Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r Cenhedloedd Unedig (CU) wedi sefydlu confensiwn hawliau dynol rhyngwladol ar hawliau pobl anabl. Roedd y DU yn chwarae rhan weithredol wrth sefydlu'r confensiwn. Cred y llywodraeth y bydd yn chwarae rhan bwysig wrth amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol pobl anabl ar hyd a lled y byd.
Darn o gyfraith ryngwladol yw confensiwn hawliau dynol sy'n nodi dyletswydd gwledydd i amddiffyn hawliau dynol. Pan ddaw i rym, bydd yn rhwymo'n gyfreithiol unrhyw wlad sy'n ei dderbyn a'i gadarnhau.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yn darparu safon a fydd yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol ar gyfer hawliau dynol pobl anabl mewn un ddogfen. Bydd hyn yn helpu'r gymuned ryngwladol i roi pwysau ar wledydd y gallai eu gwaith ar hawliau anabledd fod yn well.
Bydd y gwledydd sy'n derbyn y confensiwn hefyd yn gorfod darparu adroddiad rheolaidd i'r Cenhedloedd Unedig am y camau y maent yn eu cymryd i amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl anabl.
Roedd y DU ymhlith yr 82 gwlad gyntaf i lofnodi'r confensiwn ar 30 Mawrth 2007. Ers hynny, mae bron 135 o wledydd wedi llofnodi'r confensiwn, a bron 60 ohonynt wedi'i dderbyn. Wrth lofnodi, mae gwladwriaethau'n dangos eu bwriad o'i dderbyn a'i gadarnhau maes o law. Derbyniodd y DU y confensiwn ar 8 Mehefin 2009. Gellir gweld cynnwys y confensiwn yn ei gyfanrwydd ar wefan 'enable' y Cenhedloedd Unedig. Mae'r safle yn rhoi gwybodaeth fanwl am waith y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl.
I gael gwybod mwy am yr hyn y mae llywodraeth y DU yn ei wneud yng nghyswllt y confensiwn, ewch i wefan y Swyddfa Materion Anabl, sy'n cynnwys gwybodaeth gyffredinol yn ymwneud â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig.
Sefydlwyd Disability Awareness in Action (DAA) i hyrwyddo hawliau pobl anabl ac i ddarparu rhwydwaith byd-eang ar gyfer cyfnewid gwybodaeth.
Mae gan wefan DAA restr fanwl o elusennau a mudiadau yn y DU ac ar draws y byd.