Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Adnoddau ar gyfer data tanwydd car, CO2 a threth cerbyd

Gan ddefnyddio’r adnoddau ar gyfer data tanwydd car, CO2 a threth cerbyd, gallwch gael gwybodaeth am gostau rhedeg y car, pa mor effeithlon y mae'n defnyddio tanwydd, treth ar y car a rhagor. Cyn i chi wneud penderfyniad ynglŷn â pha gar i'w brynu, defnyddiwch yr adnoddau isod i gael gwybod pa gar sydd orau ar eich cyfer chi.

Cael manylion y cerbyd os oes gennych chi’r rhif cofrestru

Chwilio am fanylion car, gan gynnwys cost y treth cerbyd, allyriadau CO2, maint yr injan a phryd fydd rhaid i chi dalu treth.

Cael gwybodaeth am allyriadau a faint o danwydd a ddefnyddir gan gar newydd neu ail-law

Chwilio am fanylion car yn ôl math a model y car, gan gynnwys allyriadau CO2 ac allyriadau eraill, a faint o danwydd mae’n ei ddefnyddio.

Cael gwybodaeth am dreth ar gar newydd neu ail-law

Chwilio am fanylion car yn ôl math, model a dyddiad cofrestru, neu weld y tablau treth cyfredol.

Dod o hyd i geir newydd yn ôl band treth

Chwilio am geir newydd mewn band treth penodol. Mae’n cynnwys ceir Band A nad oes rhaid talu treth flynyddol arnynt ar hyn o bryd.

Cael gwybod faint mae’n ei gostio i drethu pob math o gerbyd

Chwilio am wybodaeth ynghylch faint o dreth sy’n daladwy ar feiciau modur, loriau, bysiau a phob math arall o gerbyd.

Dod o hyd i geir newydd yn ôl pa mor effeithlon maent yn defnyddio tanwydd

Chwilio am geir newydd yn ôl y ffigurau sy’n dangos pa mor effeithlon maent yn defnyddio tanwydd.

Dod o hyd i geir newydd a dangos y costau tanwydd yn sgil rhedeg y car

Chwilio am geir newydd yn ôl trethiant ceir cwmni, yn seiliedig ar fandiau CO2.

Dod o hyd i geir newydd yn ôl band treth ceir cwmni

Chwilio am geir newydd yn ôl trethiant ceir cwmni, yn seiliedig ar fandiau CO2.

Dod o hyd i geir newydd sy'n defnyddio mathau gwahanol o danwydd

Chwilio am geir newydd sy'n defnyddio tanwydd ar wahân i betrol neu ddisel, gan gynnwys LPG, CNC a phetrol-trydanol.

Llwytho gwybodaeth am allyriadau a thanwydd ceir

Yma, cewch ddata ynglŷn ag allyriadau ceir unigol, a faint o danwydd maent yn ei ddefnyddio. Gellir llwytho sampl o'r label effeithlonrwydd tanwydd newydd yma hefyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU