Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes gennych ddiddordeb yn y ffordd y mae pethau'n gweithio, neu rydych yn hoffi cynhyrchu a gwneud pethau, efallai yr hoffech ystyried gweithio ym maes peirianneg. Dysgwch am brofiadau pobl, ble i gael cyngor gyrfaoedd a sut i gael help i ddod o hyd i swydd.
Efallai bod gennych ddiddordeb mewn technoleg newydd neu mewn defnyddio eich sgiliau mathemateg, gwyddoniaeth neu gyfathrebu i ddatrys problemau ym maes datblygu cynlluniau. Os felly gallai peirianneg fod yn addas i chi. Mae peirianneg yn cynnig diwydiant cyflym a chystadleuol gyda chyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd.
Dyma rywfaint o sylwadau cadarnhaol gan bobl sy'n gweithio yn y diwydiant peirianneg ar hyn o bryd:
Karen Sanders, Gosodwr Offer Cynnal a Chadw a Pheirianneg
"Rwy'n mwynhau bod yn gyfrifol am ansawdd fy ngwaith fy hun."
Shona Wright, Peiriannydd Dylunio
"Rwyf wrth fy modd yn meddwl am syniadau a datrysiadau sy'n mynd â'm gwaith o ddarn o bapur i gynnyrch gorffenedig."
Yn aml mae gan bobl syniadau pendant am swyddi gwahanol. Ond mae'n bwysig cael y ffeithiau bob amser. Dyma rywfaint o gamsyniadau cyffredin, ynghyd â'r ffeithiau go iawn:
Mae llawer o fanteision o weithio yn y diwydiant peirianneg, gan gynnwys:
Holly Moss, Peiriannydd Cymorth Technegol
"Rwy'n gweithio fel peiriannydd cymorth technegol, gan helpu i sicrhau fod y dechnoleg sy'n caniatáu i weithredwyr wneud eu galwadau yn gweithio'n iawn. Fe astudiais gyfrifiadureg yn y brifysgol, a dyma fy swydd gyntaf ar ôl graddio. Dwi wrth fy modd! Rwy'n ennill £20,000 y flwyddyn."
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am rolau penodol yn y diwydiant peirianneg drwy ddefnyddio'r ddolen cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi isod:
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant a gyrfaoedd yn y diwydiant peirianneg drwy fynd i'r gwefannau canlynol:
I chwilio am swyddi sydd ar gael yn y sector hwn, defnyddiwch y ddolen 'Dechrau chwiliad swyddi a sgiliau' isod neu ffoniwch 0845 6067 890 i siarad ag ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith.