrth chwilio am swydd

Wayne Androliakos, rheolwr: "Mae lletygarwch yn cwmpasu cymaint o feysydd gwahanol. Unwaith eich bod yn rhan o'r diwydiant lletygarwch gallwch wneud unrhyw beth, o weithio mewn bwytai, llongau teithio, gwestai, tafarndai, bariau. Mae'n creu ymdeimlad bod cymaint o bethau y gallwch eu hystyried ac arallgyfeirio iddynt."

Hilary Boyle, y Ganolfan Byd Gwaith: "I unrhyw un sydd am ddychwelyd i'r gwaith ac sydd wedi bod yn ddi-waith ers amser maith, mae llawer o raglenni'r Ganolfan Gwaith yn helpu pobl i wneud hyn."

Jennifer Taylor, gweithiwr bar a gweinyddes: "Bûm yn ddi-waith am tua thair blynedd ers gadael ysgol. Roeddwn yn teimlo ychydig yn ddiwerth. Doeddwn i ddim yn gwneud dim â'm amser."

Shelley Stevenson, cynorthwy-ydd caffi: "Roeddwn yn fam sengl, ac roedd fy mywyd prysur ond yn cynnwys codi a mynd i siopa, ar y cyfan."

Michael Cych, porthor: "Roeddwn gartref gyda fy ngwraig a dau o blant, yn helpu'r wraig ac yn chwilio am waith bron bob dydd. Roedd hi'n ymdrech fawr ond yn y pen draw cefais gyfle ac fe'i cymerais."

Claire Roberts, gweinydd bwyd a diod: "Byddwn i'n dweud mai'r hyn y mae pobl yn ei wneud ydy mynd i'r Ganolfan Gwaith, eistedd gyda'r ymgynghorydd a chael sgwrs dda gydag ef. Gallwch ddweud wrtho os nad ydych yn hyderus. Dwi'n credu unwaith eich bod yn gwneud y cam cyntaf rydych chi'n benderfynol a dyna hanner y frwydr. Unwaith y byddwch yn dechrau allwch chi ddim troi'n ôl, oherwydd bydd yr ymgynghorydd yn llunio cynllun gweithredu i chi a byddwch yn dilyn yr holl gyrsiau hyn. Po fwyaf o bobl rydych chi'n cwrdd â nhw, y mwyaf o gyrsiau a wnewch. Rydych chi am wneud mwy a dal ati."

Shelley Stevenson: "Rydych yn mynd ar gyrsiau i'ch helpu chi a chewch fwy o help gan y Ganolfan Gwaith a'r cyflogwyr hefyd. Hyd yn oed os mai dim ond cwrs cynhadledd gwerthiannau ydyw, bydd yn rhoi hwb i'ch hyder, er na fyddwch yn sylweddoli hyn, a byddwch yn gweithio ymhen dim."

Jennifer Taylor: "Gwnaethom lawer o waith ar sgiliau cyfweld a sut i drin pobl ag ymddygiad heriol, ac fe wnes i fwynhau yn fawr iawn."

Claire Roberts: "Mae'n eich rhoi ar y llwybr cywir ac yn eich cael yn ôl i mewn i swydd dda. Maen nhw'n eistedd i lawr gyda chi ac yn gofyn beth rydych chi am ei wneud, ac yn eich rhoi ar y trywydd cywir."

Jennifer Taylor: "Roeddwn i am deimlo fy mod i'n werth rhywbeth. Roeddwn am ennill fy arian fy hun a phrynu'r pethau roeddwn am eu cael."

Jennifer Taylor: "Penderfynais ddewis lletygarwch oherwydd fy mod i wrth fy modd â phobl. Dwi wrth fy modd yn siarad â phobl a chlywed straeon gwahanol ac mae mae pawb yn wahanol; mae'n dda ac mae bod o amgylch cymaint o bobl o bedwar ban byd yn chwa o awyr iach."

Shelley Stevenson: "I ddechrau roeddwn yn hynod nerfus ac yna yn ystod y deuddydd diwethaf fe ddois i arfer."

Hilary Boyle: "Yn gyffredinol mae angen i bobl ym maes lletygarwch allu cyfathrebu'n dda â'u cwsmeriaid, gallu cynorthwyo pobl a bod yn gyfeillgar a hyderus."

Claire Roberts: "Rhaid eich bod yn hoffi pobl. Yn amlwg, mae'n rhaid i chi allu cyfathrebu a gwrando'n dda, a chael hwyl wrth i bethau fynd rhagddynt."

