Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Fideo: cyfleoedd ym maes rheoli cyfleusterau

Gwyliwch fideo o bobl go iawn yn sôn am sut y mae gweithio ym maes rheoli cyfleusterau yn gwneud eu bywydau yn fwy bodlon. Dysgwch sut i ddechrau a'r math o hyfforddiant y gallwch ei gael i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch.

Methu gweld y fideo?

DWP jobcentre videos fm employee.jpg

I chwarae'r fideo hwn mae arnoch angen Adobe Flash Player fersiwn 9 neu uwch ar eich cyfrifiadur ac mae'n rhaid i chi fod wedi galluogi JavaScript ar eich porwr. Mae ein tudalen Help gyda ffeiliau fideo yn rhoi cyngor os nad ydych yn sicr sut mae gwneud hyn. Mae'r meddalwedd Flash yn rhad ac am ddim.

Gweithio yn y diwydiant rheoli cyfleusterau

Dysgwch pa sgiliau sydd eu hangen arnoch, y cyfleoedd a gynigir a sut i gael cymorth wrth ddod o hyd i swydd yn y diwydiant rheoli cyfleusterau.

Lee Wiltshire, Carillion: "Rydym yn ddarparwr gwasanaeth rheoli cyfleusterau meddal. Cyfleusterau meddal yw pob math o wasanaethau a ddarperir i'r ysbyty heblaw'r rhai clinigol. Rydym yn gwneud yr holl waith glanhau, arlwyo, diogelwch, cynnal a chadw'r safle ac ati. Mae gennym 16 o wahanol wasanaethau rydym yn eu darparu i'r ysbyty gan gyflogi dros 900 o bobl ac mae'r gwasanaethau hynny yn hanfodol i weithrediad yr ysbyty."

Julia Featherstone, Carillion: "Mae pob math o bobl wedi ymuno â ni. Yn ddiweddar mae pobl wedi dod atom a oedd yn rheolwyr yn flaenorol ac newydd golli eu swyddi, ac bellach maent yn cadw tŷ.Ac maen nhw wir yn mwynhau.Wn i ei bod fwy na thebyg yn hollol wahanol i'r hyn y byddent yn ei wneud fel arall ond mae'n rhywbeth newydd, yn her newydd a hyd yn hyn mae wedi bod yn eithaf da."

Steve Butt, Carillion: "Roeddwn yn ddi-waith am chwe mis. Roeddwn wedi bod yn chwilio am waith yn y cyfnod hwnnw yn y sector manwerthu. Rheolwr manwerthu oeddwn i, dyna'r hyn roeddwn yn ei wybod ond doedd dim swyddi o gwmpas ar y pryd. Byddwn yn gwneud cais am 40 neu 50 o swyddi ar yr un pryd a mynd i sawl cyfweliad i chwilio am waith. Dewisais y swydd yn Carillion gan fy mod eisiau parhau i ymdrin â chwsmeriaid neu gleifion gan fod gennyf y sgiliau o ddelio â phobl. Ond roedd yn llwybr gwahanol y gallwn ei ddilyn hefyd a gobeithio y gallwn ddatblygu yn Carillion."

Julia Featherstone: "Ymunais â'r GIG gyntaf fel PSA ac mae hynny ddeng mlynedd yn ôl erbyn hyn, a bellach dwi'n arweinydd tîm felly mae bob amser gyfleoedd gyrfa os ydych am eu cael.Mae llawer o'n staff yn mynd i fod yn weithwyr cymorth gofal iechyd oherwydd pan fyddwch yn gweithio yn y math hwnnw o amgylchedd rydych yn clywed am y swyddi gwag sy'n dod i'r fei."

Lee Wiltshire: "Mae angen i'n hymgeiswyr allu gweithio mewn amgylchedd ysbyty.Nid yw'r un fath ag unrhyw leoliad swydd arall felly mae angen i bobl fod yn ymwybodol o'r hyn y byddant yn dod i gysylltiad ag ef.Byddant yn dod i gysylltiad â chleifion a staff ac ymwelwyr yn aml felly mae angen sgiliau gofal cwsmeriaid da arnynt ac mae angen i staff allu dilyn cyfarwyddiadau a phrosesau gwaith sy'n ofynnol mewn ysbyty modern prysur."

