Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymorth gyda chostau teithio

Mae'n bosib y gallwch dderbyn cymorth ariannol i ymweld ag aelod o'r teulu yn y carchar, gan bod nifer o asiantaethau yn cynnig cymorth o’r fath hwnnw. Gall y dudalen hon eich rhoi ar ben ffordd.

Bod yn gymwys am gymorth

Os mai chi yw perthynas agos, partner neu unig ymwelydd oedolyn y carcharor ac yn derbyn un o'r canlynol, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol gan Ymweliadau Carchar y Gwasanaeth Carchardai:

  • cymhorthdal incwm
  • lwfans ceisio gwaith (seiliedig ar incwm)
  • credyd treth plant (uchafswm incwm £13,895)
  • credyd treth plant gyda chredyd treth gwaith (uchafswm incwm £13,895)
  • credyd treth gwaith gydag elfen anabledd (uchafswm incwm £13,895)

Mae’n bosib y byddwch yn gymwys os ydych yn meddu ar dystysgrif iechyd dau neu dri.

Sut i wneud cais am gymorth

Eich cam cyntaf yw cael pecyn gwybodaeth. Mae hwn yn cynnwys ffurflen y bydd i chi lenwi, ac yn cynnwys cyfeiriadau ar ble i bostio’r ffurflen.

Gallwch gael pecyn gwybodaeth o:

  • garchar ble y mae aelod eich teulu
  • unrhyw ganolfan ymwelwyr carcharorion
  • y mwyafrif o swyddfeydd budd-daliadau, gan gynnwys Canolfan Byd Gwaith

Gallwch hefyd archebu pecyn gwybodaeth drwy ffonio’r Uned Cymorth ar gyfer Ymweliadau Carchar (0845 3001423 neu ffôn testun 0845 3040800) yn ystod ei oriau agor sef o ddydd Llun i ddydd Gwener 10:15-11:45 am, a 2:15-3:45 pm.

Dylech hefyd ffonio’r rhif hwnna os oes angen nodiadau ynghylch y rhaglen cymorth yn Gymraeg, mewn iaith dramor, Braille neu ar dâp sain.

Additional links

Chwilio am garchar

Adnodd chwilio am garchar – chwilio gan ddefnyddio’r rhestr A i Y neu yn ôl rhanbarth

Allweddumynediad llywodraeth y DU