Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae lladradau (gan gynnwys mygio a dwyn drwy gipio) yn droseddau sy'n aml yn cynnwys trais neu fygythiadau. Bach iawn yw'r siawns y bydd hyn yn digwydd i chi, ond dylech wybod am y pethau y gallwch eu gwneud i gadw'ch hunan a'ch eiddo yn ddiogel.
Os oes yn rhaid i chi gerdded eich hun yn ystod y nos, cymerwch fwy o ofal nag arfer. Arhoswch ar lonydd goleuedig a chymharol brysur.
I aros yn ddiogel, gallwch hefyd wneud y canlynol:
Os ydych chi'n teithio ar eich pen eich hun ac yn gwybod sut mae cyrraedd adref, mae defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy diogel na cherdded. Fodd bynnag, dylech barhau i ddefnyddio synnwyr cyffredin i ddiogelu eich hun.
Os ydych chi'n aros am fws neu drên, sefwch mewn man goleuedig wrth ymyl pobl eraill. Pan fyddwch ar y bws neu'r trên, ceisiwch eistedd wrth ymyl pobl eraill a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod lle mae'r larymau mewn argyfwng.
Peidiwch â bod ofn symud i sedd neu i gerbyd arall os nad ydych yn teimlo'n ddiogel, hyd yn oed os yw hynny'n ymddangos yn ddigywilydd.
Dewiswch beiriant codi arian sydd mewn lle goleuedig mewn man y gellir ei weld o'r ffordd neu o dai cyfagos. Yn ddelfrydol, dylech godi arian o beiriannau sydd mewn busnesau, megis banciau neu gymdeithasau adeiladu.
Byddwch yn effro a chadwch lygad ar y bobl o'ch cwmpas - os oes rhywun amheus yr olwg yn aros gerllaw, chwiliwch am beiriant arall.
Peidiwch â gadael i bobl nad ydych yn eu hadnabod sy'n ceisio siarad â chi dynnu eich sylw pan fyddwch yn codi arian o'r peiriant.
Pan fyddwch yn codi arian, byddwch yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd o'ch cwmpas. Cadwch lygad ar y bobl o'ch cwmpas. Ydyn nhw'n ddigon pell oddi wrthych? Os ydyn nhw'n rhy agos, mae'n well i chi ganslo'r hyn rydych yn ei wneud a pheidio â chodi arian.
Estynnwch eich cerdyn yn barod cyn i chi gerdded at y peiriant codi arian. Gwnewch yn siŵr na all neb ddarllen eich rhif PIN pan fyddwch yn pwyso'r botymau, a chadwch eich arian ar unwaith.
Yr eitemau mwyaf cyffredin i gael eu dwyn mewn lladrad yw ffonau symudol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich ffôn yn ddiogel.
Os nad ydych chi'n ffonio rhywun, gwnewch yn siŵr bod y ffôn o'r golwg. Cadwch ef yn un o'ch pocedi blaen, neu mewn bag. Peidiwch â rhoi'r ffôn yn sownd wrth eich belt neu ei hongian o gwmpas eich gwddf.
Cofrestrwch eich ffôn
Mae gan bob un o'r prif rwydweithiau ffôn symudol systemau ar waith i wneud yn siŵr bod ffonau symudol yn cael eu blocio o fewn 48 awr, fel nad ydynt yn dda i ddim.
Dylech gofrestru eich ffôn gyda'ch darparwr rhwydwaith fel y gallant ei flocio'n gyflym os yw'n mynd ar goll neu'n cael ei ddwyn. Gallwch hefyd gofrestru eich ffôn symudol ar y Gofrestr Ffonau Symudol Genedlaethol drwy ddefnyddio'r ddolen isod.
Holwch eich cwmni ffôn symudol i gael mwy o wybodaeth am sut i ddiogelu eich ffôn.
Os oes rhywun wedi dwyn rhywbeth gennych neu wedi ceisio gwneud hynny, riportiwch y trosedd ar unwaith. Ffoniwch 999 cyn gynted ag y mae'n ddiogel gwneud hynny, naill ai o'ch ffôn symudol, o flwch ffôn neu o siop neu fusnes cyfagos.
Bydd plismon neu aelod o staff yr heddlu yn gofyn i chi ddisgrifio beth ddigwyddodd a dweud lle rydych chi. Byddant yn gofyn a ydych wedi brifo, ac os ydych chi, byddant yn anfon ambiwlans i'ch helpu.
Cofiwch y gall rhoi disgrifiad mor fanwl â phosib o'r lleidr gynorthwyo'r heddlu i ymchwilio i'r trosedd.