Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gwyliwch fideo o bobl go iawn yn sôn am sut y mae gweithio ym maes lletygarwch wedi newid eu bywydau. Dysgwch sut maent wedi meithrin eu sgiliau a'u hyder i'w helpu i gael swydd y maent yn ei mwynhau.
I chwarae'r fideo hwn mae arnoch angen Adobe Flash Player fersiwn 9 neu uwch ar eich cyfrifiadur ac mae'n rhaid i chi fod wedi galluogi JavaScript ar eich porwr. Mae ein tudalen Help gyda ffeiliau fideo yn rhoi cyngor os nad ydych yn sicr sut mae gwneud hyn. Mae'r meddalwedd Flash yn rhad ac am ddim.
Dysgwch fwy am y manteision, pa sgiliau sydd eu hangen arnoch, cyfleoedd swyddi a sut i gael cymorth wrth chwilio am swydd
Stephanie Farrell, Tesco: "Roeddwn yn fam sengl i'm merch, Isobel, ac yn byw yn Haydock ar fy mhen fy hun gyda'm merch. Roedd hi'n ddwy oed pan gefais daflen drwy'r drws. Ar y pryd, roeddwn yn eithaf digalon ac unig, a dweud y gwir. Roeddwn yn ceisio dychwelyd i'r gwaith ond yn ei chael hi'n anodd iawn. Pan fyddwch allan o waith am gymaint o amser, mae'n anodd cymryd y cam cyntaf."
Michelle Beardwood, Tesco: "Gan eich bod wedi bod ar fudd-daliadau a'ch bod wedi bod yn ddi-waith ers cyhyd dwi'n meddwl eich bod yn gosod rhwystrau i chi'ch hun."
Janice Ramshaw, Canolfan Byd Gwaith: "Rydym yn cyfweld â chwsmeriaid ac yn nodi eu hanghenion a beth maent am ei wneud, ac mae cynlluniau hyfforddiant penodol y gallwn roi pobl arnynt i ddatblygu'r sgiliau meddal. Sgiliau cyfathrebu da. Felly pan fyddant yn wynebu cyflogwr ac yn gorfod eistedd o'i flaen a chael cyfweliad, bydd ganddynt y sgiliau i gystadlu am y swydd."
Jo Frith, Tesco: "Mae Tesco wedi bod yn cynnal partneriaethau am amser maith. Ond yn ddiweddar, fel y llynedd, gwnaethom gofrestru â Phartneriaeth Cyflogaeth Leol. Yn Haydock gwnaethom roi gwaith i 99 o bobl drwy broses partneriaeth."
Stephanie Farrell: "Wel, dechreuais yn cael hyfforddiant ar y mannau talu. Gwnes hyfforddiant arian yn syth oherwydd fy mod wrth fy modd ag ef. Roeddwn mor frwdfrydig fel bod yn rhaid fy llusgo i ffwrdd i gymryd fy egwyl."
Jo Frith: "Gallant gael cyrsiau ardystiedig nad ydynt wedi eu gwneud o'r blaen. Mae hynny'n rhoi hyder ac ymdeimlad o gyrhaeddiad iddynt o ran beth y maent yn ei wneud."
Michelle Beardwood: "Dwi'n meddwl bob tro rydych yn gwneud rhywbeth gwahanol. Os ydych yn cael yr hyder a bod pobl yn ymddiried ynoch i wneud gwaith ar lawr y siop - fel gwneud gwaith arweinydd tîm pan fydd yn absennol mae'n rhoi ychydig yn fwy o hunan-werth i chi. Felly, yn ogystal â rhoi'r awydd i mi fynd i'r gwaith i weithio, dwi am ddatblygu hefyd."
Lynn Bavage, cwmni manwerthu Skills Smart: "Mae nifer o gyfleoedd i bobl sydd am weithio ym maes manwerthu. Mae'n sector hyblyg iawn. Felly gallwch ddewis yr oriau rydych am eu gweithio i gyd-fynd â'ch bywyd fel y gall y swydd gyd-fynd â'ch ffordd o fyw, a'ch ffordd o fyw gyd-fynd â'r swydd."
Gemma Hughes, cyflogai siop goffi Tilly's: "Roeddwn yn TK Maxx ar absenoldeb mamolaeth. Roeddwn newydd gael mab ac roedd yn ormod o waith i mi. Oherwydd fy mod wedi gweithio mewn siop pysgod a sglodion o'r blaen, a oedd yn brofiad drwg, meddyliais y gallai caffi fod yn wahanol, ac y byddwn yn rhyngweithio â phobl. Credais drwy ddod yma a chael profiad gan bobl a allai wybod mwy na mi, y gallai arwain at gyfleoedd busnes i mi fy hun."
Gillian Quigley, siop goffi Tilly's: "Fel manwerthwr, dwi ddim o reidrwydd yn mynd am gymwysterau. Dwi wedi dysgu o'r gorffennol fod profiad weithiau'n wych, ac yn amlwg mae hwnnw'n rhywbeth y byddwn yn edrych arno. Ond os nad oes neb yn cael y cyfle cyntaf hwnnw sut maen nhw am feddu ar y profiad y mae pawb yn chwilio amdano? Dwi'n chwilio am y gallu i gyfathrebu.Dwi'n chwilio am rywun all gadw amser yn dda.Dwi'n chwilio am rywun dibynadwy y gallaf ymddiried ynddo."
