Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhentu llety preifat i fyfyrwyr

Os ydych chi'n rhentu gan landlord preifat neu asiant gosod, ceisiwch gael gwybod a yw'n ofynnol bod yr eiddo'n cael ei drwyddedu. Darllenwch unrhyw gytundeb tenantiaeth yn ofalus ac os nad ydych yn hapus, ceisiwch gymorth yn syth.

Rhentu eich lle eich hun

Os ydych chi'n bwriadu symud allan o neuadd yn eich ail flwyddyn, mae'n debygol y bydd angen i chi ddechrau chwilio am lety preifat yn ystod tymor y gwanwyn yn eich blwyddyn gyntaf.

Cofiwch fod gennych chi, fel myfyriwr, yr un hawliau ag unrhyw denant preifat arall.

I gael awgrymiadau ynghylch lle i ddechrau chwilio, ewch i 'Tai myfyrwyr: dod o hyd i rywle i fyw'.

A oes angen trwydded ar eich landlord?

Os ydych chi'n byw gyda ffrindiau, holwch eich awdurdod lleol a oes angen i'ch landlord gael trwydded 'Tŷ Amlfeddiannaeth' ar gyfer eich eiddo.

Mae'n rhaid i'ch tŷ gael trwydded 'Tŷ Amlfeddiannaeth' arbennig os yw'r canlynol yn berthnasol:

  • mae pump neu ragor o bobl nad ydynt yn perthyn yn rhannu; ac
  • mae gan y tŷ dri neu fwy o loriau

Efallai y bydd rhai awdurdodau lleol yn dewis trwyddedu tai sydd â nifer llai o bobl yn preswylio ynddynt, neu dai sydd â llai o loriau.

Yn ôl y drwydded, mae'n rhaid i denantiaid fod yn rheolwyr cydwybodol, ac mae'n ofynnol bod nifer cyfyngedig o bobl yn preswylio yn y tŷ.

Gwarantwyr a blaendaliadau tenantiaeth

Unwaith yr ydych wedi dod o hyd i le addas i'w rentu, bydd y rhan fwyaf o landlordiaid ac asiantaethau gosod yn mynnu eich bod yn talu blaendal, ac efallai y byddant hefyd yn gofyn am warantwyr cyn llunio cytundeb. Gallent hefyd ofyn i chi dalu rhent ymlaen llaw.

Peidiwch â throsglwyddo unrhyw arian nes eich bod wedi cael golwg iawn ar yr eiddo: chwiliwch am arwyddion amlwg o waith atgyweirio mawr, tamprwydd, drysau a ffenestri sydd ddim yn eu llefydd yn iawn, neu unrhyw beth arall a allai beryglu eich diogelwch.

Efallai y byddai hefyd yn help i chi fynd â rhywun arall gyda chi er mwyn cael eu barn nhw am yr eiddo.

Talu blaendal

Bydd landlordiaid yn aml yn gofyn am flaendal i dalu am rent na chaiff ei dalu neu am ddifrod i'r eiddo. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael derbynneb ysgrifenedig am arian a delir i landlord neu asiant gosod.

Gofynnwch i'ch landlord ddarparu rhestr eiddo yn nodi cynnwys y tŷ, gan gynnwys y nwyddau a geir yn y gegin fel tegell a thostiwr.

Dylai'ch blaendal gael ei ddychwelyd atoch os yw'r ffioedd i gyd wedi cael eu talu ac os nad yw'r eiddo wedi cael ei ddifrodi y tu hwnt i draul cyffredinol. Os ydych chi'n teimlo ei fod yn cael ei ddal yn ôl yn annheg, ewch i 'Problemau â llety rhent i fyfyrwyr' er mwyn cael awgrymiadau ynghylch cael eich blaendal yn ôl.

Gwarantwyr

Gallai'r landlord ofyn i fyfyrwyr ddarparu gwarantwr sy'n cytuno i dalu am gostau os nad ydych chi'n talu'r rhent, neu os ydych chi'n achosi niwed difrifol i'r eiddo. Rhiant neu warcheidwad fydd y gwarantwr fel arfer.

Os oes gennych gyd-denantiaeth, bydd unrhyw warantwr hefyd yn gyfrifol am rent hwyr neu ddifrod a achosir gan gyd-denantiaid eraill.

Gall gwarantwyr geisio cyfyngu ar eu hatebolrwydd drwy ei nodi yn eu cytundeb gwarantwr – ceisiwch gyngor cyfreithiol annibynnol i wneud hyn.

Cytundebau tenantiaeth

Mae cytundebau tenantiaeth yn helpu i amddiffyn eich hawliau chi fel tenant, ac yn amlinellu'ch dyletswyddau.

Pa fath bynnag o denantiaeth sydd gennych, darllenwch y gwaith papur sy'n gysylltiedig cyn cytuno i symud i mewn na llofnodi unrhyw gytundebau ysgrifenedig.

I gael mwy o wybodaeth am wahanol fathau o denantiaethau, gweler yr erthygl 'Tai preifat ar rent a thenantiaethau'.

Eich cyfrifoldebau chi

Pa fath bynnag o gytundeb y byddwch yn ei lofnodi, bydd angen i chi edrych ar ôl yr eiddo mewn ffordd resymol – er enghraifft, gwagio'r biniau a chadw'r tŷ yn lân ac yn daclus.

Ceir rhagor o wybodaeth yn 'Dyletswyddau landlordiaid a thenantiaid'.

Os byddwch yn torri amodau'ch cytundeb

Os byddwch yn torri unrhyw amodau mewn cytundeb tenantiaeth – er enghraifft, os byddwch yn achosi difrod i'r eiddo neu'n mynd ar ei hôl hi wrth dalu'ch rhent, gallai fod gan eich landlord hawl i ddechrau cymryd camau i'ch troi allan o'r eiddo.

Gallai hyn gynnwys cael pobl i aros am gyfnodau hir os ydych chi'n byw mewn tŷ amlfeddiannaeth wedi'i drwyddedu. Edrychwch i weld a yw'r cytundeb yn cyfyngu ar nifer y bobl sy'n cael byw yn yr eiddo.

Problemau ar ôl i chi symud i mewn

Cewch wybod am atgyweirio a chynnal a chadw, a beth i'w wneud os yw un o'r bobl yr ydych chi'n byw gyda nhw yn eich gadael mewn dyfroedd dyfnion, yn 'Problemau â llety rhent i fyfyrwyr'.

Additional links

Pa mor hir yn y dydd y gallwch adael pethau?

Dod o hyd i'r ffordd gyflymaf o fynd o'ch tŷ i'ch darlith gyntaf

Allweddumynediad llywodraeth y DU