Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 5 Medi 2012

Ymwadiad ar gyfer y cynghorydd budd-daliadau a'r Lwfans Ceisio Gwaith ar-lein a Phensiwn y Wladwriaeth ar-lein

Mae'r wybodaeth ganlynol ond yn berthnasol i'r gwasanaethau cynghorydd budd-daliadau a Lwfans Ceisio Gwaith ar-lein a Phensiwn y Wladwriaeth ar-lein , a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Eich gwybodaeth

Cynghorydd budd-daliadau:

  • mae'r canlyniadau a roddir gan y cynghorydd budd-daliadau yn amcangyfrif o'r hyn y gallech ei gael
  • mae'r canlyniadau ond yn seiliedig ar eich atebion i gwestiynau'r cynghorydd budd-daliadau
  • nid yw'r cwestiynau a ofynnir gan y cynghorydd budd-daliadau a'r canlyniadau a roddir yn rhan o gais am unrhyw fudd-dal na chredyd treth
  • dim ond drwy gwblhau'r ffurflen gais briodol a'i hanfon i'r swyddfa sy'n delio â'r budd-dal neu'r credyd treth y gellir gwneud cais am fudd-dal neu gredydau treth, neu drwy ei chyflwyno ar-lein lle y bo'r gwasanaeth ar gael
  • ni chaiff yr atebion a roddwch eu defnyddio gan y DWP mewn unrhyw ffordd heblaw i'ch cynghori ar ba fudd-daliadau neu gredydau treth y gallai fod hawl gennych i'w cael

Lwfans Ceisio Gwaith ar-lein:

  • ni fydd yn dweud wrthych a fu eich cais yn llwyddiannus
  • gall ddefnyddio'r wybodaeth a roddwyd gennych at ddibenion eraill sy'n ymwneud â gwaith y DWP - gellir rhoi peth gwybodaeth i gyrff eraill y llywodraeth fel y caniateir gan y gyfraith
  • bydd yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwch - sicrhewch ei bod mor gyflawn a chywir â phosibl

Nid yw copi o'ch ffurflen gais ar-lein am Lwfans Ceisio Gwaith yn ddogfen gyfreithiol ac mae er gwybodaeth i chi yn unig.

Eich cais am Lwfans Ceisio Gwaith ar-lein:

  • efallai y bydd oedi os bydd gwybodaeth ar goll neu'n anghywir
  • fel arfer caiff ei ystyried o'r dyddiad y caiff ei gyflwyno ar-lein - bydd angen i chi fynd i gyfweliad o hyd cyn y caiff eich cais ei ystyried yn un 'a wnaed yn gywir' (mae hyn yn digwydd pan fyddwch yn llofnodi eich datganiad cwsmer yn eich Cyfweliad Ceisiwr Gwaith Newydd)

Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein:

  • ni fydd yn deud wrthych os yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus
  • gallai ddefnyddio gwybodaeth rydych wedi'i ddarparu at ddibenion eraill sy’n gysylltiedig â gwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau - gall rhywfaint o wybodaeth gael ei roi i gyrff eraill o’r llywodraeth fel y caniateir gan y gyfraith
  • bydd yn seiliedig ar y wybodaeth rydych yn ei ddarparu - gwnewch yn siŵr ei fod yn gyflawn ac mor gywir â phosibl
  • gallai fod oedi os oes gwybodaeth ar goll neu’n anghywir

Nid yw copi o’ch ffurflen gais ar-lein Lwfans Pensiwn y Wladwriaeth yn ddogfen gyfreithiol ac mae ar gyfer eich defnydd chi yn unig.

Dolenni a phreifatrwydd

Mae’r gwasanaethau cynghorydd budd-daliadau, Lwfans Ceisio Gwaith ar-lein a Phensiwn y Wladwriaeth ar-lein ar gael drwy Cross & Stitch yn unig ac maent yn rhannu polisïau cysylltu â phreifatrwydd Cross & Stitch.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Cross & Stitch yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU