Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhoi gwybod i'r DVLA ynghylch profedigaeth

Os ydych chi wedi cael profedigaeth yn ddiweddar, dylech roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) cyn gynted ag y bo modd. Bydd gwneud hynny yn golygu na fyddwch yn derbyn rhagor o ohebiaeth yn y dyfodol yn ymwneud â thrwydded yrru neu gerbyd y sawl a fu farw.

Anfon y trwydded yrru at DVLA

Anfonwch y drwydded yrru gyda llythyr eglurhaol, sy’n nodi'ch perthynas â'r sawl a fu farw, at DVLA, Abertawe, SA99 1AB.

Gallwch hefyd ddychwelyd y drwydded yrru gyda thystysgrif cofrestru, yn yr un amlen, at y cyfeiriadau a nodir isod.

Sut mae rhoi gwybod i DVLA os penderfynwch gadw’r cerbyd

Os oes gennych y dystysgrif cofrestru bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi adran chwech ‘manylion ceidwad newydd’
  • llofnodi a rhoi’r dyddiad ar ‘ddatganiad ceidwad newydd’
  • torri a chadw’r rhan werdd V5C/2 ‘atodiad ceidwad newydd’

Anfonwch y drwydded yrru gyda llythyr eglurhaol, sy’n nodi'ch perthynas â'r sawl a fu farw, at y Tîm Gwaith Achos Sensitif, DVLA, Abertawe, SA99 1ZZ. Dylech dderbyn dogfen cofrestru newydd o fewn pedair wythnos i DVLA cael eich llythyr.

Os nad yw'r dystysgrif cofrestru gennych bydd dal angen i chi anfon eich llythyr i’r cyfeiriad uchod. Yna bydd angen i chi lenwi ffurflen V62 'Cais am dystysgrif gofrestru' a’i hanfon at DVLA, Abertawe, SA991DD.

Gallwch lwytho’r ffurflen V62 oddi ar y we neu gael un o unrhyw gangen Swyddfa’r Post® neu swyddfa DVLA leol.

Os nad oes disg treth gyfredol gan eich cerbyd, bydd angen i chi ei drethu neu symud y cerbyd oddi ar y ffordd a gwneud datganiad HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol).

Sut mae rhoi gwybod i DVLA eich bod chi’n gwerthu’r cerbyd

Mae sut y byddwch chi’n rhoi gwybod i DVLA eich bod chi wedi gwerthu’r cerbyd yn dibynnu ar a oes gennych y dystysgrif cofrestru ai peidio ac i bwy yr ydych wedi’i werthu.

Gwerthu’r cerbyd gyda thystysgrif cofrestru

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi adran chwech ‘manylion ceidwad newydd’
  • gofyn i’r prynwr lofnodi a rhoi’r dyddiad ar ‘ddatganiad ceidwad newydd’
  • torri a chadw’r rhan werdd V5C/2 ‘atodiad ceidwad newydd’

Anfonwch y dystysgrif cofrestru gyda llythyr at y Tîm Gwaith Achos Sensitif, DVLA, Abertawe, SA99 1ZZ. Dylai’r ceidwad newydd dderbyn tystysgrif cofrestru newydd o fewn pedair wythnos i DVLA cael eich llythyr.

Gwerthu’r cerbyd gyda thystysgrif cofrestru, i werthwr ceir

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi adran naw ‘gwerthu/trosglwyddo i werthwr ceir’
  • gofyn i’r gwerthwr ceir lofnodi a rhoi’r dyddiad ar yr un adran
  • torri a chadw’r slip hwn a’i dychwelyd at DVLA
  • rhoi gweddill y dystysgrif cofrestru i’r gwerthwr ceir

Anfonwch y slip gyda llythyr at y Tîm Gwaith Achos Sensitif, DVLA, Abertawe, SA99 1ZZ.

Gwerthu’r cerbyd heb dystysgrif cofrestru

Os ydych yn gwerthu’r cerbyd ac mae’r prynwr yn cytuno i’w brynu heb dystysgrif cofrestru, bydd angen iddynt lenwi ffurflen V62 a’i hanfon at DVLA. Yna bydd angen i chi ysgrifennu llythyr a chynnwys y dyddiad roeddech chi wedi gwerthu’r cerbyd, ac enw a chyfeiriad y prynwr. Anfonwch y llythyr at y Tîm Gwaith Achos Sensitif, DVLA, Abertawe, SA99 1ZZ.

Additional links

Arbedwch amser drwy ei wneud ar-lein

Mynnwch wybod pa wasanaethau moduro sydd ar gael ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU