Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae yna rai afiechydon a all ladd plant neu achosi niwed parhaol i'w iechyd. Weithiau, mae angen cymorth ar system imiwnedd eich plentyn er mwyn gallu ymladd yr afiechydon hynny. Imiwneiddio, neu frechu neu roi pigiad, sy'n darparu'r cymorth hwnnw.
Yr oed y rhoddir yr imiwneiddiad | Pa afiechydon sy'n cael eu rhwystro | Enw'r brechlyn |
---|---|---|
Deufis oed | Difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), polio a ffliw Haemoffilws math b (Hib) Heintiau niwmococol |
DTaP/IPV/Hib brechlyn Niwmococol cyfunedig, (PCV) |
Tri mis oed | Difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), polio a ffliw Haemoffilws math b (Hib) Llid yr ymennydd C |
DTaP/IPV/Hib MenC |
Pedwar mis oed | Difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), polio a ffliw Haemoffilws math b (Hib) Llid yr ymennydd C heintiau Niwmococol |
DTaP/IPV/Hib MenC PCV |
Oddeutu 12 mis oed | ffliw Haemoffilws math b (Hib) Llid yr ymennydd C |
Hib/MenC |
Oddeutu 13 mis oed | Y frech goch, clwy'r pennau a rwbela heintiau Niwmococol |
MMR PCV |
Tair mlynedd a phedwar mis, neu'n fuan wedi hynny | Difftheria, tetanws, pertwsis a pholio Y frech goch, clwy'r pennau a rwbela |
DTaP/IPV neu dTaP/IPV MMR |
Tair ar ddeg i ddeunaw mlwydd oed | Difftheria, tetanws, polio | Td/IPV |
Tair ar ddeg i ddeunaw mlwydd oed (o fis Medi 2008 - merched yn unig) | Firws papiloma dynol (HPV) - mae'n cynyddu'r perygl o gael canser ceg y groth | HPV |
Yn ychwanegol, mae rhai babanod mewn grwpiau uchel eu risg yn cael imiwneiddiad y BCG i'w hamddiffyn rhag twbercwlosis yn fuan ar ôl iddynt gael eu geni. Hefyd, gall rhai babanod sy'n agored i fwy o risg gael eu himiwneiddio yn erbyn Hepatitis B. Bydd eich meddyg/ymwelydd iechyd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi os bydd angen y rhain ar eich plentyn.
Cyn i'ch plentyn ddechrau yn yr ysgol, bydd fel arfer yn cael ei imiwneiddio naill ai gan eich meddyg teulu neu yn y clinig iechyd plant lleol. Anfonir apwyntiad atoch fel arfer gan yr Adran Iechyd Plant neu gan eich meddygfa.
Fel rheol, bydd plant yn eu harddegau yn cael eu himiwneiddio yn yr ysgol. Bydd yr ysgol yn cysylltu â chi cyn y bydd eich plentyn yn derbyn unrhyw frechiad.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, gallwch siarad â'ch ymwelydd iechyd, eich meddyg, nyrs ysgol neu'r nyrs practis yn y feddygfa. Gallwch hefyd gysylltu â NHS Direct ar 0845 4647 (Cymru a Lloegr yn unig). Codir y gyfradd leol am bob galwad. Er mwyn diogelu cleifion, caiff pob galwad ei recordio.
Mae gan Ogledd Iwerddon a'r Alban eu gwasanaethau GIG eu hunain. Cewch wybod mwy trwy ddilyn y dolenni isod.
Argymhellir rhoi brechiad ffliw yn flynyddol, cyn i'r gaeaf ddechrau, i blant a allai ei chael yn anodd ymladd y clefyd neu i blant sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu cymhlethdodau. Os oes gan eich plentyn un o'r cyflyrau canlynol, argymhellir brechiad rhag y ffliw a dylech siarad â'ch meddyg: