Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gweithio mewn canolfan gyswllt

Os ydych yn mwynhau siarad â phobl, eisiau trefniadau gweithio hyblyg, yn hapus i ddefnyddio cyfrifiadur ac yn gweithio'n dda fel rhan o dîm, efallai yr hoffech ystyried gweithio mewn canolfan gyswllt. Dysgwch am brofiadau pobl, ble i gael cyngor gyrfaoedd a sut i gael help i ddod o hyd i swydd.

A yw gweithio mewn canolfan gyswllt yn addas i chi?

Os ydych yn gallu bod yn gyfeillgar, yn gwrtais a chadw'ch pen, hyd yn oed pan fydd cwsmeriaid wedi eu cynhyrfu, gallai gweithio mewn canolfan gyswllt fod yn addas i chi. Mae llawer o gwmnïau (megis banciau a siopau) yn defnyddio canolfannau cyswllt i gadw mewn cysylltiad â'u cwsmeriaid. Fel gweithredwr, gallwch weithio tuag at un o'r rolau uwch.

Dyma rywfaint o sylwadau cadarnhaol gan bobl sy'n gweithio mewn canolfannau cyswllt ar hyn o bryd:

Evan Perry, Triniwr Galwadau, Galw Iechyd Cymru

"Rwy'n helpu cleifion i ddewis a threfnu eu hapwyntiadau. Mae'n ymddangos eu bod yn gwerthfawrogi llais cyfeillgar a byddant yn diolch i mi'n aml am eu helpu. Mae'n deimlad da!"

Peter Miller, Hyfforddwr Canolfan Gyswllt

"Rwyf wedi gweithio mewn canolfan gyswllt am bum mlynedd. Bellach rwy'n hyfforddi gweithredwyr i wneud eu gwaith yn dda. Mae'n dda eu gweld yn ennill eu gwerthiant cyntaf!"

Canolfannau cyswllt: y ffeithiau

Yn aml mae gan bobl syniadau pendant am swyddi gwahanol. Ond mae'n bwysig cael y ffeithiau bob amser. Dyma rywfaint o gamsyniadau cyffredin, ynghyd â'r ffeithiau go iawn:

  • "Mae'n swydd nad yw'n talu'n dda" - ddim o gwbl, man cychwyn yn unig yw'r cyflog sylfaenol ac fel pob swydd, os byddwch yn gweithio'n galed gallwch symud ymlaen yn eich gyrfa; gall gweithredwr da neu rywun mewn swydd uwch ennill arian da iawn yn wir
  • "Rhaid i chi weithio oriau hir" - ddim yn wir, mae'r rhan fwyaf o ganolfannau cyswllt yn cynnig amrywiaeth o oriau a phatrymau sifft ac mae'n bosibl y gallwch drefnu gwaith yn ystod y dydd, gyda'r nos neu ar y penwythnos; mae gwaith rhan-amser ar gael yn aml, yn dibynnu ar yr hyn sy'n gyfleus i chi
  • "Mae canolfannau cyswllt fel slafdai!" - ddim o gwbl, gallwch ddisgwyl gweithio'n galed, ond mae'n rhaid i chi gael egwyliau rheolaidd yn unol â'r gyfraith; fel arfer mae canolfannau cyswllt yn swyddfeydd sydd wedi'u goleuo'n dda, ar ffurf cynllun agored, lle bydd gennych sedd gyfforddus wrth ddesg a chyfarpar modern i wneud eich gwaith

Manteision gweithio mewn canolfan gyswllt

Mae llawer o fanteision o weithio mewn canolfan gyswllt gan gynnwys:

  • gall dalu'n dda - man cychwyn yn unig yw'r cyflog sylfaenol; Os byddwch yn gweithio'n galed gallwch gael dyrchafiad ac ennill mwy o arian
  • mae'n gyfleus ac yn hyblyg - mae'n bosibl y gallwch drefnu gwaith yn ystod y dydd, gyda'r nos neu ar y penwythnos yn dibynnu ar yr hyn sy'n gyfleus i chi ac mae gwaith rhan-amser ar gael yn aml hefyd

Enghreifftiau o brofiadau pobl

Luis Vargas, Gwasanaethau Cwsmeriaid.

"Rwy'n gweithio i fanc mawr yn eu canolfan gwasanaethau cwsmeriaid. Mae fy swydd wedi gwneud i mi deimlo'n fwy hyderus ynglŷn â siarad â phobl gan fy mod yn gwneud cymaint o alwadau bob dydd. Rwy'n ennill £12,000 y flwyddyn ar hyn o bryd ond rwyf ar gynllun hyfforddi felly gobeithio y caf godiad cyflog yn fuan."

Holly Moss, Peiriannydd Cymorth Technegol

"Rwy'n gweithio fel peiriannydd cymorth technegol, gan helpu i sicrhau fod y dechnoleg sy'n caniatáu i weithredwyr wneud eu galwadau yn gweithio'n iawn. Fe astudiais gyfrifiadureg yn y brifysgol, a dyma fy swydd gyntaf ar ôl graddio. Rwyf wrth fy modd! Rwy'n ennill £20,000 y flwyddyn."

Cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am rolau penodol mewn canolfannau cyswllt drwy ddefnyddio'r ddolen cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi isod:

I chwilio am swyddi sydd ar gael yn y sector hwn, defnyddiwch y ddolen 'Dechrau chwiliad swyddi a sgiliau' isod neu ffoniwch 0845 6068 890 i siarad ag ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith.

Bydd yn gallu rhoi gwybod pa help a chymorth sydd ar gael i'ch helpu i mewn i waith.

Additional links

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli eich helpu chi a’ch cymuned – cael gwybod mwy

Dechrau masnachfraint

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hunangyflogedig, efallai y bydd dechrau masnachfraint yn opsiwn sy’n werth ei ystyried

Allweddumynediad llywodraeth y DU