Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae llawer o brifysgolion a cholegau yn cynnig neuaddau preswyl, ac weithiau fflatiau hunanarlwyo, i fyfyrwyr sydd am 'fyw i mewn'. Os mai dyma'ch dewis, mae'n well gwneud cais cyn gynted ag y bo modd.
Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd am lety prifysgol neu goleg, yn enwedig yn y flwyddyn gyntaf. Dyma rai o'r manteision:
Gall llety amrywio'n sylweddol rhwng gwahanol brifysgolion a cholegau, ac o fewn mannau astudio unigol.
Gallai hyn olygu neuaddau preswyl sy'n cynnig llety i gannoedd o fyfyrwyr ac mae ganddyn nhw eu bariau a'u caffis eu hunain, neu fflatiau hunan-arlwyo bach.
I weld beth sydd ar gael yn y man ble rydych chi'n astudio, chwiliwch am eu manylion ar wefan UCAS neu gofynnwch am brosbectws.
Os byddwch chi'n mynd am lety gan y brifysgol, sicrhewch eich bod yn llenwi ac yn dychwelyd unrhyw ffurflenni cyn gynted ag y bo modd gan fod galw mawr fel arfer.
Mae'ch hawliau yn dibynnu ar bwy sy'n berchen ar eich llety ac yn ei reoli - sef naill ai eich prifysgol neu goleg, neu gwmni preifat.
Yn y naill achos neu'r llall, anfonir contract neu gytundeb atoch yn egluro'ch hawliau a'ch cyfrifoldebau cyn i chi symud i mewn.
Cymerwch eich amser i ddarllen hwn yn ofalus cyn ei lofnodi – ac os oes unrhyw beth sy'n aneglur neu'n annheg, gofynnwch am gyngor.
Os mai'r brifysgol neu'r coleg yw eich landlord, mwy na thebyg mai 'deiliad â gwarchodaeth sylfaenol' fyddwch chi.
Golyga hyn fod yn rhaid i'r coleg neu'r brifysgol roi'r rhybudd gofynnol i chi a chael gorchymyn llys os ydynt am eich troi allan o'r llety.
Os mai cwmni preifat neu unigolyn yw eich landlord, mae'n debyg mai 'tenant fyrddaliol sicr' fyddwch chi.
I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau, pwy bynnag sy'n rheoli eich llety, gweler yr erthygl, ‘Tai preifat ar rent a thenantiaethau’.
Ceir, ar hyn o bryd, dri chod ymarfer a gymeradwywyd gan y llywodraeth ar gyfer rheoli llety myfyrwyr gan brifysgolion, colegau a darparwyr masnachol mawr.
Yn unol â'r codau ymarfer hyn, rhaid i'ch llety gyrraedd safonau rheoli penodol a meddu ar drefn gwyno ddigonol.
Os ydych yn aros mewn llety a reolir gan eich prifysgol neu goleg, holwch i weld a ydynt wedi ymrwymo i un o'r codau yn y dolenni isod.
Os nad eich man astudio sy'n rheoli eich llety, mae'n bosib y bydd yn dod o dan God Safonau'r Rhwydwaith Achredu ar gyfer llety myfyrwyr nad yw'n cael ei reoli gan sefydliadau addysgol.
Hefyd os nad yw eich llety yn hunan-gynhaliol, efallai y caiff ei drwyddedu fel llety a rennir.
Os nad eich man astudio sy'n rheoli eich llety, mae'n bosib y bydd yn dod o dan God Safonau'r Rhwydwaith Achredu ar gyfer llety myfyrwyr sydd ddim yn cael ei reoli gan sefydliadau addysgol.
Hefyd os nad yw eich llety yn hunan-gynhaliol, efallai y caiff ei drwyddedu fel llety a rennir
Os byddwch chi'n anhapus gyda llety eich prifysgol, dylech siarad â swyddfa llety eich prifysgol yn gyntaf.
Os yw eich prifysgol neu goleg wedi ymrwymo i un o'r codau ymarfer, siaradwch gyda phwy bynnag sy'n gyfrifol am orfodi'r cod hwnnw. Fe allech hefyd gael sgwrs â swyddog lles eich undeb myfyrwyr.
Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch ddefnyddio trefn gwyno fewnol eich prifysgol neu'r drefn gwyno a amlinellir yn y cod ymarfer.
Os ydych chi wedi dilyn trefn gwyno fewnol eich prifysgol a'ch bod yn anfodlon gyda'r canlyniad terfynol, cysylltwch â Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol (Cymru a Lloegr yn unig).
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol os ydych chi'n meddwl bod eich iechyd a diogelwch mewn perygl mawr, ac nad yw rheolwyr y llety (neu'r sawl sy'n gyfrifol am orfodi'r cod ymarfer) yn gweithredu'n briodol ar ôl i chi ddweud wrthyn nhw am y broblem.
Dod o hyd i'r ffordd gyflymaf o fynd o'ch tŷ i'ch darlith gyntaf