Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn mwynhau bod yn rhan o dîm, ac yn barod i weithio'n galed a chael rhywfaint o hwyl hefyd, dylech ystyried gweithio ym maes lletygarwch, hamdden, teithio neu dwristiaeth. Dewch i wybod am brofiadau pobl, ble i gael cyngor gyrfaoedd a sut i gael help i ddod o hyd i swydd.
Mae'r sector anferth hwn yn cynnig amrywiaeth o swyddi cyffrous gan gynnwys:
• gweithiwr bar
• cogydd
• trefnydd digwyddiadau a chynhadleddau
• croesawydd blaen y tŷ
• rheolwr cyffredinol gwesty
• tywysydd teithiau
Dyma rywfaint o sylwadau cadarnhaol gan bobl sy'n gweithio yn y diwydiant lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth ar hyn o bryd:
Ibrahim Naseem, Gweinydd Bwyty
"Mae cyfarfod â phobl newydd drwy'r amser yn golygu nad oes dau ddiwrnod yr un fath. Rwy'n eithaf cymdeithasol a hyderus felly mae gweithio mewn bwyty yn addas iawn i mi."
Gary Brown, Rheolwr Parc Thema
"Mae cyfle gwych i ddod ymlaen yn y diwydiant yma. Efallai y byddwch yn dechrau fel gweinydd ac yn symud ymlaen i fod yn rheolwr digwyddiadau."
Yn aml mae gan bobl syniadau pendant am swyddi gwahanol. Ond mae'n bwysig cael y ffeithiau bob amser. Dyma rywfaint o gamsyniadau cyffredin, ynghyd â'r ffeithiau go iawn:
Mae llawer o fanteision o weithio yn y diwydiant lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth, gan gynnwys:
Gina Tomas, Cynrychiolydd Gwyliau Plant
"Mae gen i swydd wych. Rwy'n croesawu'r holl westeion ifanc i'n parc gwyliau ac yn gwneud fy ngorau i'w cadw'n hapus ac wedi'u difyrru nes iddynt fynd adref. Rwy'n rhan o dîm mawr a rhaid i ni gydweithio'n dda. Ar hyn o bryd ni fyddwn yn cyfnewid fy swydd am ddim byd! Rwy'n ennill £12,000."
Martin Lyons, Cogydd Tafarn
"Mae fy swydd yn un ymarferol ac mae gen i ddiddordeb brwd mewn bwyd. Rwy'n paratoi, coginio a chyflwyno amrywiaeth o brydau, gyda chymorth dau gogydd dan hyfforddiant. Rwy'n cael datblygu prydau a bwydlenni newydd, felly mae ychydig o greadigrwydd i'w daflu i'r crochan hefyd. Mae fy nghyflog yn £19,000."
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am swyddogaethau penodol yn y diwydiant lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth drwy ddefnyddio'r ddolen cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi isod.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant a gyrfaoedd yn y diwydiant lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth drwy fynd i'r gwefannau isod.
I chwilio am swyddi sydd ar gael yn y sector hwn, defnyddiwch y ddolen 'Dechrau chwiliad swyddi a sgiliau' isod neu ffoniwch 0845 6067 890 i siarad ag ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith.
Byddant yn gallu rhoi gwybod pa help a chymorth sydd ar gael i'ch helpu i mewn i waith.