Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Nod y Swyddfa Materion Anabledd yw cydlynu'r ffordd y datblygir ac y cyflwynir gwasanaethau'r llywodraeth i bobl anabl. Mae’n gweithio er mwyn creu cydraddoldeb i bobl anabl erbyn 2025.
Mae'r Swyddfa Materion Anabledd yn gweithio gyda phobl anabl a grwpiau a mudiadau ym maes anabledd i weithio tuag at gael cydraddoldeb llawn i bobl anabl.
Mae, neu bydd, pob adran o'r llywodraeth yn ymwneud â'r Swyddfa Materion Anabledd. Mae hyn yn cynnwys adrannau sy'n gyfrifol am iechyd, cyflogaeth, addysg, trafnidiaeth a masnach a diwydiant.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Swyddfa Materion Anabledd.
Mae Cydraddoldeb 2025 yn grŵp o 19 o bobl anabl sy'n ymghynghori â phobl anabl eraill ac yn rhoi cyngor i'r llywodraeth ar sut i fodloni gweledigaeth y llywodraeth ar gyfer cydraddoldeb i bobl anabl erbyn 2025. Un o'i nodau yw gweithio gyda llunwyr polisi yn y llywodraeth mewn cyfnod cynnar o'r broses datblygu polisi a chyflwyno gwasanaeth fel y caiff anghenion pobl anabl eu diwallu.
Lansiwyd Cydraddoldeb 2025 ym mis Rhagfyr 2006. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Cydraddoldeb 2025, gan gynnwys pwy yw ei aelodau, ar ei wefan.