Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwneud cais am ad-daliad trwydded cerbyd (ffurflen V14)

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen V14 i ddychwelyd eich trwydded cerbyd (disg dreth) a hawlio ad-daliad os byddwch yn cymryd eich cerbyd oddi ar y ffordd neu'n ei werthu.

Sut i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

I wneud cais am eich ad-daliad, llenwch a llwythwch y ffurflen V14 ‘Cais am ad-daliad trwydded cerbyd pan mae’r disg treth gennych’. Unwaith i chi lenwi’r ffurflen ar-lein dylech:

  • argraffu a llofnodi’ch ffurflen
  • atodi eich disg treth
  • ei phostio i DVLA, Abertawe, SA99 1AL

Mae canllaw cam wrth gam ar gael ar-lein i’ch helpu chi gyda hwn.

Gallwch hefyd lwytho copi o’r ffurflen y gallwch ei llenwi â llaw drwy ddefnyddio’r ddolen isod. Gwnewch yn siŵr eich bod yn arwyddo’r ffurflen ac atodi eich disg treth cyn i chi ei hanfon i DVLA, Abertawe SA99 1AL. Mae’r ffurflen hefyd ar gael o Swyddfeydd Post sy’n cyhoeddi disgiau treth.

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU