Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes anghydfod rhyngoch chi a'ch landlord, yn aml gallwch ei ddatrys heb fynd i'r llys. Mynnwch wybod sut i ddatrys anghydfod yn ymwneud â thŷ a'r sefydliadau y gallwch gysylltu â hwy i gael help i ganfod ateb.
Os credwch y gallech gael eich gorfodi i adael eich cartref, dylech geisio siarad â'ch landlord. Gallwch hefyd gysylltu â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol neu'r elusen dai Shelter am gyngor.
0808 800 4444
Gallwch gael cyngor am ddim ar anghydfodau neu broblemau sy'n ymwneud â thai gan eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol neu'r elusen dai Shelter.
Os bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys, gallwch gael cyngor ar ddiwrnod y gwrandawiad gan y ddesg dai yn y llys.
Gallwch geisio datrys anghydfod mewn modd anffurfiol, drwy siarad â'ch landlord am y broblem. Os nad yw siarad â'ch landlord yn gweithio, gallwch ysgrifennu llythyr ffurfiol yn nodi'r broblem.
Tenantiaid preifat
Os ydych yn denant preifat, mae gwasanaethau y gallech eu defnyddio ar gyfer mathau penodol o anghydfodau gyda landlordiaid.
Os ydych yn symud o eiddo ac yn cael trafferth cael eich blaendal yn ôl, dylech gysylltu â'r cynllun diogelu blaendal tenantiaeth a ddefnyddiwyd gan eich landlord. Darllenwch 'Cynlluniau diogelu blaendaliadau ar gyfer tenantiaid preifat - problemau ac anghydfodau' i gael mwy o wybodaeth am sut mae'r cynlluniau hyn yn gweithio.
Os ydych yn credu bod eich rhent yn rhy uchel, efallai y gallech ei herio drwy apelio i'r Pwyllgor Asesu Rhenti.
Tenantiaid y cyngor a chymdeithasau tai
Bydd gan gynghorau a chymdeithasau tai weithdrefnau cwyno ffurfiol y gallwch eu defnyddio.
Os nad ydych yn fodlon ar yr ymateb a gewch i'ch cwyn, gallwch gyfeirio eich cwyn at:
Pan fo eich cwyn yn ymwneud ag atgyweirio neu gyflwr eich eiddo, mae nifer o ffyrdd posibl o geisio cael y landlord i unioni pethau.
Gall gwasanaethau cyfryngu helpu i ddatrys amrywiaeth o anghydfodau sy'n ymwneud â thai heb yr angen i fynd i'r llys. Efallai y byddwch am roi cynnig ar gyfryngu os na allwch ddatrys eich anghydfod mewn unrhyw ffordd arall.
Gall cyfryngu fod yn well na mynd i'r llys am ei fod fel arfer yn:
Cewch y cyfle i drafod y broblem yn anffurfiol a dod i gytundeb â'r ochr arall.
Cysylltu â’ch cyngor leol neu gymdeithas tai
Yng Nghymru a Lloegr, defnyddiwch y teclyn ‘dod o hyd i ddarparwr cyfryngu sifil’ i gael manylion darparwr cyfryngu yn eich ardal.
Yn yr Alban, defnyddiwch Scottish Mediation Network.
Efallai y bydd eich cyngor neu gymdeithas tai yn darparu gwasanaeth cyfryngu hefyd.
Fel arfer codir ffi am ddefnyddio gwasanaeth cyfryngu, ond dylai fod yn rhatach na mynd i'r llys.
Gall elusen LawWorks ddarparu gwasanaeth cyfryngu am ddim os na allwch fforddio talu ac nad oes gennych unrhyw ffordd arall o dalu. Gallwch gysylltu â LawWorks ar 020 7092 3940, neu ewch i'w gwefan i wneud cais.
Os byddwch yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn eich landlord, neu fod eich landlord yn cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn chi, efallai y bydd yr achos yn mynd i lys mân hawliadau. Mae mân hawliadau yn werth llai na £5,000, neu £1,000 os yw'r achos yn ymwneud ag atgyweirio eiddo. Mae'r llysoedd yn darparu gwasanaeth cyfryngu am ddim ar gyfer achosion sy'n ymwneud â mân hawliadau.
Telir y gost o ddefnyddio'r gwasanaeth gan y ffioedd llys a delir fel rhan o'r broses o wneud mân hawliad.
Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth cyfryngu am ddim os yw'r achos yn ymwneud â rhent sydd heb ei dalu os mai hawliad am yr arian sy'n ddyledus ydyw, ac nid achos o adfeddiannu. Os yw'r achos yn ymwneud ag adfeddiannu, ni allwch ddefnyddio'r gwasanaeth cyfryngu am ddim a dylech geisio cyngor cyfreithiol.
Mewn gwasanaeth cyfryngu mân hawliadau, bydd y llys yn penodi cyfryngwr i helpu dwy ochr i gytuno ar ateb i'r anghydfod. Gellir gwneud y cyfryngu dros y ffôn, fel nad ydych yn gorfod teithio i'r llys.
Fel arfer bydd defnyddio gwasanaeth cyfryngu mân hawliadau yn gyflymach, yn rhatach ac yn peri llai o straen na bwrw ymlaen â hawliad llys.