Jennifer Taylor: "Dwi'n gweithio tu ôl i'r bar a hefyd fel weinyddes, sy'n cynnwys gweithio tu ôl i'r bar yn gweini diodydd, a gweini bwyd a chlirio byrddau. Sgwrsio â phawb a gwneud yn siŵr eu bod yn fodlon eu byd, yn cael amser da."

Jennifer Taylor: "Mae 'na gymaint o hwyl i'w gael. Mae rhywbeth i'w wneud bob amser. Rydych bob amser yn gweld pobl wahanol. Mae pawb yn brysur ond rydych yn gwneud amser i siarad â'ch gilydd, ac mae'n swnio'n ystrydebol, ond rydyn ni fel un teulu mawr."

Michael Cych: "Dwi'n borthor.Dwi'n mynd allan i nôl bagiau cwsmeriaid pan fyddant yn dod i mewn, ac yn eu cludo i'r ystafell iddynt. Dwi'n dangos yr ystafell iddynt ac yn ateb galwadau am wasanaeth ystafelloedd ac ati, ac yn eu helpu gyda'r gwaith gwasanaeth ystafelloedd. Bob diwrnod dwi'n gwneud rhywbeth yn wahanol.Byddaf yn dod i'r gwaith a dwi ddim yn meddwl fy mod wedi gwneud yr un swyddogaeth ddwywaith eto, mae'n wahanol bob tro."

Shelley Stevenson: "Dwi'n coginio rhywfaint. gosod byrddau a pharatoi bwyd. Dwi wrth fy modd.Mae at fy nant.Dwi'n hoffi'r ffaith fod gen i rywbeth i edrych ymlaen ato wrth godi yn y bore."

Jennifer Taylor: "Mae dod i'r gwaith yn wych. Alla i ddim disgwyl bod yma.Dwi wedi dweud sawl gwaith y dylwn gael sach gysgu a chysgu yma - dwi ar ben fy nigon. Mae'n gymaint o hwyl ac mae pawb mor hapus, mae 'na awyrgylch gwych yma."

Michael Cych: "Dwi'n dysgu pethau newydd bob dydd ac ar y funud dwi'n hyderus tu hwnt."

Shelley Stevenson: "Mae gweithio yn eich gwneud yn fwy hapus gan eich bod yn gwybod eich bod yn gwneud rhywbeth i chi'ch hun a'ch teulu hefyd."

Jennifer Taylor: "Mae gen i amser i'm teulu o hyd a dwi'n ennill yr arian sydd ei angen arnaf i gynnal fy hun, a dwi'n meddwl bod gwybod fy mod yma ac yn gweithio wedi fy newid yn llwyr."

Wayne Androliakos: "Yn fy marn i, mae'r manteision yn enfawr. Rydych yn teimlo eich bod wedi cyflawni rhywbeth bob diwrnod. Rydych yn gweithio gyda phobl gwbl newydd bob diwrnod.Dyw hi ddim yn swydd ddiflas o gwbl."

Matt Redhead, rheolwr gwesty: "Mae pawb yn dda am wneud rhywbeth ac eto, peidiwch ag ofni rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol. Fwy na thebyg y byddwch yn gweld y gallwch wneud y swydd rydych wedi dod yma i'w gwneud."

Shelley Stevenson: "Fyddwn i byth yn mynd nôl i fod yn ddi-waith. Allwn i ddim."

Jennifer Taylor: "Mae cymaint o agweddau gwahanol ar letygarwch, gallai fod ym mlaen y tŷ, gallai fod yn borthor cegin, gallai fod yn gogydd, gallai fod yn unrhyw beth. Mae'n yrfa ddi-ben-draw, gallwch gyfnewid a newid a fyddwch chi byth yn diflasu."

Claire Roberts: "Dwi ddim yn siŵr i ba gyfeiriad dwi am fynd ond gobeithio, efallai, y bydd swydd arall ar gael ymhen chwech i ddeuddeg mis ac yna bydda i'n gwneud cais am y swydd honno a, gobeithio, y bydda i'n dringo'r ysgol hefyd."


Gweithio yn y diwydiant lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth

Dysgwch fwy am y manteision, pa sgiliau sydd eu hangen arnoch, cyfleoedd swyddi a sut i gael cymorth wrth chwilio am swydd

Additional links

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli eich helpu chi a’ch cymuned – cael gwybod mwy

Dechrau masnachfraint

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hunangyflogedig, efallai y bydd dechrau masnachfraint yn opsiwn sy’n werth ei ystyried

Allweddumynediad llywodraeth y DU