Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall Swyddfa Medalau'r Weinyddiaeth Amddiffyn a Veterans UK eich cynorthwyo drwy roi gwybodaeth am hanes medalau a roddir am wasanaeth, sut y gwobrwyir medalau a sut yr adnewyddir hwy. Mae gan yr Archifau Cenedlaethol gofnodion o fedalau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Gall y Coleg Arfbeisiau eich cynorthwyo â gwybodaeth am arfbeisiau.
Swyddfa Medalau'r Weinyddiaeth Amddiffyn
Mae gan Swyddfa Medalau'r Weinyddiaeth Amddiffyn fanylion am y rhan fwyaf o fedalau a roddwyd o'r 1920au ymlaen am fod yn rhan o ymgyrchoedd, a gall ateb unrhyw gwestiwn ynghylch yr hawl i fedalau am fod yn rhan o ymgyrchoedd presennol.
Mae'n darparu dau brif wasanaeth: rhoi medalau ar gyfer ymgyrchoedd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf i'r sawl sydd â hawl iddynt ond nad ydynt erioed wedi'u derbyn, a rhoi medalau newydd yn lle hen rai, dan amodau penodol, i'r sawl sydd â hawl iddynt hwythau.
Veterans UK
Mae gwefan Veterans UK yn rhoi gwybodaeth ynghylch sut y caiff medalau eu rhoi, sut y gellir hawlio medalau neu gael rhai newydd, neu ganfod a oes gan rywun hawl i fedal na wnaethant ei hawlio ar y pryd.
Ceir gwybodaeth hefyd am Emblem yr Arctig - emblem newydd a roddir am wasanaethu yng Nghonfois yr Arctig yn yr Ail Ryfel Byd - ac am y fedal a wobrwyir am wasanaethu ym Mharth Canal Suez rhwng 1951 a 1954.
Mae gan ddynion a merched a fu'n gwasanaethu gyda Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi unrhyw dro cyn 1994 hawl i Fathodyn Lapél Cyn-Aelodau'r Lluoedd Arfog, sef bathodyn i oroeswyr, i'w wisgo ar wisg sifil.
Cofnodion medalau'r Rhyfel Byd Cyntaf
Ceir yn yr Archifau Cenedlaethol y mynegai ar gyfer rhestri medalau'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn ogystal â'r rhestri medalau gwreiddiol. Mae'r cofnodion yn rhoi manylion cryno iawn am y gwasanaeth, megis ym mha gatrawd a theatr ryfel y gwasanaethwyd ynddi. Gallwch chwilio drwy'r mynegai ar-lein, a lawrlwytho copi o gardiau mynegai'r medalau am ffi fechan.
Yr hawl i arfbais
Mae arfbeisiau'n perthyn i unigolion, nid i gyfenwau. I gael hawl i arfbais, mae'n rhaid i un gael ei rhoi i chi, neu mae'n rhaid i chi fod yn ddisgynnydd cyfreithlon (ar ochr y dynion yn y teulu) i'r person y rhoddwyd yr arfbais iddo'n wreiddiol.
Y Coleg Arfbeisiau sy'n storio cofrestri swyddogol arfbeisiau ac achau teuluoedd a disgynyddion teuluoedd o Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Gymanwlad. (Mae gan yr Alban a Chanada eu hawdurdodau herodrol eu hunain.)
Rhoi arfbeisiau
Gellir rhoi arfbeisiau ac arfluniau i unigolion neu gorfforaethau; rhaid talu ffi. Nid oes meini prawf penodol i fod yn gymwys i gael arfbais, ond ystyrir pethau fel gwobrau ac anrhydeddau gan y Goron, comisiynau sifil neu filwrol, graddau prifysgol, cymwysterau proffesiynol, gwasanaethau cyhoeddus ac elusennol, a pharch a bri yr unigolyn.
Mae'r cyrff corfforaethol y rhoddir hawl iddynt gael arfbais yn cynnwys trefi a dinasoedd, awdurdodau lleol, ysgolion a phrifysgolion, elusennau, ysbytai a rhai cwmnïau masnachol. Mae'n ofynnol eu bod wedi'u sefydlu'n dda, bod eu sefyllfa ariannol yn gadarn, a'u bod yn gorff blaenllaw neu uchel ei barch yn eu maes.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am system anrhydeddau'r DU, ac am wobrau eraill, yn yr adran am y llywodraeth.