Iechyd meddwl eich plentyn
Os ydych yn poeni am ymddygiad eich plentyn neu os ydy'ch plentyn fel petai'n llawer mwy gofidus nag arfer, efallai y bydd angen i chi geisio dod o hyd i graidd y broblem.
Iechyd meddwl eich plentyn
Mae plant yn wynebu pwysau o sawl math yn ein cymdeithas fodern. Mae'r rhan fwyaf yn ymdopi'n iawn, ond mae rhai yn cael trafferth ymdopi neu ddim yn cael y gefnogaeth y mae ei hangen arnynt i deimlo'n hapus, yn ddiogel ac yn hyderus. Os ydy'ch plentyn yn teimlo'n ofidus neu'n boenus, gall fynegi'r anhapusrwydd mewn sawl ffordd:
- methu cysgu, cael hunllefau, gwlychu'r gwely
- bod yn niwsans yn y dosbarth
- dechrau troi'n ffyslyd gyda bwyd neu lanweithdra, neu ddatblygu problemau bwyta
- troi'n ddigalon ac yn isel
- ceisio hunan-niweidio
- cael trafferth gwneud ffrindiau, neu'r berthynas â'r teulu yn y cartref yn troi'n anodd
- troi'n ofnus ac yn ddig/chwerw
- dechrau cwffio a throi'n ymosodol
Yn yr un modd, efallai y bydd eich greddf yn dweud wrthych fod rhywbeth o'i le.
Os ydych yn poeni am eich plentyn, gallech chi:
- siarad â'ch meddyg teulu - gall eich cyfeirio at wasanaethau arbenigol yn eich ardal ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd
- siarad ag ysgol eich plentyn - efallai y bydd yr ysgol yn gallu helpu i ddatrys y problemau, darparu cefnogaeth ychwanegol a bod yn ystyriol o'r plentyn
- cysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol i ganfod pa gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer eich teulu
- cael gwybodaeth am fudiadau cwnsela pobl ifanc yn eich ardal drwy Youth Access ar 020 8772 9900