Chwiliad Swyddi a Sgiliau

Nodi tudalennau/rhannu swyddi gwag

Dyma'r wybodaeth y gwnaethoch gais amdani.

Ar ddechrau eich chwiliad am naill ai swyddi neu waith gwirfoddol, cewch opsiynau i nodi tudalen drwy ddefnyddio Facebook a Twitter.

Ar dudalennau 'Manylion y Swydd', cewch opsiynau ar waelod y dudalen a fydd yn eich galluogi i rannu swydd wag gyda phobl eraill drwy:
" Nodi tudalen swydd wag drwy ddefnyddio Facebook neu Twitter
" Anfon dolen swydd wag drwy neges e-bosti
" Copïo a phastio dolen uniongyrchol i'r swydd wag.

Am ragor o wybodaeth am nodi tudalennau cymdeithasol, Facebook a Twitter, gweler isod.

Llyfrnodi cymdeithasol

Mae llyfrnodau cymdeithasol yn ffordd o gadw dolenni i dudalennau gwe sydd o ddiddordeb i chi, a rhannur cysylltiadau â phobl eraill.

Mae gwefannau llyfrnodi cymdeithasol yn rhad ac am ddim i'w defnyddio, ond bydd angen i chi gofrestru gyda nhw i ddechrau llyfrnodi.

 I ddefnyddio gwefan llyfrnodi cymdeithasol, mae angen i chi:
 " gofrestru gyda gwefan llyfrnodi cymdeithasol
 " dod o hyd i dudalen we rydych yn ei hoffi
 " cadwr ddolen ir wefan llyfrnodi cymdeithasol, sy'n ei storio
 " ychwanegu geiriau neu 'dagiau' at y ddolen i esbonio beth yw testun y dudalen

Yna, gallwch ymweld âr wefan llyfrnodi cymdeithasol pryd bynnag ac o ba le bynnag rydych ei eisiau, a gweld y dolenni a lyfrnodwyd rydych wedi'u cadw neuu rhannu. Gallwch hefyd edrych ar lyfrnodau a sylwadau pobl eraill, a gallan nhw weld eich rhai chi.

Mae gwefannau llyfrnodi cymdeithasol i gyd yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol ac efallai y byddai'n well gennych ddefnyddio un neu lawer ohonynt. Mae'n werth edrych ar y gwefannau gwahanol cyn i chi benderfynu pun rydych am eu defnyddio. Gallwch gofrestru gyda chynifer ag y dymunwch.

Eich preifatrwydd

Maer gwasanaethau cyfryngau cymdeithasol a llyfrnodi cymdeithasol y mae Directgov yn darparu dolenni iddynt yn wefannau trydydd parti. Nid oes gan Directgov unrhyw reolaeth dros y modd y maer gwefannau hyn yn defnyddio eich data. Dylech ddarllen eu polisïau preifatrwydd yn ofalus i gael gwybod beth sy'n digwydd i unrhyw ddata y maer gwasanaethau hyn yn ei gasglu pan fyddwch yn eu defnyddio.

Facebook

Mae Facebook yn wefan rhwydweithio cymdeithasol sydd â miliynau o ddefnyddwyr ledled y byd. Rydych yn cofrestru ac yn creu proffil. Yna gallwch ychwanegu ffrindiau at y proffil a chyfnewid gwybodaeth gyda nhw. Mae Facebook hefyd yn caniatáu i bobl ddechrau grwpiau a thudalennau cefnogwr yn ogystal â llyfrnodi tudalennau gwe eraill.

Twitter

Mae Twitter yn wasanaeth rhwydweithio cymdeithasol. Mae defnyddwyr yn anfon diweddariadau byr, neu mini-flogiau (sef tweets), hyd at uchafswm o 140 o gymeriadau. Gallwch gasglu dilynwyr a dilyn defnyddwyr eraill. Gallwch hefyd dagio geiriau, a chwilio am dagiau i gael gwybod beth mae pobl eraill yn siarad amdano.