Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gweithio yn y diwydiant rheoli cyfleusterau

Os ydych yn onest, yn ddibynadwy ac yn hoffi gweithio naill ai ar eich pen eich hun neu fel rhan o dîm, efallai yr hoffech ystyried gweithio yn y diwydiant rheoli cyfleusterau. Dysgwch am brofiadau pobl, ble i gael cyngor gyrfaoedd a sut i gael help i ddod o hyd i swydd.

A yw rheoli cyfleusterau yn addas i chi?

Mae amrywiaeth eang o swyddi ar gael yn y diwydiant rheoli cyfleusterau ac mae llawer ohonynt bellach yn cynnig cyfleoedd llawn-amser, gan gynnwys swyddi gofalwyr, glanhau strydoedd a glanhau ceir. Gan weithio mewn swyddfa, ysbyty neu yn yr awyr agored; gallai'r diwydiant rheoli cyfleusterau fod yn addas i chi.

P'un a ddewch yn lanhawr swyddfa, technegydd rheoli plâu, neu'n lanhawr mewn ysbyty, archfarchnad neu gartref preifat, mae digon o ddewis o fathau o swyddi ar gael.

Dyma rywfaint o sylwadau cadarnhaol gan bobl sy'n gweithio yn y diwydiant rheoli cyfleusterau ar hyn o bryd:

Susan Mitchell, Perchennog Busnes

"Dechreuais fel rhan o'r tîm. Bellach rwy'n goruchwylio tîm ar gyfer fy nghwmni fy hun."

Lee Harper, Glanhawr Ceir

"Mae'n wych pan welwch fod eich holl waith caled wedi bod yn werth y drafferth - a phan fydd yr haul yn gwenu mae gweithio yn yr awyr agored yn fonws go iawn."

Rheoli cyfleusterau: y ffeithiau

Yn aml mae gan bobl syniadau pendant am swyddi gwahanol. Ond mae'n bwysig cael y ffeithiau bob amser. Dyma rywfaint o gamsyniadau cyffredin, ynghyd â'r ffeithiau go iawn:

  • "Nid oes llawer o ragolygon ym maes glanhau" - mae'n bosibl dechrau fel glanhawr a gweithio eich ffordd i fyny - dechreuodd Prif Weithredwr Sefydliad Gwyddor Glanhau Prydain (BICSc) ei yrfa fel glanhawr
  • "Mae'r swyddi glanhau i gyd yn rhan-amser" - mae llawer mwy o swyddi glanhau yn cynnig cyfleoedd llawn-amser erbyn hyn a hyd yn oed mwy yn dechrau gwneud hynny, er enghraifft, mae swyddi gofalwyr, glanhau strydoedd a glanhau ceir i gyd yn cynnig gwaith llawn-amser
  • "Mae pobl yn y sector hwn yn gweithio ar eu pen eu hunain" - mae'n dibynnu ar faint y cwmni, er enghraifft, gall glanhawyr weithio ar eu pen eu hunain, neu mewn timau bach - caiff tîm bach ei arwain gan oruchwyliwr yn aml, sy'n atebol i reolwr llinell yn ei dro; bydd glanhawyr hunangyflogedig a thechnegwyr rheoli plâu yn aml yn gweithio ar eu pen eu hunain

Manteision gweithio yn y diwydiant rheoli cyfleusterau

Mae llawer o fanteision o weithio yn y diwydiant rheoli cyfleusterau, gan gynnwys:

  • cyfleoedd ardderchog - mae amrywiaeth eang o swyddi llawn-amser a rhan-amser ar gael
  • hyblygrwydd - golyga cyfleoedd rhan-amser y gallwch drefnu gwaith i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau eraill
  • amodau gwaith amrywiol - gan weithio mewn swyddfeydd, ysbytai neu yn yr awyr agored
  • rhagolygon da - lle da i feithrin profiad ym maes rheoli

Enghreifftiau o brofiadau pobl

Naheem Madhok, Gofalwr Ysgol

"Dechreuais fel gofalwr cynorthwyol ond pan wnaeth y prif ofalwr ymddeol, cefais i'r swydd. Nid oedd gen i unrhyw gymwysterau pan ddechreuais i, ond rwyf wedi bod yn gweithio'n galed tuag at NVQ mewn rheoli cyfleusterau. "Rwyf wrth fy modd ag amrywiaeth y swydd – mae pob diwrnod yn wahanol! Rwy'n ennill tua £16,500 erbyn hyn."

Phill Reilly, Technegydd Rheoli Plâu

"Mae'n swydd hynod o ddiddorol ac amrywiol. Mae plâu yma i aros - felly mae bob amser angen talent newydd arnom i frwydro'r pryfed. P'un a wyf yn rheoli pryfed, llygod neu lygod mawr, mae'n braf gweld wynebau hapus pan fyddaf wedi diogelu cartref neu swyddfa rhywun rhag plâu. Mae gen i lawer o brofiad bellach ac rwy'n ennill £25,000."

Cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am rolau penodol yn y diwydiant rheoli cyfleusterau drwy ddefnyddio'r ddolen cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi isod:

Dewch o hyd i swydd yn y sector hwn

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant a gyrfaoedd yn y diwydiant rheoli cyfleusterau drwy fynd i'r gwefannau canlynol:

I chwilio am swyddi sydd ar gael yn y sector hwn, defnyddiwch y ddolen 'Dechrau chwiliad swyddi a sgiliau' isod neu ffoniwch 0845 6067 890 i siarad ag ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith.

Bydd yn gallu rhoi gwybod pa help a chymorth sydd ar gael i'ch helpu i mewn i waith.

Additional links

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli eich helpu chi a’ch cymuned – cael gwybod mwy

Dechrau masnachfraint

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hunangyflogedig, efallai y bydd dechrau masnachfraint yn opsiwn sy’n werth ei ystyried

Allweddumynediad llywodraeth y DU