Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gweithio ym maes diogelwch

Os ydych yn hyderus ac yn ddibynadwy ac os ydych am swydd lle gallwch wneud gwahaniaeth yn y gymuned, efallai yr hoffech ystyried gweithio ym maes diogelwch. Dysgwch am brofiadau pobl, ble i gael cyngor gyrfaoedd a sut i gael help i ddod o hyd i swydd.

A yw gweithio yn y diwydiant diogelwch yn addas i chi?

Ar hyn o bryd mae'r diwydiant yn cyflogi tua hanner miliwn o bobl yn y DU. Drwy helpu i ddiogelu bob math o bobl a lleoedd, gall staff diogelwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r cymunedau lle y maen nhw'n gweithio. Dyma rywfaint o sylwadau cadarnhaol gan bobl sy'n gweithio yn y diwydiant diogelwch ar hyn o bryd:

Danni Wallis, Triniwr Cŵn

"Mae fy nghŵn a minnau'n siecio lleoliadau chwaraeon a digwyddiadau am gyffuriau, arfau a deunyddiau ffrwydrol. Rydym yn gwneud tîm gwych ac yn helpu i gadw pobl yn ddiogel."

Warren Brady, Prosesydd Arian Parod

"Rwy'n gweithio'n ddwfn yn naeargelloedd banc, yn union fel y gwelwch yn y ffilmiau! Rwy'n didoli ac yn gwirio arian parod i ail-lenwi tiliau a pheiriannau ATM. Mae'n waith anarferol - ond yn hwyl!"

Diogelwch: y ffeithiau

Yn aml mae gan bobl syniadau pendant am swyddi gwahanol. Ond mae'n bwysig cael y ffeithiau bob amser. Dyma rywfaint o gamsyniadau cyffredin, ynghyd â'r ffeithiau go iawn:

  • "Mae'n waith peryglus" - mewn gwirionedd, nid yw'r rhan fwyaf o staff diogelwch fyth yn gorfod delio â pherygl difrifol, mae'r rhai sy'n gwneud hynny wedi'u hyfforddi'n dda; mae technoleg fodern yn helpu i ddiogelu gweithwyr diogelwch yn ogystal â'r cyhoedd a golyga hyn fod help wrth law bob amser
  • "Dim ond gwaith sifft ac oriau hir ydyw" - mae llawer o gyflogwyr yn cynnig gwaith sifft - fodd bynnag mae staff diogelwch yn gweithio llawer yn fwy o sifftiau yn ystod y dydd
  • "Mae staff diogelwch i gyd yn gyn-droseddwyr!" - Rhaid i bob cwmni diogelwch bellach gyflogi staff trwyddedig, sydd hefyd yn gorfod bodloni safonau sgiliau llym, rhoi prawf o bwy ydyn nhw a phasio gwiriad cofnodion troseddol - caiff y diwydiant ei barchu bellach a gall gweithwyr fod yn falch o'u statws
  • "Rhaid i chi feddu ar lawer o brofiad i gael swydd ym maes diogelwch" - mewn gwirionedd, mae meddu ar agwedd gadarnhaol a bod yn gyfathrebwr da yn bwysicach na llawer o brofiad

Manteision gweithio yn y diwydiant diogelwch

Mae llawer o fanteision o weithio yn y diwydiant diogelwch, gan gynnwys:

  • cael swydd ag iddi hygrededd - rhaid i bob cwmni diogelwch gyflogi staff trwyddedig bellach
  • cyfleustra a hyblygrwydd - mae'r rhan fwyaf o swyddi yn y sector hwn yn cynnig amrywiaeth o oriau a phatrymau sifft
  • mae technoleg fodern yn helpu i ddiogelu gweithwyr diogelwch - nid yw'r rhan fwyaf o staff diogelwch fyth yn gorfod delio â pherygl difrifol

Enghreifftiau o brofiadau pobl

Rupa Ghosh, Rheolwr Cangen

"Mae pobl yn aml yn synnu pan fyddaf yn egluro faint o ferched sy'n gweithio yn y sector diogelwch. Yn wir, mae'n swydd ddelfrydol i mi. Rwy'n cael arwain fy nhîm, gan sicrhau ein bod yn bodloni'r safonau cywir ac yn cadw ein cleientiaid yn hapus. Rwy'n ennill £33,000, a buddiannau gan gynnwys gofal iechyd preifat."

Jim Bovey, Warden Cymunedol

"Rwy'n hoffi gweithio yn yr awyr agored a chyfarfod â phobl, felly dyma fy syniad o hwyl! Er hynny, mae'n ddifrifol hefyd. Rwy'n hoffi meddwl fy mod yn helpu cymunedau i deimlo'n fwy diogel. Mae'n rhoi'r hyder i bobl wybod fy mod yma i gadw llygad ar bethau. Rwy'n ennill £16,000."

Cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am rolau penodol yn y diwydiant diogelwch drwy ddefnyddio'r ddolen cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi isod:

Dewch o hyd i swydd yn y sector hwn

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant a gyrfaoedd yn y diwydiant diogelwch drwy fynd i'r gwefannau canlynol:

I chwilio am swyddi sydd ar gael yn y sector hwn, defnyddiwch y ddolen 'Dechrau chwiliad swyddi a sgiliau' isod neu ffoniwch 0845 6067 890 i siarad ag ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith.

Bydd yn gallu rhoi gwybod pa help a chymorth sydd ar gael i'ch helpu i mewn i waith.

Additional links

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli eich helpu chi a’ch cymuned – cael gwybod mwy

Dechrau masnachfraint

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hunangyflogedig, efallai y bydd dechrau masnachfraint yn opsiwn sy’n werth ei ystyried

Allweddumynediad llywodraeth y DU