Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cysylltiadau ar gyfer cynghorwyr credydau treth

Os bydd arnoch angen cysylltu â'r Swyddfa Credyd Treth ar ran rhywun, mae nifer o bwyntiau cyswllt gwahanol ar gael. Mae'r un iawn i'w ddefnyddio yn dibynnu ar bwy ydych chi a pha gyngor mae ei angen arnoch chi. Dim ond os yw eu rhif uniongyrchol nhw gennych chi y cewch chi gysylltu â thîm neu arbenigwr penodol.

Cyn i chi gysylltu

Cyn i chi siarad ag unrhyw un am faterion credydau treth rhywun arall bydd angen i chi gael yr awdurdod i weithredu ar eu rhan. Gallwch ofyn i'ch cleient eich awdurdodi ar gyfer dim ond galwad ffôn, neu am gyfnod hwy - 12 mis onid y mae eich cleient yn nodi cyfnod mwy prin neu hir.

Gall eich cleient eich awdurdodi am

  • hyd yr alwad - bydd arnynt angen cadarnhau eu bod nhw am i chi weithredu ar eu rhan ar ddechrau'r alwad ffôn
  • cyfnod hwy - i wneud hyn, bydd angen iddynt lenwi'r ffurflen awdurdodi briodol, fel rheol y TC689 Awdurdod i gyfryngwr weithredu ar eich rhan

Llinell Gymorth Credyd Treth

Gallwch ddefnyddio'r llinell gymorth hon i drafod credydau treth rhywun arall os ydych chi yn:

  • gynghorydd o'r sector gwirfoddol a chymunedol
  • helpwr di-dâl fel ffrind neu berthynas

Ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth os oes arnoch chi eisiau:

  • cyngor credydau treth penodol ar gyfer eich cleient
  • cyngor am ad-daliadau credydau treth os yw eich cleient wedi cael gordaliad ac mae'n cael ei adfer o'u dyfarniad credydau treth parhaus

Llinell Gymorth Taliad Credyd Treth

Defnyddiwch y llinell gymorth hon os oes arnoch chi eisiau trafod dewisiadau ad-dalu ar gyfer eich cleient os:

  • ydynt wedi cael hysbysiad yn dweud wrthynt fod angen iddynt ad-dalu gordaliad ac nad ydynt yn cael credydau treth mwyach
  • mae'r gordaliad yn berthnasol i hen ddyfarniad credydau treth o ganlyniad i newid yn amgylchiadau'r cartref - er enghraifft, efallai fod eich cleient nawr yn cael credydau treth ar y cyd gyda'u partner ond mae'r gordaliad yn ymwneud â hawliad sengl cynharach

Manylion cyswllt

Gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 302 1429. Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 8.00 am a 4.00 pm ar ddydd Sadwrn.

Llinell Blaenoriaeth Asiant ar gyfer credydau treth

Gallwch ddefnyddio'r llinell gymorth hon os ydych chi'n gynghorydd sy'n cael tâl fel cyfrifydd ac rydych chi wedi cael awdurdod i weithredu fel asiant ar ran eich cleient.

Bydd yr holl alwadau i'r llinell gymorth hon yn cael eu trosglwyddo i ganolfan gyswllt ac yn cael eu nodi fel galwadau gan asiant. Bydd cynghorwyr yn gallu dilysu pwy ydych chi'n gyflym a delio â'ch galwad mor effeithlon ag sy'n bosibl.

Manylion cyswllt

Os ydych chi'n asiant awdurdodedig, gallwch ffonio'r Llinell Blaenoriaeth Asiant ar 0845 300 3943. Mae'r llinell blaenoriaeth ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 8.00 am a 4.00 pm ar ddydd Sadwrn.

Cysylltiadau ar gyfer timau penodol yn y Swyddfa Credyd Treth

Mae pwyntiau cyswllt eraill ar gyfer cynghorwyr credydau treth yn dibynnu ar sefyllfa benodol eich cleient.

Fel arfer allwch chi ddim cael gafael ar dîm neu arbenigwr penodol yn uniongyrchol. Ond os bydd un o'r rhain yn cysylltu â'ch cleient am eu hawliad credydau treth, fel rheol bydd y llythyr yn cynnwys eu manylion cyswllt.

Dylech chi ddefnyddio'r manylion cyswllt hyn os oes arnoch angen trafod y mater, a allai fod er enghraifft yn:

  • achos llys mae eich cleient yn wynebu oherwydd twyll credydau treth
  • anghydfod ynghylch gordaliad
  • cais am wybodaeth benodol fel rhan o ymholiad credydau treth
  • cais am wybodaeth i helpu i gadarnhau bod eich cleient yn preswylio yn y DU

Os nad ydych chi'n siŵr pwy y dylech gysylltu â nhw, ffoniwch un o'r llinellau cymorth uchod.

Os oes arnoch angen ysgrifennu

Os oes arnoch eisiau ysgrifennu at y Swyddfa Credyd Treth ac nad oes gennych bwynt cyswllt penodol, gallwch anfon gohebiaeth i:

Tax Credit Office
Preston
PR1 0SB

Os ydych yn ysgrifennu ar ran cleient i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau, rhowch 'change of circumstances' ar yr amlen.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU