Troseddau â chyllyll
Gall troseddau’n ymwneud â chyllyll fod yn nifer o bethau, gan gynnwys ond prynu neu gario cyllell anghyfreithlon. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r gyfraith ar werthu a chario cyllyll wedi eu tynhau, ac mae'r cosbau ar gyfer troseddu â chyllyll wedi cynyddu. Cyn i chi ystyried prynu cyllell, sicrhewch ei fod yn gyfreithlon.
Beth yw troseddau â chyllyll?
Mae ‘troseddau â chyllyll’ yn golygu unrhyw drosedd sy’n defnyddio cyllell.
Gall hyn gynnwys:
- cario neu geisio prynu cyllell os ydych chi o dan 18 mlwydd oed
- bygwth pobl â chyllell
- cario cyllell anghyfreithlon
- llofruddiaeth neu ymosodiad lle trywanwyd y dioddefwr â chyllell
- lladrad neu fwrgleriaeth a'r lladron wedi cario cyllell fel arf
Cario cyllell
Os ydych chi’n cario cyllell i amddiffyn eich hun neu i deimlo’n saffach heb fwriadu ei defnyddio, yna rydych chi'n cyflawni trosedd. Rydych chi hefyd yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwr trosedd.
Gall eich cyllell chi gael ei defnyddio yn eich erbyn.
Os ydych chi’n dymuno cael gwybod mwy am amddiffyn eich hun, mae ffyrdd llawer haws a mwy diogel o wneud hynny. Er enghraifft, gallwch chi fynychu cwrs hunanamddiffyn a gynigir gan eich cyngor lleol, neu mewn campfa.
Rheolau sylfaenol ar gyllyll
Os ydych chi'n bwriadu prynu neu gario cyllell, mae'n bwysig eich bod chi'n ymwybodol o'r rheolau. Gall unrhyw un sy’n cael ei ganfod yn torri cyfraith sy’n ymwneud â chyllyll wynebu hyd at bedair blynedd yn y carchar.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- mae’n anghyfreithlon i unrhyw siop werthu unrhyw fath o gyllell (gan gynnwys cytleri a chyllyll cegin) i unrhyw un o dan 18 mlwydd oed
- mae cario cyllell yn gyhoeddus yn drosedd os nad oes rheswm digonol gennych chi – er enghraifft, os ydych chi’n gweithio fel cogydd.
- y gosb fwyaf i oedolyn sy’n cario cyllell yw pedair blynedd yn y carchar a dirwy o £5000
- mae cario, prynu neu werthu unrhyw fath o gyllell sydd wedi’i gwahardd gan y llywodraeth yn anghyfreithlon (gweler rhestr o’r cyllyll sydd wedi’u gwahardd isod)
- nid yw cyllyll â llafn sy’n plygu, fel cyllyll poced, yn anghyfreithlon, cyn belled â bod y llafn yn dair modfedd o hyd (7.62 cm) neu lai
- os yw unrhyw gyllell yn cael ei defnyddio mewn ffordd fygythiol (hyd yn oed cyllell gyfreithlon, fel cyllell boced), caiff ei weld fel ‘arf ymosodol’ gan y gyfraith.
- gall unrhyw offeryn miniog – hyd yn oed sgriwdreifar – gael ei weld fel arf ymosodol anghyfreithlon gan yr Heddlu, os nad oes gennych chi reswm digonol dros ei gario
Cyllyll anghyfreithlon
Ceir gwaharddiad llwyr ar werthu rhai cyllyll sy'n cael eu hystyried yn arfau ymosodol.
Mae’r cyllyll gwaharddedig yn cynnwys:
- cyllell glec - cyllyll lle mae’r llafn wedi’i guddio y tu mewn i’r carn ac yn saethu allan pan gaiff botwm ei bwyso; gelwir y rhain hefyd yn ‘gyllyll awtomatig’
- cyllyll pili pala – lle mae’r llafn wedi’i guddio y tu mewn i garn sy’n hollti’n ddau o’i gwmpas, fel adenydd; mae’r carnau’n swingio o gwmpas y llafn i’w agor neu’i gau
- cyllyll cuddiedig – lle mae’r llafn wedi ei guddio y tu mewn i rywbeth fel bwcl belt neu ffôn symudol ffug
- cyllyll â’u llafnau’n dod allan (gravity knives)
- ffon-gleddyf
- cleddyfau samurai
- crafangau llaw
- crafangau troed
- cyllyll bwcl belt
- dagr gwthio (â charn siâp T)
- kubotan (cynhwysydd silindrog, yn dal pigau pigog)
- shuriken (sydd hefyd yn cael eu galw’n ‘sêr marwolaeth’ neu’n ‘sêr taflu’)
- kusari-gama (cryman sydd ynghlwm wrth raff, wrth gordyn neu wrth wifren)
- kyoketsu-shoge (cyllell fachyn sydd ynghlwm wrth raff, wrth gordyn neu wrth wifren)
- kusari (pwysau sydd ynghlwm wrth raff, wrth gordyn neu wrth wifren)
Nid yw'r rhestr hon yn un gyflawn. Os ydych chi’n credu bod cyllell yr ydych chi am ei phrynu yn anghyfreithlon, holwch eich heddlu lleol.
Riportio troseddau â chyllyll yn ddienw
Os oes gennych chi wybodaeth am droseddau â chyllyll a'ch bod chi’n nerfus ynghylch mynd at yr Heddlu, gallwch ffonio Taclo'r Taclau ar 0800 555 111. Fydd neb byth yn gofyn i chi am eich enw nac yn ceisio olrhain eich rhif ffôn.
Beth allwch chi ei wneud am droseddau â chyllyll?
Mae’r Heddlu a chynghorau lleol yn aml yn rhedeg ymgyrchoedd gwrth-gyllyll, ac os yw troseddau â chyllyll yn peri gofid i chi neu yn eich dychryn, efallai y byddech yn dymuno bod yn rhan ohonynt. Mae’r rhain fel arfer yn cynnwys digwyddiadau sydd wedi eu cynllunio i roi gwybod i chi am broblemau yn eich ardal chi, ac maent yn rhoi cyfle i chi siarad gyda phobl eraill am y materion.
Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â’ch tîm plismona cymdogaeth. Gallwch hefyd daro i mewn i’ch gorsaf heddlu agosaf i ddod o hyd i weithgareddau gwrth-gyllyll yn eich ardal chi