Nigel Patterson, City Facilities Management: "Rydym yn gwmni rheoli cyfleusterau sy'n darparu gwasanaeth cwsmeriaid i 350 o siopau ASDA ledled y wlad lle rydym yn glanhau popeth mewn siop ASDA ac yn cynnal popeth sydd angen ei drwsio. Ar ochr beirianyddol y busnes rydym yn chwilio am beirianwyr medrus.Rydym yn cyflogi dros fil ohonynt. Gallant fod yn drydanwyr. Gallant fod yn beirianwyr H vac, peirianwyr rheweiddio, tirlunwyr, seiri ac ati.Mae angen y sgiliau hynny arnom ym mhob ardal ac ym mhob siop. O ran ochr lanhau ein busnes mae pobl sy'n ymwneud â gwasanaethau sy'n deall y broses o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid, sy'n frwd dros gadw'r siop yn lân."

Derek Sarath, City Facilities Management: "Mae mwy o waith glanhau nag y byddech yn ei feddwl. Rydych yn dod i gysylltiad â chemegion, rhaid i chi ddysgu am y rheini. Gallwch ddilyn cwrs NVQ Lefel 2 ar cemegion glanhau."

Nigel Patterson: "Ar hyn o bryd mae gennym tua 100 o leoedd gwag i lanhawyr ledled y wlad ac mae gennym tua deg o swyddi gwag i beirianwyr ond mae'r sefyllfa honno fwy na thebyg yn newid, oherwydd gallai nifer y swyddi gwag newid yfory.Os oes rhywun yno sydd wedi bod yn ddi-waith am amser hir neu sydd ag anabledd ac sydd am ddychwelyd i'r gwaith rydym am eich helpu i ddychwelyd i'r gwaith os gallwn ynghyd â'r Ganolfan Byd Gwaith."

Derek Sarath: "Roeddwn wedi dod drwy gyfnod o salwch ac yn ddi-waith ers ychydig fisoedd. Doedd dim ffordd i mi wybod sut i ddychwelyd i'r gwaith oherwydd fy salwch ac fe'm hargymhellwyd gan ymgynghorydd yn y Ganolfan Gwaith yn Lerpwl i fynd i le o'r enw Remploy. Roeddwn wedi clywed amdano ond nid oeddwn wedi'i ddefnyddio o'r blaen.Pan es yno gwnaethant i mi deimlo'n gyfforddus a dywedais wrthynt am fy anableddau a'r problemau yr oeddwn wedi'u cael a dywedodd ASDA bod hynny'n iawn, y cawn ddechrau ar fy swydd yn raddol ac na fydd unrhyw beth yn peri gormod o straen. Dyna ddigwyddodd ac roedd popeth yn iawn."

Lee Wiltshire: "Fy nghyngor i bobl sydd am ddychwelyd i'r gwaith yw mynd i'r Ganolfan Gwaith a dod yn rhan o Bartneriaeth Cyflogaeth Leol.Gall y treialon gwaith, sef yr hyfforddiant cyn-gyflogaeth, agor eu meddyliau i roi cynnig ar waith gwahanol.Mae pobl wedi dod i'n meysydd gwaith sydd heb wneud y math hwn o waith o'r blaen ond sy'n ei fwynhau ac sy'n debygol, gobeithio, o aros gyda ni am gryn amser."

Nigel Patterson: "Mae'n wych cwrdd â phobl bob dydd a chael rhywbeth y gallwch fod yn falch ohono yn hytrach na bod gartref ac efallai wneud dim byd.Mae gwaith yn weithgaredd cymdeithasol sy'n gwneud bywyd yn fwy o hwyl."

Derek Sarath: "Daw boddhad swydd o'r ffaith fy mod yn codi'n fore a chael rhywbeth i'w wneud am y diwrnod yn hytrach nag eistedd a gwylio'r teledu.Felly dwi'n ôl yn y gwaith ac yn teimlo'n ddefnyddiol, yn lle teimlo'n dda i ddim fel cynt."

Steve Butt: "Dwi'n hapusach nag erioed nawr.Dwi ddim o dan straen, nid oes unrhyw broblemau a dwi'n dod i'r gwaith yn hapus, ac yn mynd gartre'n hapus."

Gweithio yn y diwydiant rheoli cyfleusterau

Dysgwch pa sgiliau sydd eu hangen arnoch, y cyfleoedd a gynigir a sut i gael cymorth wrth chwilio am swydd yn y diwydiant rheoli cyfleusterau.

Additional links

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli eich helpu chi a’ch cymuned – cael gwybod mwy

Dechrau masnachfraint

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hunangyflogedig, efallai y bydd dechrau masnachfraint yn opsiwn sy’n werth ei ystyried

Allweddumynediad llywodraeth y DU