Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Opsiynau o ran ceir a thanwydd

Wrth brynu car newydd, efallai y byddwch am ystyried yr opsiynau tanwydd gwahanol sydd ar gael. I helpu, gallech ddefnyddio'r adnoddau data tanwydd ceir, CO2 a threth cerbydau i restru ceir sydd â mathau penodol o danwydd. Dysgwch fwy am yr opsiynau tanwydd amrywiol, a pha rai sy'n cynhyrchu llai o allyriadau.

Yr opsiynau tanwydd car gwahanol

Mae sawl opsiwn tanwydd gwahanol ar gyfer ceir. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • petrol
  • diesel
  • nwy petrolewm hylifedig (LPG)
  • nwy naturiol cywasgedig (CNG)
  • ceir petrol/trydan neu ‘hybrid’

Defnyddiwch yr adnodd data tanwydd ceir i gael gwybod pa fodelau o geir sy'n defnyddio pa danwydd.

Ceir petrol a diesel

Mae gan y mathau gwahanol o danwydd wahanol rinweddau o safbwynt amgylcheddol. Mae gan fotorau diesel allyriadau carbon deuocsid (CO2) fesul cilometr a deithir sy'n sylweddol llai na motorau petrol. Mae hyn yn wir am fod y motor diesel yn fwy effeithlon, sy'n golygu ei fod yn cael llai o effaith ar newid yn yr hinsawdd.

Mae ceir diesel hefyd yn allyrru lefelau is o garbon monocsid (CO) a hydrocarbon (HC) na cheir petrol cyfatebol. Fodd bynnag, mae motorau diesel yn allyrru lefelau uwch o ocsidau nitrogen (NOx) a mwy o ronynnau huddygl bach na motorau petrol newydd. Gall hyn gael effaith negyddol ar ansawdd yr aer mewn ardaloedd trefol.

Ceir LPG a CNG

Yn gyffredinol caiff ceir LPG a CNG eu trosi o geir petrol. Er ymarferoldeb, mae ceir LPG a CNG yn tueddu i ddefnyddio dau danwydd, sy'n golygu y gallant redeg ar betrol neu danwydd nwyol.

Mae ceir LPG yn tueddu i fod rhwng petrol a diesel o ran perfformiad CO2. Mae hyn yn wir am fod y tanwydd yn cynnwys llai o garbon a mwy o ynni yn ôl màs y tanwydd. Mae CNG yn cynnig hyd yn oed llai o allyriadau CO2 nag LPG, sy'n debyg i ddiesel fel arfer.

Mae allyriadau llygryddion (CO, HC, NOx a gronynnau) ceir LPG a CNG a gaiff eu hadeiladu'n dda yn debyg neu ychydig yn well na rhai ceir petrol.

Ceir petrol/trydan neu 'hybrid'

Mae ceir hybrid yn cyfuno motor hylosgi mewnol â motor trydan a batri. Mae sawl ffordd y gall y car hybrid weithio. Er enghraifft, efallai y gall y car weithredu:

  • gyda'i fotor ei hun yn unig
  • gyda phŵer batri yn unig
  • cyfuniad o'r ddau

Os bydd y car yn defnyddio cyfuniad o'r ddau, bydd pŵer y batri yn rhoi pŵer ychwanegol wrth gyflymu a phan fo angen i'r motor weithio'n galetach. Yna gellir ailwefru'r batri drwy'r motor hylosgi mewnol neu o'r ynni a gaiff ei amsugno wrth frecio. Mewn rhai achosion, mae hefyd yn bosibl ailwefru'r batri gan ddefnyddio cyflenwad trydanol allanol. Gall ceir hybrid leihau'r defnydd o danwydd a chynhyrchu llai o CO2, ac mae'n bosibl hefyd y byddant yn helpu i leihau llygredd aer mewn ardaloedd lle y mae llawer o draffig.

Biodanwyddau

Gall biodanwyddau gynnig ffordd o leihau effaith ceir ar newid yn yr hinsawdd. Nid yw'r tanwyddau'n hollol niwtral o ran CO2 oherwydd yr ynni a ddefnyddir i dyfu a phrosesu'r cnydau y cânt eu gwneud ohonynt, ond gallant gynnig arbedion sylweddol o ran CO2.

Caiff y rhan fwyaf o fiodanwyddau a werthir eu cymysgu â phetrol neu ddiesel. Gellir cymysgu hyd at 5 y cant o'r biodanwydd â phetrol neu ddiesel, a gellir defnyddio'r cymysgeddau hyn ym mhob car. Efallai y caiff safonau tanwydd eu hymestyn yn y dyfodol er mwyn caniatáu mwy na 5 y cant os bydd yn gydnaws â cheir sy'n bodoli eisoes. Mae rhai gweithgynhyrchwyr yn cynnig ceir 'aml-danwydd' a all redeg ar gymysgeddau bioethanol hyd at E85 - cymysgedd o 85 y cant o fioethanol a 15 y cant o betrol, yn ogystal â phetrol digymysg.

Mae rhai gweithgynhyrchwyr hefyd yn caniatáu i gymysgeddau uwch o fioddiesel gael eu defnyddio yn eu ceir (holwch weithgynhyrchydd eich car). Mae'n bwysig mai dim ond biodiesel o ansawdd uchel sy'n cyrraedd safon ansawdd yr UE - EN 14214 a gaiff ei ddefnyddio.

Ar hyn o bryd mae nifer gyfyngedig o orsafoedd tanwydd yn cynnig y tanwydd hwn, ond dylai'r nifer gynyddu yn y dyfodol. I gael gwybod ble mae eich gorsaf danwydd agosaf, dilynwch y ddolen isod.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU