Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Dywed Connie Fisher (a welir ar y chwith), seren sioe gerdd 'The Sound of Music', i'r Grantiau Dawns a Drama ei helpu hi ar y ffordd i’w gwneud yn seren. Ai chi fydd y seren nesaf?
Pan lansiodd Andrew Lloyd Webber gystadleuaeth genedlaethol i ddod o hyd i seren newydd ar gyfer ei gynhyrchiad ar lwyfan y West End yn Llundain 'The Sound of Music', y cwestiwn a ofynnodd oedd 'How Do You Solve A Problem Like Maria'?
Yn y gystadleuaeth, a oedd yn cael ei darlledu gan y BBC, cafodd 10 yn unig eu dewis ar gyfer y rownd derfynol o filoedd o Marias posibl. Connie Fisher enillodd y rownd derfynol, lle gwelwyd dros ddwy filiwn yn pleidleisio.
Ers ennill y gystadleuaeth, mae wedi rhyddhau albwm o'r enw 'Favourite Things' ac mae wedi diolch i'w chefnogwyr "am wireddu'i breuddwydion". Y tu ôl i'w pherfformiadau diymdrech y mae blynyddoedd o hyfforddiant - gyda thair blynedd wedi'u cyllido gan Grant Dawns a Drama.
Mae cael grant yn ddibynnol ar basio eich clyweliad ar gyfer cael eich derbyn i'r ysgol.
"Cefais dair blynedd o hyfforddiant ardderchog, a fu'n fodd i'm paratoi am adegau da a drwg y busnes," meddai Connie. Bu ei grant Dawns a Drama yn gymorth iddi fynychu Academi Mountview.
"Heb fy hyfforddiant fyddwn ni byth wedi llwyddo... nawr byddaf yn dringo pob mynydd yn theatr y London Palladium ac yn dilyn fy mreuddwyd."
Os hoffech chi ddilyn ôl troed Connie drwy astudio am gymhwyster yn y celfyddydau perfformio flwyddyn nesaf, dyma'r adeg i wneud cais am Grant Dawns a Drama.
I gael gwybod mwy, yn cynnwys manylion y cyrsiau sydd ar gael, ble gallwch astudio a sut i wneud cais, dilynwch y ddolen isod.