Chwiliad Swyddi a Sgiliau

Cysylltiadau defnyddiol

Dyma'r wybodaeth y gwnaethoch gais amdani.

Eich helpu i ddewis yr yrfa gywir

Ydych chi'n chwilio am syniadau ac ysbrydoliaeth ynghylch gyrfa?  Ydych chi eisiau gwybod pa fath o yrfa fyddai orau i chi?  Gall icould.com eich helpu i wneud y penderfyniadau a dewisiadau hynny, gan roi straeon bywyd go iawn am bobl o bob math o gefndiroedd.  Felly, os ydych yn ceisio canfod yr hyn y gallwch ei wneud a sut y gallech gyrraedd yno, icould yw'r lle i chi.  Mae pob un o'r straeon fideo yn cynnwys pobl go iawn, o bob lliw a llun, yn disgrifio eu teithiau gyrfaol eu hunain a'u profiadau.

straeon gyrfaoedd icould.com  (Saesneg yn unig)

Help a chyngor wrth chwilio am swyddi

Mae gan Directgov lawer o wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu wneud cais am swyddi, e.e. awgrymiadau ar sut i gwblhau ffurflen gais neu lunio CV:

www.direct.gov.uk/awgrymiadauchwiliadgwaith

Ffurflen Gais y Ganolfan Byd Gwaith

Os ydych yn gwneud cais am swydd a hysbysebir drwy'r Ganolfan Byd Gwaith ac wedi cael eich cynghori bod angen i chi gwblhau Ffurflen Gais y Ganolfan Byd Gwaith, gallwch lawrlwytho'r ffurflen a'r nodiadau canllaw yma.

Ffurflen gais y Ganolfan Byd Gwaith

Nodiadau canllaw ffurflen gais y Ganolfan Byd Gwaith

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn ffordd ardderchog o ennill cymwysterau a phrofiad yn y gweithle.  Fel gweithiwr, gallwch ennill wrth i chi ddysgu ac rydych yn ennill sgiliau ymarferol or gweithle.

Gwybodaeth am brentisiaethau yn Lloegr (Saesneg yn unig)

Gwybodaeth am brentisiaethau yng Nghymru

Gwybodaeth am brentisiaethau yn yr Alban (Saesneg yn unig)

Cyngor ar fudd-daliadau

Cael cyngor budd-dal ar eich cyfer chi, eich teulu neu am rywun arall.  Yn syml, atebwch y cwestiynau yn ddienw ar-lein am eich incwm, cynilion a gwariant.  Drwy ddefnyddior Gwasanaeth Cynghorydd Budd-daliadau, gallwch gael gwybod pa fudd-daliadau efallai y byddwch yn gallu eu cael.  Gallwch hefyd weld sut y gall eich budd-daliadau gael ei effeithio os bydd eich amgylchiadaun newid.

Cynghorydd budd-daliadau

Gwybodaeth am Ofal Plant

Mae Cymdeithas Genedlaethol y Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd (NAFIS) yn elusen gofrestredig sy'n cefnogi, yn gyswllt ac yn hyrwyddo Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS) ym Mhrydain Fawr. Gallwch ddefnyddio eu cyfeiriadur i chwilio am eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol, a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i ofal plant yn eich ardal.

Cyfeiriadur NAFIS (Saesneg yn unig)

Cyngor ar yrfaoedd a sgiliau

Mae Next Step yn cynnig  gwybodaeth a chyngor i gefnogi oedolion yn Lloegr wrth wneud penderfyniadau priodol ar ystod lawn o gyfleoedd dysgu a gwaith.

Gwefan Next Step (Saesneg yn unig)

Ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru a'r Alban, ewch i:

Gwefan Gyrfa Cymru

Gwefan Careers Scotland (Saesneg yn unig)