Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyffuriau a throseddu

Mae’n bosib eich bod chi’n meddwl mai dim ond rhywun sy’n cael ei ddal yn gwerthu cyffuriau y bydd yr Heddlu’n ei arestio, ond gall defnyddio cyffuriau arwain at ddirwy fawr neu waeth. Yma, cewch wybod mwy am gyfreithiau sy’n ymwneud â chyffuriau a’r defnydd o gyffuriau.

Sut mae cyffuriau’n cael eu categoreiddio

Mae pob cyffur yn cael ei ddosbarthu i un o dri chategori, yn ôl pa mor beryglus ydyw.

Cyffuriau Dosbarth A sy'n cael yr effaith fwyaf niweidiol. Mae’r cyffuriau hyn yn cynnwys heroin, cocên, ecstasi ac LSD.

Mae Cyffuriau Dosbarth B yn llai peryglus na rhai Dosbarth A, ond fe allant fod yn niweidiol yr un fath. Mae cyffuriau Dosbarth B yn cynnwys canabis a rhai amffetaminau.

Mae cyffuriau Dosbarth C yn llai peryglus i'r defnyddiwr na chyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B. Wedi dweud hynny, maen nhw'n dal i fod yn anghyfreithlon ac fe allant fod yn niweidiol. Mae cyffuriau Dosbarth C yn cynnwys cetamin, GHB a rhai tawelyddion.

Ciplun ar y defnydd o gyffuriau yn y DU

Ystyrir bod marchnad cyffuriau anghyfreithlon y DU yn werth rhwng £4 biliwn a £6.6 biliwn:

  • mae defnydd o gyffuriau Dosbarth A yn creu tua £15.4 biliwn o gostau troseddu a chostau iechyd bob blwyddyn
  • mae 99 y cant o hynny’n cael ei achosi gan ddefnydd problematig o gyffuriau, sydd fel arfer yn cynnwys heroin neu grac cocên
  • mae rhwng traean a hanner troseddau lladrata, bwrglera a throseddau dwyn eraill yn gysylltiedig â defnydd o gyffuriau

Cosbi troseddau cyffuriau

Os cewch chi'ch dal â chyffuriau yn eich bag neu yn eich poced, mae'n bosib y cewch chi'ch cyhuddo o fod â sylwedd anghyfreithlon yn eich meddiant, a hynny os mai chi sy’n berchen arno ai peidio.

Os ydych chi wedi eich dal â chyffuriau yn eich meddiant, bydd y gosb a gewch chi'n dibynnu ar ba fath o gyffur ddaeth yr heddlu o hyd iddo a'ch hanes personol.

Os daethant o hyd i gyffur Dosbarth C a chithau heb hanes troseddol, fe gewch chi rybudd ffurfiol neu rybudd gan yr Heddlu fan leiaf. Os daethant o hyd i gyffur Dosbarth A neu B, neu os oes gennych chi hanes o droseddu gyda chyffuriau, rydych chi’n debygol o wynebu cosb lymach o lawer.

Os ydych chi o dan 17 oed, mae gan yr Heddlu'r hawl i roi gwybod i'ch rhiant neu'ch gofalwr eich bod wedi cael eich dal.

Cosbau llymaf

Dyma'r dedfrydau mwyaf y gellir eu cael am fod â chyffuriau gwahanol yn eich meddiant:

  • hyd at saith mlynedd o garchar neu ddirwy heb derfyn (neu'r ddau) ar gyfer cyffur Dosbarth A
  • hyd at bum mlynedd o garchar neu ddirwy heb derfyn (neu'r ddau) ar gyfer cyffur Dosbarth B
  • hyd at ddwy flynedd o garchar neu ddirwy heb derfyn (neu'r ddau) ar gyfer cyffur Dosbarth C

Fe all y dedfrydau hyn fod yn fwy o lawer os ydych chi'n cael eich dal yn gwerthu cyffuriau neu'n eu cyflenwi - hyd yn oed os mai dim ond i ffrindiau yr oeddech chi'n eu rhoi neu hyd yn oed os na fu i arian newid dwylo.

Cosbau am ganabis

Os cewch eich dal â chanabis yn eich meddiant, mae’n bosib y bydd yr heddlu yn:

  • rhoi rhybudd i chi os dyma eich trosedd cyntaf o fod â chanabis yn eich meddiant
  • rhoi hysbysiad cosb am anhrefn i chi (dirwy o £80 yn y fan a'r lle) am ail drosedd
  • eich arestio os cewch eich dal â chanabis am y trydydd tro; gallai hyn arwain at euogfarn a chofnod troseddol
  • cymryd y cyffur ymaith

Gwerthu cyffuriau

Mae'r cosbau ar gyfer cyflenwi cyffuriau'n llymach o lawer na'r rhai ar gyfer meddiant. Nid yw cyflenwi cyffuriau ond yn berthnasol i werthwyr. Os bydd yr Heddlu'n meddwl eich bod wedi bwriadu rhannu cyffuriau gyda'ch ffrindiau, mae hynny'n dal i gael ei ystyried yn gyflenwi.

Mae'r Heddlu'n fwy tebygol o'ch cyhuddo os ydyn nhw'n amau eich bod wedi bwriadu cyflenwi cyffuriau, ond byddan nhw'n dal i ystyried faint o gyffuriau oedd gennych arnoch chi, a'ch hanes troseddu.

Y dedfrydau mwyaf y gellir eu cael ar gyfer bwriadu cyflenwi cyffuriau yw:

  • hyd at oes yn y carchar neu ddirwy heb derfyn (neu'r ddau) ar gyfer cyffur Dosbarth A
  • hyd at 14 mlynedd o garchar neu ddirwy heb derfyn (neu'r ddau) ar gyfer cyffur Dosbarth B neu Ddosbarth C

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU