Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth mae’r gwasanaeth carchardai yn ei wneud

Os oes rhywun rydych chi’n ei adnabod yn cael ei anfon i’r carchar, mae’n rhaid iddo gael ei drin yn deg. Mae’n rhaid i’r gwasanaeth carchardai sicrhau ei fod yn cael ei ddal mewn amgylchedd diogel, ac na allai ddianc. Yma, cewch wybod mwy ynghylch beth y gall carcharorion ei ddisgwyl.

Diogelu carchardai

Un o swyddogaethau mwyaf sylfaenol y gwasanaeth carchardai yw sicrhau bod carchardai wedi’u diogelu a’u gwarchod fel na all neb fynd i mewn nac allan heb ganiatâd.

Mae’n rhaid i bob carchar sicrhau nid yn unig na all carcharorion ddianc, ond hefyd na all neb nad ydyw wedi’i awdurdodi fynd i mewn.

Mae’n rhaid i garchardai hefyd sicrhau na ellir smyglo eitemau gwaharddedig (megis arfau, ffonau symudol a chyffuriau) i mewn nac allan ohonynt.

Darparu gwaith i garcharorion

Tra bydd eich ffrind neu aelod o’ch teulu yn y carchar, bydd y carchar yn ei helpu i ddatblygu sgiliau gwaith, profiad gwaith a chymwysterau drwy roi gwaith iddo'i wneud.

Y bwriad yw helpu carcharorion i ddod o hyd i waith ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.

Mae nifer o fathau gwahanol o waith ar gael. Maent yn amrywio o garchar i garchar, ond gallant gynnwys:

  • gwaith coed
  • peirianneg
  • argraffu
  • ffermio
  • garddio

Gall carcharorion gael rhywfaint o dâl am y gwaith a wnânt.

Darparu gofal iechyd yn y carchar

Mae’n rhaid i’r gwasanaeth carchardai ddarparu gofal iechyd o ansawdd da ar gyfer pob carcharor.

Mae staff y carchardai yn gweithio gyda’u hymddiriedolaethau GIG lleol i sicrhau bod carcharorion yn derbyn yr un lefel o ofal ag y byddent yn ei gael yn eu cymunedau eu hunain.

Fodd bynnag, mae’n bosib na fydd gan rai carchardai'r cyfleusterau i allu delio â phroblemau iechyd mwy difrifol. Yn yr achosion hynny, bydd angen i’r carcharor dan sylw gael ei symud i garchar arall neu i ysbyty lle y caiff yr help y mae arno ei angen.

Cadw carcharorion yn ddiogel

Tra bydd eich ffrind neu aelod o’ch teulu yn y carchar, mae’n ofynnol i staff y carchar ei gadw’n ddiogel rhag trais.

Mae gan garcharorion yr hawl i gael eu diogelu rhag bwlio neu ymosodiadau gan garcharorion eraill. Mae’n rhaid hefyd eu rhwystro rhag niweidio’u hunain.

Os oes gan garcharor broblem, neu os ydyw'n bryderus ynghylch ei ddiogelwch, dylai roi gwybod i staff y carchar. Mae’n ofynnol i’r staff weithredu er mwyn diogelu carcharorion rhag niwed.

Additional links

Chwilio am garchar

Adnodd chwilio am garchar – chwilio gan ddefnyddio’r rhestr A i Y neu yn ôl rhanbarth

Allweddumynediad llywodraeth y DU