Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n gofalu am rywun ac mae arnoch eisiau cyfuno gwaith am dâl gyda'ch cyfrifoldebau gofal, mae amrywiaeth o help ar gael gan eich Canolfan Byd Gwaith leol. Gall hyn gynnwys gofal amgen a chyngor am fudd-daliadau
Mae Cefnogaeth sy'n Canolbwyntio ar Waith ar gyfer Gofalwyr yn darparu help a chyngor er mwyn i chi allu symud yn llwyddiannus i waith.
Hyd yn oed os nad ydych chi'n teimlo eich bod yn barod i weithio nawr ond efallai yr hoffech chi weithio yn y dyfodol, gallwch fanteisio ar Gefnogaeth sy'n Canolbwyntio ar Waith ar gyfer Gofalwyr. Mae'n wasanaeth gwirfoddol y gallwch ddewis cymryd rhan ynddo unrhyw bryd. Gallwch hefyd roi'r gorau i gymryd rhan unrhyw bryd.
Byddwch yn cael help a chymorth gan gynghorydd personol o'r Ganolfan Byd Gwaith. Gall hyn gynnwys:
Byddwch hefyd yn cael cyngor ar ddod o hyd i ofal amgen wrth i chi fynychu apwyntiadau gyda'r cynghorydd personol, cymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi neu fynd i gyfweliadau swydd.
Nid oes angen i chi fod yn cymryd rhan mewn Cefnogaeth sy'n Canolbwyntio ar Waith ar gyfer Gofalwyr i allu cael gafael ar gyllid ar gyfer gofal amgen.
Mae Cefnogaeth sy'n Canolbwyntio ar Waith ar gael i ofalwyr:
Bydd eich cynghorydd personol yn gallu dweud wrthych chi am sut y gallai dechrau gweithio effeithio ar eich budd-daliadau. Byddant hefyd yn eich helpu i wneud cais am unrhyw fudd-daliadau neu gredydau treth y gallech fod yn gymwys i'w cael pan fyddwch chi'n dechrau gweithio.
I gael gwybod mwy am Gefnogaeth sy'n Canolbwyntio ar Waith ar gyfer Gofalwyr, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.