Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Os ydych chi’n gweithio ac yn dod yn anabl

Os ydych chi mewn gwaith ac yn dod yn anabl o ganlyniad i salwch, damwain neu gyflwr meddygol, efallai eich bod yn betrus ynghylch mynd yn ôl i'r gwaith neu'n poeni a oes rheidrwydd ar eich cyflogwr i gadw'r swydd yn agored i chi.

Amser i ffwrdd o'r gwaith

Mae gan gyflogwyr ddyletswyddau tuag at eu gweithwyr, ac mae'r rhain yn cynnwys rheoli absenoldeb oherwydd salwch y gwyddid amdano ac absenoldeb oherwydd salwch annisgwyl - yn ogystal â helpu eu staff i gynllunio llwybr yn ôl i'r gwaith.

Os ydych chi'n cymryd amser i ffwrdd, ceisiwch gadw mewn cysylltiad â'ch cyflogwr yn ystod yr amser yr ydych i ffwrdd o'r gwaith.

Gallai hyn gynnwys:

  • cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd
  • gofyn am gael gwybod beth sy'n mynd ymlaen yn y gwaith
  • holi am eich cydweithwyr
  • gofyn am sicrwydd y bydd manylion am eich salwch neu'ch anabledd yn cael eu cadw'n gyfrinachol, os mai hynny yw'ch dymuniad

Dylai hyn eich helpu i deimlo'n llai ynysig a thawelu'ch meddwl am unrhyw amheuon sydd gennych am gymryd amser i ffwrdd a/neu ddychwelyd i'r gwaith.

Tâl Salwch Statudol

Os oes gennych chi waith ond na allwch chi weithio oherwydd salwch neu anabledd, mae'n bosib y gallwch chi gael Tâl Salwch Statudol. Bydd gan rai cyflogwyr eu cynllun tâl salwch eu hunain yn lle hynny.

Os ydych chi'n dal i fethu â gweithio ar ôl 28 wythnos, neu os nad oes modd i chi gael Tâl Salwch Statudol, gallwch wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Cadw eich swydd yn agored

Ni ddylai eich cyflogwr roi pwysau arnoch i ymddiswyddo oherwydd eich bod wedi dod yn anabl. Mae diswyddo rhywun am y rheswm syml eu bod yn dod yn anabl yn debygol o fod yn wahaniaethu uniongyrchol, sy'n anghyfreithlon.

Dylai eich cyflogwr ystyried a oes newidiadau y gellid eu gwneud yn y gwaith i'ch galluogi chi i wneud eich swydd. 'Addasiadau rhesymol' yw'r enw a roddir ar y rhain. Gall addasiadau rhesymol gynnwys pethau fel:

  • dychwelyd i'r gwaith gam wrth gam - efallai drwy weithio oriau hyblyg neu weithio'n rhan amser
  • amser i ffwrdd ar gyfer cwnsela neu driniaeth feddygol
  • dyrannu rhai tasgau nad ydych chi'n gallu'u cyflawni gystal mwyach i weithiwr arall
  • darparu cymhorthion ymarferol a chyfarpar technegol i chi

Mae busnesau a sefydliadau yn amrywio o ran maint a strwythur - efallai na fydd rhywbeth sy'n 'rhesymol' i un yn 'rhesymol' i un arall.

Gan ddibynnu ar eich anabledd, efallai na fyddai'n briodol i chi ddychwelyd i wneud yr un gwaith.

Gallai eich cyflogwr siarad ag Ymgynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl mewn swyddfa Canolfan Byd Gwaith er mwyn iddynt allu deall eu cyfrifoldebau at weithwyr sydd yn anabl, neu sydd wedi dod yn anabl, a chael cyfle i drafod atebion i unrhyw broblem. Gallai hyn gynnwys y cynllun 'Mynediad at Waith'.

Cynllunio i ddychwelyd i’r gwaith

Mynnwch sgwrs â'ch cyflogwr i weld sut y gallant reoli'r broses o'ch helpu chi i ddychwelyd i'r gwaith, a sut y gallech chi wneud hynny.

Os ydych chi a'ch cyflogwr yn cytuno i roi gwybod yn ffurfiol i bobl eraill am eich anabledd (a all fod yn anabledd 'cudd' fel diabetes neu gyflwr iechyd meddwl) dylech lofnodi ffurflen ganiatâd sy'n rhoi caniatâd i'ch cyflogwr ddweud wrth un neu fwy o unigolion a enwir. Dylid gwneud hyn er mwyn cydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data.

Adroddiadau perfformiad

Os oes rhaid i chi gymryd amser i ffwrdd oherwydd salwch sy'n gysylltiedig ag anabledd, mae'n arfer da i'ch cyflogwr gofnodi hynny ar wahân i unrhyw absenoldeb oherwydd salwch nad yw'n gysylltiedig â'ch anabledd.

Os nad ydych yn gweithio gan eich bod yn aros i'ch cyflogwr roi addasiadau rhesymol ar waith fel y gallwch ddychwelyd i'r gwaith, neu os ydych chi'n cael hyfforddiant ar sut i'w defnyddio, ni ddylid cofnodi hyn fel 'absenoldeb o'r gwaith'.

Gadael gwaith

Gallai cyflogwr eich diswyddo os yw eich anabledd yn golygu ei bod hi'n amhosib i chi gyflawni prif ddyletswyddau eich swydd, hyd yn oed os yw'r holl addasiadau rhesymol yn eu lle ac, o bosib, ar ôl ystyried a allech chi wneud swydd addas arall. Mewn rhai achosion, er enghraifft, ni fydd hi'n bosib i chi symud i swyddogaeth arall mewn sefydliad os yw'n un bach, ac felly byddai'n deg i'ch diswyddo.

Os yw cyflogwr yn ystyried diswyddo pobl ni ddylai'r rhesymau (neu'r 'meini prawf') ar gyfer dewis y sawl a gaiff eu diswyddo wahaniaethu yn erbyn pobl anabl. Er enghraifft, ni ddylai gorfod gweithio oriau hyblyg neu gymryd amser i ffwrdd oherwydd salwch sy'n gysylltiedig ag anabledd fod yn faen prawf.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU