Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gweithio ym maes gweithgynhyrchu

Os ydych yn dda gyda'ch dwylo ac yn hoffi gwneud pethau, efallai yr hoffech ystyried gweithio ym maes gweithgynhyrchu. Dysgwch am brofiadau pobl, ble i gael cyngor gyrfaoedd a sut i gael help i ddod o hyd i swydd.

A yw gweithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu yn addas i chi?

Mae'r sector gweithgynhyrchu'n defnyddio peiriannau ac offer, prosesau a phobl i wneud pethau. Mae'n bwysig iawn i economi Prydain. Mae'r rhan fwyaf o gyflogeion yn gweithio mewn timau. Golyga hynny bod cyfleoedd i hyfforddi am swydd fel goruchwyliwr, arweinydd tîm neu reolwr.

Dyma rywfaint o sylwadau cadarnhaol gan bobl sy'n gweithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu ar hyn o bryd:

Greg Holmes, Swyddog Iechyd a Diogelwch

"Dechreuais fel gweithiwr prosesau ac astudiais i wneud y swydd hon. Rwy'n hoffi meddwl bod fy swydd yn helpu i gadw fy nghydweithwyr yn ddiogel."

Sally Culpin, Technegydd Rheoli Ansawdd

"Rwy'n gweithio ar linell gynhyrchu sy'n gwneud teganau. Gall gweithio mewn tîm fod yn llawer o hwyl. Mae fy nghydweithwyr bellach yn ffrindiau i mi hefyd!"

Gweithgynhyrchu: y ffeithiau

Yn aml mae gan bobl syniadau pendant am swyddi gwahanol. Ond mae'n bwysig cael y ffeithiau bob amser. Dyma rywfaint o gamsyniadau cyffredin, ynghyd â'r ffeithiau go iawn:

  • "Nid oes dyfodol i weithgynhyrchu ym Mhrydain" - mae'n amser anodd i bawb ar hyn o bryd, ond mae llawer o weithgynhyrchwyr yn parhau i wneud yn dda; bydd cwmnïau cryf yn goroesi ac yn ffynnu
  • "Mae'n hen ffasiwn ac nid yw'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf" - nid yn unig mae gweithgynhyrchwyr y DU yn defnyddio'r peiriannau diweddaraf i gynhyrchu nwyddau, ond maent yn cynhyrchu cynhyrchion uwch-dechnoleg hefyd - mae awyrennau, ceir rasio a meddyginiaethau i gyd yn enghreifftiau da
  • "Fyddwch chi fyth yn ennill llawer o arian yn y sector gweithgynhyrchu" - os ydych chi'n barod i weithio'n galed, gallwch symud ymlaen o swyddi sylfaenol i swyddi sy'n talu'n dda
  • "Mae swyddi mewn ffatrïoedd yn ddiflas" - mae gan y sector gweithgynhyrchu ystod anferth o swyddi, eich lle chi yw dod o hyd i'r un sydd o ddiddordeb i chi! Hefyd, mae hyfforddiant yn y swydd fel prentisiaethau, NVQs a BTECs yn golygu y gallwch ddatblygu eich swydd gychwynnol yn yrfa wych

Manteision gweithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu

Mae llawer o fanteision o weithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu, gan gynnwys:

  • hyfforddiant - mae llawer o swyddi ym maes gweithgynhyrchu yn rhoi cyfle i chi ddysgu a gwella eich sgiliau yn y swydd
  • boddhad yn eich swydd - os ydych yn mwynhau bod yn greadigol a gwneud pethau, gall gweld yr hyn rydych wedi'i wneud erbyn diwedd y diwrnod gwaith rhoi boddhad mawr i chi
  • rhagolygon gyrfa da - mae llawer o weithgynhyrchwyr yn parhau i wneud yn dda, felly mae llawer o gyfleoedd i symud ymlaen os ydych yn barod i weithio'n galed

Enghreifftiau o brofiadau pobl

Sue Turner, Gweithredwr Prosesau Cemegol

"Rwy'n gweithio mewn labordai ac yn y ffatri. Fy swydd i yw helpu i ddylunio a gwneud plastigau newydd. Rwyf newydd orffen fy Mhrentisiaeth a'r wythnos nesaf rwy'n camu ymlaen i swydd newydd fel Technegwr Peirianneg Cemegol. Ar ôl i mi fod yn ei gwneud am ychydig gallai fy nghyflog godi i fwy na £28,000."

Nick Ryman, Gof

"Rwy'n berson ymarferol. Rwyf wrth fy modd yn dylunio a does dim ots gen i gael fy nwylo'n fudr! Saernïo giatiau a dodrefn gwaith haearn yw'r swydd berffaith i mi. Rwy'n mwynhau gweld canlyniadau fy ngwaith caled. Mae fy nghyflog tua £15,000."

Cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am rolau penodol yn y diwydiant gweithgynhyrchu drwy ddefnyddio'r ddolen cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi isod.

Dewch o hyd i swydd yn y sector hwn

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant a gyrfaoedd yn y diwydiant gweithgynhyrchu drwy fynd i'r gwefannau isod.

I chwilio am swyddi sydd ar gael yn y sector hwn, defnyddiwch y ddolen 'Dechrau chwiliad swyddi a sgiliau' isod neu ffoniwch 0845 6067 890 i siarad ag ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith.

Bydd yn gallu rhoi gwybod pa help a chymorth sydd ar gael i'ch helpu i mewn i waith.

Additional links

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli eich helpu chi a’ch cymuned – cael gwybod mwy

Dechrau masnachfraint

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hunangyflogedig, efallai y bydd dechrau masnachfraint yn opsiwn sy’n werth ei ystyried

Allweddumynediad llywodraeth y DU