Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Anabledd a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol arfaethedig

Agorodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar 1 Hydref 2007. Un o nodau allweddol y comisiwn yw diweddu gwahaniaethu ac aflonyddu ar bobl oherwydd anabledd, oedran, crefydd neu gred, hil, rhyw, neu dueddfryd rhywiol.

Am y comisiwn

Mae'r comisiwn newydd yn uno gwaith y tri chomisiwn cydraddoldeb blaenorol:

  • Y Comisiwn Hawliau Anabledd
  • Y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol
  • Y Comisiwn Cyfle Cyfartal

Caeodd y Comisiwn Hawliau Anabledd, ynghyd â'r ddau gomisiwn arall, ar 28 Medi 2007.

Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol bwyllgor anabledd i arwain gwaith y comisiwn ar anabledd.

Buddiannau’r comisiwn newydd

Mae'r llywodraeth yn credu bod nifer o fuddiannau i’r un comisiwn yn unig newydd, gan gynnwys:

  • dod ag arbenigwyr ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol at ei gilydd a gweithredu fel un ffynhonnell ar gyfer gwybodaeth a chyngor
  • bod yn un pwynt cyswllt ar gyfer unigolion, busnesau a'r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol
  • helpu busnesau drwy hyrwyddo ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb, a allai osgoi costus yn y llys a'r tribiwnlys
  • mynd i'r afael â gwahaniaethu ar bob lefel - efallai fod rhai pobl yn wynebu mwy nag un math o wahaniaethu
  • cael corff cenedlaethol i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oedran

Cysylltu â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol linell gymorth lle gallwch gael gwybodaeth a chyfarwyddyd am faterion hawliau dynol a gwahaniaethu.

Gallwch gysylltu â'r Comisiwn dros y ffôn, ffôn testun, mewn llythyr, e-bost neu ffacs.

Ceir gwahanol swyddfeydd llinell gymorth ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban. Mae'r manylion cyswllt ar wefan y comisiwn.

Mae gan Ogledd Iwerddon gomisiwn ar wahân, sef Comisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon.

Allweddumynediad llywodraeth y DU