Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cwyno

Os bydd eich plentyn yng ngofal awdurdod lleol (gan gynnwys bod mewn gofal oherwydd gorchymyn llys), ac y byddwch yn anhapus gyda'r driniaeth y mae'n ei derbyn gallwch wneud cwyn swyddogol.

Mân broblemau neu faterion

Nid yw pob problem sy'n codi o ddydd i ddydd o anghenraid yn sail dros wneud cwyn. Os ceir problem fach, y peth gorau i'w wneud yw tynnu sylw gweithiwr cymdeithasol eich plentyn neu'u rheolwr at y broblem. Gellir datrys llawer o fân broblemau yn ddiymdroi er boddhad i bawb. Nid yw'n angenrheidiol eu bod yn mynd drwy'r broses gwyno

Problemau neu faterion bychan

Mae gan Wasanaethau Plant gyfrifoldebau neilltuol tuag at blant mewn gofal. Mae hyn yn cynnwys:

  • pan fydd plant yn byw oddi cartref, disgwylir i'r awdurdod lleol sicrhau bod safon y gofal a ddarperir yn briodol
  • sicrhau mai pobl addas yn unig a gyflogir i ofalu am eich plentyn
  • darparu hyfforddiant a chefnogaeth briodol i staff a gofalwyr maeth
  • gwrando ar eich safbwyntiau chi a'ch plentyn ynglŷn â threfniadau gofal a meddwl yn ofalus am eu hanghenion personol, gan ystyried eu crefydd, eu hil, eu diwylliant a'u cefndir
  • sicrhau bod gan eich plentyn rywun annibynnol i siarad ag ef a'i fod yn gwybod wrth bwy i gwyno os bydd angen.

Os byddwch yn teimlo nad yw'r Gwasanaethau Plant yn cyflawni'r cyfrifoldebau hyn, siaradwch â gofalwr eich plentyn neu â'ch gweithiwr cymdeithasol (a'u rheolwr os bydd angen), neu codwch y pwynt yn y cyfarfod adolygu nesaf.

Os na fyddwch yn fodlon, neu os yw'r mater yn un brys yn eich tyb chi, gallwch wneud cwyn i Swyddog Cwynion Dynodedig eich awdurdod lleol drwy Drefn Gwyno'r Gwasanaethau Plant.

Cewch hefyd cyngor a chefnogaeth wrth ffonio llinell gymorth Family Rights Group ar 0800 731 1696, sydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 1.30-3.30pm.

Mae'r Gwasanaeth Eiriolaeth Cenedlaethol ar gyfer Ieuenctid yn darparu cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol i blant a phobl ifanc y mae arnynt angen help i ddweud eu dweud.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU