Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gweithio yn y diwydiant manwerthu

Os ydych yn mwynhau helpu pobl, neu am swydd ag iddi amrywiaeth a hyblygrwydd, efallai yr hoffech ystyried gweithio ym maes manwerthu. Dysgwch am brofiadau pobl, ble i gael cyngor gyrfaoedd a sut i gael help i ddod o hyd i swydd.

A yw gweithio yn y diwydiant manwerthu yn addas i chi?

Y sector manwerthu yw un o'r sectorau mwyaf amrywiol a chyffrous y gallech ei ddewis fel gyrfa. Mae cyfleoedd ar gyfer datblygu eich gyrfa'n gyflym, cael cyflogau da a manteision i staff.

Dyma rywfaint o sylwadau cadarnhaol gan bobl sy'n gweithio yn y diwydiant manwerthu ar hyn o bryd:

John Mateer, Cynorthwy-ydd Gwerthu

"Y peth gorau yw fod diddordeb brwd gen i am yr hyn rwy'n ei werthu - sy'n gwneud helpu cwsmeriaid yn hawdd iawn."

Janice Ramsden, Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid

"Hoffwn feddwl amdanaf fy hun fel un sy'n gallu datrys problemau. Y peth pwysig yw peidio â chyffroi a bod yn amyneddgar a bod yn gwbl gyfarwydd â'n cynhyrchion."

Manwerthu: y ffeithiau

Yn aml mae gan bobl syniadau pendant am swyddi gwahanol. Ond mae'n bwysig cael y ffeithiau bob amser. Dyma rywfaint o gamsyniadau cyffredin, ynghyd â'r ffeithiau go iawn.

  • "Nid yw graddedigion yn gweithio yn y sector manwerthu" - mewn gwirionedd mae 29% o'r holl raddedigion diweddar sy'n gweithio mewn rolau rheoli yn gweithio ym maes manwerthu
  • "Mae manwerthu yn swydd gyda rhagolygon cyfyngedig" - mewn gwirionedd, mae gan fanwerthwyr raglenni hyfforddi gwych ac maent yn cynnig llawer o ddewisiadau gyrfaol gwahanol
  • "Mae gweithio yn y sector manwerthu yn golygu cyflog isel" - ddim yn wir, mae amrywiaeth eang o gyflogau gan ddechrau o'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • "Mae angen llawer o brofiad arnoch i gael swydd yn y sector manwerthu" - mewn gwirionedd, mae meddu ar agwedd gadarnhaol a bod yn gyfathrebwr da yn bwysicach na llawer o brofiad

Manteision gweithio yn y diwydiant manwerthu

Mae llawer o fanteision o weithio yn y diwydiant manwerthu, gan gynnwys:

  • cyfleoedd ardderchog - mae gan fanwerthwyr raglenni hyfforddi gwych sy'n cynnig llawer o ddewisiadau gyrfaol gwahanol
  • hyblygrwydd - mae llawer o feysydd o waith manwerthu lle na fyddwch yn gaeth i weithio rhwng 9.00am a 5.00pm, a all rhoi'r hyblygrwydd sydd ei angen arnoch
  • amodau gwaith amrywiol - er enghraifft fe allech fod yn yrrwr i archfarchnad neu'n gweithio mewn swyddfa
  • rhagolygon da - mae cyfleoedd ar gyfer datblygu eich gyrfa yn gyflym

Enghreifftiau o brofiadau pobl

Leanne Jones, Cynorthwy-ydd Siop

"Dydw i ddim yn gaeth i weithio naw tan bump, sy'n rhoi'r hyblygrwydd sydd ei angen arnaf. Gallaf weithio o gwmpas fy ymrwymiadau teuluol, sy'n bwysig iawn. Pan fydd cwsmer yn diolch i mi am y cymorth rwyf wedi'i roi iddynt, mae'n ei wneud yn werth chweil. Rwy'n ennill £14,000."

Nadia Mohammad, Rheolwr Gwerthu

"Nid yw'r amgylchedd cyflym a gweithio i dargedau gwerthu yn addas i bawb, ond rwyf wrth fy modd. Des i yma drwy gynllun hyfforddi graddedigion yn syth o'r brifysgol a dw i erioed wedi edrych yn ôl. Rwyf wedi bod yma am ddwy flynedd, rwyf bellach yn rheoli tîm o 20 o bobl ac rwy'n ennill £30,000 y flwyddyn."

Cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am rolau penodol yn y diwydiant manwerthu drwy ddefnyddio'r ddolen cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi isod:

Dewch o hyd i swydd yn y sector hwn

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant a gyrfaoedd yn y diwydiant manwerthu drwy fynd i'r gwefannau canlynol.

I chwilio am swyddi sydd ar gael yn y sector hwn, defnyddiwch y ddolen 'Dechrau chwiliad swyddi a sgiliau' isod neu ffoniwch 0845 6067 890 i siarad ag ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith.

Bydd yn gallu rhoi gwybod pa help a chymorth sydd ar gael i'ch helpu i mewn i waith.

Additional links

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli eich helpu chi a’ch cymuned – cael gwybod mwy

Dechrau masnachfraint

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hunangyflogedig, efallai y bydd dechrau masnachfraint yn opsiwn sy’n werth ei ystyried

Allweddumynediad llywodraeth y DU