Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn mwynhau bod yn rhan o dîm, yn dda gyda phobl ac am gael swydd gyfrifol, efallai yr hoffech ystyried gweithio ym maes iechyd. Dysgwch am brofiadau pobl, ble i gael cyngor gyrfaoedd a sut i gael help i ddod o hyd i swydd.
Mae dros ddwy filiwn o bobl yn gweithio yn niwydiant iechyd y DU. Nid yw'n ymwneud â meddygon a nyrsys yn unig. Gallech fod yn rhan o dîm sy'n helpu cleifion i gael y driniaeth a'r gofal sydd eu hangen arnynt. Beth bynnag yw eich sgiliau a'ch diddordebau, gallwch ddod o hyd i rôl sy'n addas i chi. Gallai gweithio ym maes iechyd fod yn addas i chi.
Dyma rywfaint o sylwadau cadarnhaol gan bobl sy'n gweithio yn y sector iechyd ar hyn o bryd:
Khalid Mahmoud, Cynorthwy-ydd Gofal Brys
"Rwy'n gyrru ambiwlansys ac yn gweithio gyda pharafeddygon. Maent yn fy nhrin fel aelod hanfodol o'r tîm, gan gael eu cleifion i'r ysbyty yn gyflym ac yn ddiogel."
Jean Lennard, Cynorthwy-ydd Chwarae
"Mae fy swydd fel Cynorthwy-ydd Chwarae mewn hosbis i blant yn wych. Gallaf helpu i wneud gwahaniaeth mawr i blant sâl a'u teuluoedd."
Yn aml mae gan bobl syniadau pendant am swyddi gwahanol, ond mae'n bwysig cael y ffeithiau bob amser. Dyma rywfaint o gamsyniadau cyffredin, ynghyd â'r ffeithiau go iawn:
Mae llawer o fanteision o weithio yn y diwydiant iechyd, gan gynnwys:
Sam Downes, Cynorthwy-ydd Personol
"Fi yw'r cynorthwyydd personol i gyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth GIG leol. Dechreuais fel ysgrifenyddes feddygol. Ers hynny rwyf wedi cwblhau NVQ a gweithio fy ffordd i fyny i'r swydd hon. Mae angen i mi fod yn dda wrth gynllunio ac ysgrifennu. Mae gennyf lawer o gyfrifoldebau, ond rwyf wrth fy modd. Rwy'n ennill ychydig o dan £26,000."
Jomo Bailey, Technegydd Gwasanaethau Steryllu
"Rwy'n sicrhau bod y cyfarpar a ddefnyddir ar wardiau ac yn y theatrau llawdriniaeth yn lân ac yn rhydd o ermau. Mae'n waith anodd ond rwyf wrth fy modd. Rwy'n cael cyflog da (tua £14,000 i ddechrau). Rwy'n mwynhau cyfarfod â chleifion a staff pan fyddaf yn dosbarthu adnoddau glân i'r wardiau. Mae rhywun newydd i sgwrsio â nhw bob amser."
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am rolau penodol yn y sector iechyd drwy ddefnyddio'r ddolen cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi isod.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant a gyrfaoedd yn y sector iechyd drwy fynd i'r gwefannau canlynol:
I chwilio am swyddi sydd ar gael yn y sector hwn, defnyddiwch y ddolen 'Dechrau chwiliad swyddi a sgiliau' isod neu ffoniwch 0845 6067 890 i siarad ag ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith.
Bydd yn gallu rhoi gwybod pa help a chymorth sydd ar gael i'ch helpu i mewn i waith.