Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os caiff eich cais 'Hawl i Brynu' ei wrthod gan eich landlord am fod yr eiddo yn addas ar gyfer yr henoed, efallai y byddwch yn gallu apelio. Yn Lloegr, caiff apeliadau eu rheoli gan y Tribiwnlys Eiddo Preswyl. Mynnwch wybod sut i apelio a ble i gael cyngor.
Dim ond os cafodd eich cais Hawl i Brynu ei wrthod am fod eich cartref yn addas ar gyfer yr henoed y gallwch apelio
Corff cyfreithiol annibynnol yw'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl sy'n cynnig ffordd deg o ddatrys anghydfodau heb fod angen mynd i'r llys. Gallwch apelio i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl am sawl math o anghydfod sy'n ymwneud ag eiddo preswyl. Mae hyn yn cynnwys yr Hawl i Brynu, ond dim ond os cafodd eich cais Hawl i Brynu ei wrthod am fod eich cartref yn addas ar gyfer yr henoed. Ni fydd y Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn derbyn apêl Hawl i Brynu am unrhyw reswm arall.
Os ydych yn byw yng Nghymru, Llywodraeth Cymru sy'n rheoli apeliadau Hawl i Brynu. Dylech gysylltu â Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol i gael gwybod sut i apelio os ydy’ch cartref yng Nghymru. Ffoniwch 0845 010 4400 neu ymwelwch â’r wefan.
Mae'n rhaid i chi apelio i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl o fewn 56 diwrnod i'ch landlord wrthod eich cais Hawl i Brynu. Os na fyddwch yn gwneud hynny, byddwch yn colli'r hawl i apelio.
Er mwyn apelio, cwblhewch y ffurflen gais, 'Penderfynu a yw tŷ annedd yn addas i bobl hŷn fyw ynddo ai peidio'. Defnyddiwch y ddolen isod i gael y ffurflen hon gan y Gwasanaeth Tribiwnlys Eiddo Preswyl.
Anfonwch y ffurflen hon i'ch Panel Asesu Rhenti lleol (bydd y cyfeiriad ar y ffurflen gais).
Gallwch gael cyngor am ddim ar eich anghydfod gan Cyngor ar Bopeth. Gall cyfreithiwr eich helpu, ond efallai y bydd yn codi ffi.
Gallwch gael rhywun i'ch cynrychioli yn eich apêl (fel cyfreithiwr neu ffrind). Os bydd rhywun yn eich cynrychioli, anfonir y wybodaeth am eich achos at yr unigolyn hwnnw, nid chi. Fel arfer bydd angen i'r unigolyn hwnnw, nid chi, anfon unrhyw wybodaeth y mae'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn gofyn amdani.
Gallwch gael manylion llawn am sut y caiff apêl ei rheoli gan y Gwasanaeth Tribiwnlys Eiddo Preswyl. Mae'r camau sylfaenol isod.
Cam un: bydd y Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn cadarnhau ei fod wedi cael eich cais.
Cam dau: anfonir copi at yr ymatebydd (yr unigolyn sy'n gwrthwynebu'r apêl, eich landlord fel arfer) a gofynnir iddo gadarnhau a yw am wrthwynebu. Os na fydd yn gwrthwynebu, bydd y Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn ysgrifennu atoch a byddwch yn gallu prynu'r eiddo drwy'r cynllun 'Hawl i Brynu'.
Cam tri: efallai y bydd y Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn gofyn i chi am fwy o wybodaeth, sef 'cyfarwyddiadau'. Er enghraifft, copi o'ch cytundeb tenantiaeth. Os na fyddwch yn dilyn cyfarwyddyd, gallai eich apêl gael ei gohirio neu ei gwrthod.
Cam pedwar: efallai y bydd y Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn archwilio'r eiddo. Mae angen i chi roi caniatâd ar gyfer archwiliad mewnol. Dim ond os byddwch yn cytuno ar hynny y gall yr ymatebydd neu ei gynrychiolydd fynd i archwiliad mewnol.
Cam pump: anfonir copïau o'r holl dystiolaeth at y ddwy ochr fel bod ganddynt gyfle teg i wneud sylwadau arni.
Cam chwech: bydd y Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn ystyried eich achos – naill ai gyda 'phenderfyniad ar bapur' (os bydd y ddwy ochr yn cytuno) neu mewn gwrandawiad (os nad ydynt yn cytuno). ‘Penderfyniad ar bapur' yw lle mae’r ddwy ochr yn anfon eu tystiolaeth ar ffurf ysgrifenedig. Mewn gwrandawiad, fel arfer bydd tri aelod o'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn gwrando ar dystiolaeth y ddwy ochr ac yn gofyn cwestiynau. Gallwch ofyn cwestiynau a chynrychioli chi eich hun neu gael rhywun arall i wneud hynny.
Cam saith: bydd y Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn anfon ei benderfyniad yn ysgrifenedig 28 diwrnod ar ôl cam chwech.
Dim ond drwy'r Uchel Lys y gellir herio penderfyniad y Tribiwnlys Eiddo Preswyl. Mae'n rhaid i chi wneud cais i’r Uchel lys o fewn 28 diwrnod i gael penderfyniad y Tribiwnlys Eiddo Preswyl. Mynnwch gyngor cyfreithiol neu broffesiynol i'ch helpu am y rhesymau canlynol:
Os bydd gennych gŵyn am y ffordd yr ymdriniwyd â'ch achos, gallwch gwyno i'r Gwasanaeth Tribiwnlys Eiddo Preswyl. I gael manylion am sut i gwyno, gweler y ddolen isod.