Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hyfforddiant i weithwyr anabl

Ni ddylai cyflogwyr wahaniaethu yn erbyn gweithwyr anabl o ran y ffordd y byddant yn cynnig neu'n darparu hyfforddiant.

Nid oes gan eich cyflogwr hawl i wrthod cyfleoedd hyfforddi i chi oherwydd eich bod yn anabl.

Rhaid i'ch cyflogwr hefyd wneud newidiadau rhesymol i wella hwylustod rhaglen hyfforddi. Gallai newidiadau gynnwys:

  • darparu hyfforddiant unigol i weithwyr anabl er mwyn sicrhau eu bod yn gallu defnyddio unrhyw addasiadau neu gyfarpar arbennig a ddefnyddir yn y gwaith
  • darparu hyfforddiant dros gyfnod hirach i weithwyr sydd ond yn gallu mynychu cwrs hyfforddi am hyn a hyn o oriau'r diwrnod
  • darparu deunydd hyfforddi mewn fformatau gwahanol, darparu dehonglydd iaith arwyddion a chaniatáu i hyfforddeion ddod â chynorthwy-ydd personol gyda hwy ar gwrs
  • addasu mannau a ddefnyddir ar gyfer hyfforddi

Efallai y bydd eich cyflogwr hefyd:

  • yn hyfforddi aelodau eraill o staff i ddeall polisi'r cwmni at bobl anabl
  • yn darparu hyfforddiant ym maes cydraddoldeb anabledd i'r staff i gyd
  • yn dangos arfer da drwy osod safonau o ran hwylustod yn y sefydliad
  • yn sicrhau bod y gwasanaethau y maent yn eu darparu yn hwylus i bobl anabl

Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd

Rhaid i'ch cyflogwr hefyd fodloni gofynion y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.

Mae hefyd yn bwysig bod eich cyflogwr yn sicrhau bod y staff i gyd yn deall goblygiadau'r Ddeddf ac yn cydymffurfio â hi.

Allweddumynediad llywodraeth y DU