Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Chi yw athro/athrawes c/gyntaf eich plentyn ac rydych chi'n eu deall nhw'n well na neb arall. Drwy siarad â nhw, chwarae gyda nhw, a chyflwyno sgiliau syml, fe allwch chi eu helpu gyda’u datblygiad yn y dyfodol.
Mae ymennydd eich plentyn yn datblygu ar ei gyflymaf cyn iddo/iddi gyrraedd dwy oed. Mae eich plentyn dal i ddysgu a datblygu'n gyflym yn ystod y blynyddoedd cynnar pwysig.
Drwy gynnwys ychydig o gemau dysgu syml ym mywyd bob dydd eich plentyn a'u helpu i archwilio'r byd o'u cwmpas, fe allwch roi'r cychwyn gorau posib iddynt yn eu haddysg.
Byddwch chi'n helpu'ch plentyn i ddysgu drwy roi cyfle iddyn nhw:
Lle bynnag yr ewch chi gyda'ch plentyn, bydd cyfle i chi ddarllen gyda'ch gilydd. Ar y bws, yn y siopau neu yn swyddfa'r post, gallwch dynnu sylw at y geiriau o'ch cwmpas a dyna ddechrau darllen. Bydd darllen straeon gyda'ch plentyn, hyd yn oed am 10 munud y diwrnod, yn helpu i feithrin sgiliau pwysig, yn ogystal â hybu diddordeb eich plentyn mewn llyfrau.
Mae cyfri pethau a sylwi ar siapiau'n beth naturiol i blant, felly cewch ddefnyddio diddordeb eich plentyn yn y pethau hyn i'w helpu gyda'u mathemateg. Gellir datblygu sgiliau mathemateg drwy gyfrwng straeon, caneuon, gemau a chwarae dychmygus. Mae hyd yn oed helpu gyda thasgau beunyddiol megis dweud faint o'r gloch yw hi neu bwyso cynhwysion ar gyfer coginio'n rhoi'r cyfle i blant ddysgu sgiliau mathemateg newydd.
Wrth ddiffodd y teledu neu'r cyfrifiadur a threulio amser gyda'ch plentyn, byddwch yn creu cyfleoedd dysgu gwerthfawr. Dyma ychydig o syniadau am weithgareddau y gallwch chi eu gwneud i helpu'ch plentyn i ddysgu: