Os ydych yn newydd i fudd-daliadau, neu yn cael budd-daliadau yn barod, gall y cynghorydd budd-daliadau eich helpu i gael amcangyfrif o fudd-daliadau neu edrych pa fudd-daliadau sydd ar gael i wneud cais amdanynt.
Mae amcangyfrif yn rhoi'r symiau y gallech wneud cais amdanynt drwy ystod o fudd-daliadau. Atebwch gwestiynau i gael crynodeb o ganlyniadau amcangyfrifon. Dewiswch y cyfleuster 'Beth os...?' i edrych ar wahanol amgylchiadau, neu i ddangos canlyniad amcangyfrifon ar gyfer dau wahanol amgylchiad gyda'u gilydd, i weld sut gall amcangyfrif newid os yw'r sefyllfa yn newid.
Neu fel arall, gallwch weld pa fudd-daliadau y mae'n bosibl i chi eu cael, heb amcangyfrif o symiau.
Os ydych wedi defnyddio'r cynghorydd budd-daliadau yn y saith diwrnod diwethaf, gallwch roi eich rhif cyfeirnod yn y blwch isod i ddychwelyd i'ch atebion.
Ni allwn adfer rhifau cyfeirnod sydd wedi'u colli. Bydd angen i chi ddechrau'r cynghorydd budd-daliadau eto os ydych wedi colli eich rhif cyfeirnod.
Pan fyddwch wedi gorffen defnyddio'r cynghorydd budd-daliadau dylech bob amser gau eich ffenestr bori i sicrhau bod eich holl atebion yn cael eu dileu cyn i'r person nesaf ddefnyddio'r cyfrifiadur.