Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes gennych ddiddordeb mewn bwyd a diod ac rydych yn mwynhau gwneud pethau, efallai yr hoffech ystyried gweithio ym maes gweithgynhyrchu bwyd a diod. Dysgwch am brofiadau pobl, ble i gael cyngor gyrfaoedd a sut i gael help i ddod o hyd i swydd.
Bydd y pwysau am syniadau newydd a chynhyrchion iach yn sicrhau swyddi da i bobl o bob oedran am flynyddoedd i ddod. Gallai'r diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod fod yn addas i chi.
Dyma rywfaint o sylwadau cadarnhaol gan bobl sy'n gweithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod ar hyn o bryd:
Ellen Macdonald, Pobydd
"Rwy'n hyfforddi i fod yn oruchwyliwr ac yn fuan gobeithiaf fod yn gyfrifol am dîm o 5 pobydd. Rydym yn dîm ymarferol."
Jonathan Pearson, Dirprwy Arweinydd Tîm a Phrentis y Flwyddyn 2007
"Mae gweithio'n galed a chael cymwysterau wedi newid popeth. Bellach rwyf am fod yn rheolwr o fewn pum mlynedd."
Yn aml mae gan bobl syniadau pendant am swyddi gwahanol. Ond mae'n bwysig cael y ffeithiau bob amser. Dyma rywfaint o gamsyniadau cyffredin, ynghyd â'r ffeithiau go iawn:
Mae llawer o fanteision o weithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod, gan gynnwys:
David Brealey, Gwneuthurwr Siocled
"Gallwch ddechrau yn y swydd hon â gradd, ond credaf mai gweithio fy ffordd i fyny a hyfforddi yn y swydd oedd y ffordd orau i mi. Cefais brofiad ymarferol a dysgais y pethau technegol ar yr un pryd. Nid yw wedi bod yn hawdd, ond mae'n werth chweil! Fy nghyflog presennol yw £26,000."
Sheela Kennedy, Cynlluniwr Cynhyrchu
"Cred llawer o ferched mai dim ond i ddynion y mae'r diwydiant bwyd a diod, ond nid yw hynny'n wir. Mae swyddi diddorol i bawb. Pwy bynnag ydych chi, rwy'n argymell eich bod yn mynd i ganfod mwy am eich dewisiadau. Rwy'n eithaf newydd i'r swydd ac rwy'n ennill tua £16,000."
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am rolau penodol yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod drwy ddefnyddio'r ddolen cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi isod:
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant a gyrfaoedd yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod drwy fynd i'r gwefannau canlynol:
I chwilio am swyddi sydd ar gael yn y sector hwn, defnyddiwch y ddolen 'Dechrau chwiliad swyddi a sgiliau' isod neu ffoniwch 0845 6067 890 i siarad ag ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith.
Bydd yn gallu rhoi gwybod pa help a chymorth sydd ar gael i'ch helpu i mewn i waith.