Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gweithio yn y llywodraeth

Mae pobl sy'n gweithio yn y llywodraeth yn helpu i sicrhau bod ein gwlad a'n cymunedau yn rhedeg yn esmwyth. Os ydych yn barod am her newydd ac am wneud gwahaniaeth, efallai yr hoffech ystyried gweithio yn y llywodraeth. Dysgwch am brofiadau pobl, ble i gael cyngor gyrfaoedd a sut i gael help i ddod o hyd i swydd.

A yw gweithio yn y llywodraeth yn addas i chi?

Mae llywodraeth ganolog a chynghorau lleol yn cynnig amrywiaeth wych o swyddi diddorol ag amodau gwaith da, cyfleoedd hyfforddi gwerthfawr a rhagolygon gyrfa gwych. Gallai gweithio yn y llywodraeth fod yn addas i chi.

Dyma rywfaint o sylwadau cadarnhaol gan bobl sy'n gweithio yn y llywodraeth ar hyn o bryd:

Una Robert, Swyddog Safonau Masnach

"Mae fy swydd gyda'r cyngor lleol yn rhoi ymdeimlad mawr o foddhad i mi. Mae'n talu'n dda a daw bob dydd â her newydd a gwahanol."

Des Crane, Swyddog Cyngor ar Dai

"Rwy'n gweithio i'r cyngor, gan gynorthwyo tenantiaid ag anawsterau dysgu. Mae'n talu'n dda ac yn swydd werth chweil!"

Llywodraeth: y ffeithiau

Yn aml mae gan bobl syniadau pendant am swyddi gwahanol. Ond mae'n bwysig cael y ffeithiau bob amser. Dyma rywfaint o gamsyniadau cyffredin, ynghyd â'r ffeithiau go iawn:

  • "Rhaid i chi gael gradd i weithio i'r llywodraeth" - ddim yn wir, mae cyfleoedd i raddedigion a'r rhai heb radd o fewn llywodraeth ganolog a llywodraeth leol
  • "Mae pob swydd o fewn llywodraeth ganolog yn Llundain" - mewn gwirionedd mae 80 y cant o staff llywodraeth ganolog yn gweithio y tu allan i Lundain - lleolir rhai dramor hyd yn oed.
  • "Rhaid gweithio mewn swyddfa" - mae gweithio yn yr awyr agored yn rhan o rai swyddi, er enghraifft swyddi amgylcheddol neu weithio mewn ysgolion

Manteision gweithio yn y llywodraeth

Mae llawer o fanteision o weithio yn y llywodraeth, gan gynnwys:

  • cyfleoedd ardderchog - mae cyfleoedd i bobl â phob lefel o addysg i weithio o fewn llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, nid oes yn rhaid i chi gael gradd
  • rhagolygon gyrfa - mae swyddi yn y llywodraeth yn cynnig cyfleoedd hyfforddi gwerthfawr

Enghreifftiau o brofiadau pobl

Ian Soames, Llyfrgellydd

"Rwy'n gweithio i'm cyngor lleol, yn rhedeg llyfrgell y pentref. Dechreuais gydag ychydig o TGAU ond bellach mae gennyf NVQ Lefel 3. Rwyf wrth fy modd yn dod i adnabod y bobl leol ac rwy'n mwynhau cynnal gweithdai arbennig i blant yn enwedig. Mae'r cyflog yn dda ar tua £23,000."

Ella Yemani, Rheolwr Cymorth

"Rwy'n gweithio i'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Pan adawais yr ysgol dechreuais weithio gyda throseddwyr ifanc. Roeddwn wrth fy modd ond roeddwn am fynd ymhellach. Mae'n golygu fy mod yn gyfrifol am gynnal sawl tîm o staff. Mae angen i mi fod yn gyfathrebwr da ac yn drefnus iawn. Rwy'n ennill £30,000."

Cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am rolau penodol yn y llywodraeth drwy ddefnyddio'r ddolen cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi isod:

Dewch o hyd i swydd yn y sector hwn

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant a gyrfaoedd yn y llywodraeth drwy fynd i'r gwefannau canlynol:

I chwilio am swyddi sydd ar gael yn y sector hwn, defnyddiwch y ddolen 'Dechrau chwiliad swyddi a sgiliau' isod neu ffoniwch 0845 6067 890 i siarad ag ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith.

Bydd yn gallu rhoi gwybod pa help a chymorth sydd ar gael i'ch helpu i mewn i waith.

Additional links

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli eich helpu chi a’ch cymuned – cael gwybod mwy

Dechrau masnachfraint

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hunangyflogedig, efallai y bydd dechrau masnachfraint yn opsiwn sy’n werth ei ystyried

Allweddumynediad llywodraeth y DU