Lynn Bavage: "Mae'r sector manwerthu yn chwilio am bobl ddibynadwy y gellir ymddiried ynddynt ac sy'n dda am weithio gyda phobl eraill. Cyfathrebwyr da sy'n mwynhau gweithio gyda'r cynnyrch, yn y bôn. Pobl sydd yn meithrin perthynas â chwsmeriaid fel eu bod am brynu mwy gennych yn y dyfodol."
Stephanie Farrell: "Mae'n rhaid i unrhyw siop fanwerthu rydych yn mynd iddi ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid. Ac mae'n rhaid i chi feddu ar yr hyder i allu gwneud hynny. Os nad ydych yn hyderus, mae pobl eraill yn y siop a fydd yn eich helpu, a bydd siarad â phobl newydd bob dydd yn meithrin eich hyder. Dwi ddim yn credu bod unrhyw sgiliau sydd wirioneddol eu hangen arnoch, gallwch adeiladu ar eich sgiliau. Beth bynnag a wnewch chi, bydd yn rhaid i chi ddatblygu. Felly os nad oes gennych unrhyw beth o gwbl, gallwch fod yn beth bynnag yr hoffech fod yn y siop. Pa siop bynnag ydy honno."
Andrea Francis, y Ganolfan Byd Gwaith: "O ran y sector manwerthu mae gan y rhan fwyaf o'r cwsmeriaid y sgiliau hyn yn barod, ond nid ydynt yn sylweddoli hyn. Mae gan nifer ohonynt sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid. Maent wedi arfer cyfathrebu â phobl yn rheolaidd a dyna'r prif beth y mae cyflogwyr manwerthu yn chwilio amdano. Maent am gael pobl a all ddelio â chwsmeriaid mewn ffordd dda. Yn llythrennol, mae'n golygu sylweddoli beth yw eu sgiliau a'u trosglwyddo i'r gweithle."
Lynn Bavage: "Dylai pobl ystyried manwerthu fel gyrfa oherwydd gall rhywun ddatblygu'n gyflym. Mae potensial mawr i ennill arian da. Mae'r cyfleoedd yno os oes gennych yr agwedd gywir a'r gallu cywir a'ch bod yn mynd ati o ddifrif i wneud y gwaith."
Stephanie Farrell: "Gallwn weld fy hun yn datblygu. Gallwn weld fy hun fel arweinydd tîm o fewn chwe mis, ond gwn y byddaf yn arweinydd tîm rywbryd. Yn rheolwr hefyd, gobeithio, a phwy a ŵyr beth nesaf. Rwyf wedi cyflwyno fy opsiynau oherwydd fy mod am fod yn arweinydd tîm y mannau talu. Ers i mi gyflwyno fy opsiynau dwi wedi cael cynnig swydd fel rheolwr ar lawr y siop yn llawn amser, a bellach dwi'n pwyso a mesur y manteision wrth i mi fentro i mewn i gyflogaeth llawn amser. Ond allwn i ddim fod yn hapusach."
Michelle Beardwood: "Dwi'n credu mai'r hyder sydd bwysicaf. Gwnaeth fy hunan-werth gynyddu'n eithriadol. Es i ddim yn rhy fawr i'm 'sgidiau ond mae gwybod eich bod yn rhan o dîm, lle bynnag y bo, yn deimlad gwych. Mae'n dda cael rhywbeth arall i'w wneud yn lle codi yn y bore a glanhau eich tŷ, mynd â'r plant i'r ysgol, glanhau'r tŷ, mynd i nôl y plant a glanhau'r tŷ. Mae gennych rywbeth i'w wneud - mae gennych bwrpas."
Gillian Quigley: "Fy nghyflogeion yw rhan bwysicaf fy musnes. Nhw yw wyneb cyhoeddus fy musnes. Fy nghyngor i yw rhoi cynnig ar y Ganolfan Gwaith. Ewch amdani, gall dalu ar ei ganfed."
Gemma Hughes: "Ewch i'r Ganolfan Gwaith, siaradwch â llu o bobl oherwydd maent wir yn rhoi help i chi. Os cewch gynnig swydd, ewch amdani. Peidiwch â dweud 'na, dwi ddim eisiau gwneud hynny'. Rhowch gynnig arni."
Lynn Bavage: "Fy nghyngor i yw, ewch amdani.Mae'n swydd gyffrous a dwi'n ei mwynhau. Mae pob diwrnod yn wahanol. Byddwch yn gweithio gyda phobl. Byddwch yn gweithio gyda chynnyrch gwahanol a dyma'r swydd orau yn y byd."
Dysgwch fwy am y manteision, pa sgiliau sydd eu hangen arnoch, cyfleoedd swyddi a sut i gael cymorth wrth chwilio am swydd