Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae cynllun profi'r defnydd o danwydd yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar brynwyr ceir i gymharu'r defnydd o danwydd gan fodelau gwahanol o fath tebyg. Mynnwch wybod mwy am y prawf defnydd o danwydd a'r camau sy'n rhan ohono.
Mae dwy ran i'r prawf y cytunwyd arno'n rhyngwladol: cylch trefol a chylch trefol pellach.
Mae'n rhaid i'r ceir sy'n cael eu profi fod wedi cael eu defnyddio'n barod ac mae'n rhaid iddynt fod wedi'u gyrru am o leiaf 1,800 milltir (3,000 cilomedr) cyn y prawf.
Nod y prawf cylch trefol yw efelychu amodau gyrru yn y dref ac o'i hamgylch. Caiff ei gynnal ar ffordd dreigl mewn labordy â thymheredd rhwng 20 gradd Celsius (°C) a 30°C. Mae'r prawf yn dechrau'n syth ar ôl i'r car gael ei gychwyn yn oer, hynny yw, lle nad yw'r motor wedi cael ei redeg am sawl awr. Mae'r cylch yn cynnwys cyfres o achosion o:
Uchafswm cyflymder y prawf yw 31 milltir yr awr (mya) neu 50 cilomedr yr awr (km/a), y cyflymder cyfartalog yw 12 mya (19 km/a) a'r pellter a deithir yw 2.5 milltir (4 cilomedr).
Nod y cylch trefol pellach yw efelychu amodau gyrru yn y dref ar ddarnau o ffyrdd cyflymach fel ffyrdd deuol ac ardaloedd terfyn cyflymder cenedlaethol. Caiff y cylch hwn ei gynnal yn syth ar ôl y cylch trefol ac mae'n cynnwys:
Uchafswm cyflymder y prawf yw 75 mya (120 km/a), y cyflymder cyfartalog yw 39 mya (63 km/a) a'r pellter a deithir yw 4.3 milltir (7 cilomedr).
Y ffigur defnydd o danwydd cyfunol yw'r cylch trefol a'r cylch trefol pellach gyda'i gilydd. Mae'r ffigur yn gyfartaledd o'r ddau brawf, wedi'u pwysoli yn ôl y pellteroedd a deithir ym mhob un.
Mae'n rhaid cynnal profion ar gyfer y ddau danwydd ar gerbydau sydd wedi'u cynllunio i redeg ar nwy petrolewm hylifedig (LPG) neu nwy naturiol cywasgedig (CNG) a phetrol. Oherwydd hyn, caiff dwy gyfres o ffigurau eu dangos ar gyfer y cerbyd. Mae un ar gyfer y cerbyd yn rhedeg ar betrol ac mae'r llall ar gyfer y cerbyd yn rhedeg ar nwy.