Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch ddechrau gofalu am olwg eich plentyn pan fydd yn ifanc iawn. A gorau po gyntaf y canfyddir problem, er mwyn iddi gael ei thrin yn fwy effeithiol.
Caiff plant eu sgrinio ar gyfer problemau llygaid ychydig wythnosau ar ôl eu geni, ac yna o gwmpas yr adeg y byddant yn dechrau yn yr ysgol yn bedair oed. Os oes gennych unrhyw bryderon rhwng y profion hyn, neu os oes gan aelodau o'ch teulu broblemau gyda'u llygaid, gallwch siarad â'ch meddyg. Gallwch hefyd drefnu i roi prawf llygaid i'ch plentyn gydag optometrydd neu feddyg llygaid.
Gall hyn amrywio. Bydd plant iach yn cymryd tua 20 i 30 munud i gwblhau'r prawf. Os bydd angen cael diferion llygaid ar eich plentyn (er mwyn gwneud y canhwyllau yn fwy a’r llygaid yn haws eu profi) yna dylech adael mwy o amser gan y bydd angen i'r diferion ddechrau gweithio.
Caiff plant hŷn eu profi yr un ffordd ag oedolion fel arfer. Ceir profion arbennig ar gyfer plant iau a phlant hŷn nad yw profion oedolion yn addas ar eu cyfer.
Mae gan blant dan 16 oed, a myfyrwyr amser llawn dan 19 oed yr hawl i gael profion llygaid am ddim gan y GIG.
Bydd plant sy'n cael eu profi gan y GIG yn cael taleb i helpu gyda chostau sbectol. Gall plant ddewis o amrywiaeth eang o fframiau, sy'n ymarferol ac yn ffasiynol. Argymhellir lensys plastig ar gyfer plant, gan eu bod yn ysgafnach ac yn fwy diogel na gwydr.
Mae plant o dan 16 oed yn cael cymorth gan y GIG os bydd eu sbectol yn cael ei golli neu ei difrodi. Gallwch fynd at unrhyw optegydd sy'n rhoi profion llygaid y GIG i gael ffurflen trwsio sbectol neu gael sbectol newydd (GOS 4). Gofynnir i chi roi datganiad o'r hyn ddigwyddodd, a bydd yr optegydd yn rhoi taleb i chi er mwyn eich helpu gyda'r gost. Os byddwch yn mynd at optegydd gwahanol i'r un a rodddodd y sbectol i chi yn y lle cyntaf, bydd angen i chi fynd â chopi o'r presgripsiwn sbectol gwreiddiol gyda chi.
O ran plant 16 oed a hŷn, dim ond os collwyd neu os difrodwyd eu sbectol gan salwch y maent yn gymwys i gael help. Gall eich optegydd roi gwybod i chi sut i gael help.
Gellir rhoi lensys cyffwrdd i blant a gall eich optometrydd roi cyngor i chi ar hyn. Penderfyniad y plentyn yw gwisgo'r lensys cyffwrdd ai peidio, a dim ond os bydd y plentyn yn dewis eu cael y bydd yr optometrydd yn eu rhoi iddo. Mae'n rhaid i'r plant hefyd allu rhoi'r lensys yn y llygaid a'u tynnu allan eu hunain, ac mae'n rhaid iddynt ddeall yn llwyr pa mor angenrheidiol yw gofalu amdanynt yn iawn.