Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut mae is-ddeddfau'n cael eu gwneud a'u gorfodi?

Mae is-ddeddfau'n golygu cyfreithiau lleol sy'n cael eu gwneud gan awdurdodau lleol megis cynghorau. Gall eich cyngor lleol fynd i'r afael â phroblemau yn eich ardal drwy wneud is-ddeddf i wneud i rywbeth ddigwydd. Fel rheol cewch ddweud eich dweud ynghylch is-ddeddfau a awgrymir. Os byddwch yn torri is-ddeddf, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy.

Beth mae is-ddeddfau'n ei wneud

Er enghraifft:

  • oriau agor parciau a mannau cyhoeddus
  • rheolau diogelwch mewn arcedau a ffeiriau
  • stopio pobl rhag beicio neu sglefrio ar lwybrau cyhoeddus
  • dweud lle caiff gemau eu chwarae ar draethau
  • gwneud yn siŵr bod stondinwyr marchnad yn glanhau ar ddiwedd y diwrnod

Sut caiff is-ddeddfau eu gwneud

Ni chaiff eich cyngor wneud is-ddeddfau heb roi cyfle i'r bobl leol eu gweld a rhoi eu barn. Fel arall nid yw'r is-ddeddf yn ddilys. Dyma'r broses:

  • bydd eich cyngor yn ymgynghori â phobl leol ac yn ymateb i bryderon
  • rhaid i lywodraeth gymeradwyo drafft o'r is-ddeddf
  • bydd eich cyngor yn hysbysebu'r is-ddeddf yn y papur newydd lleol
  • gallwch archwilio'r ddogfen yn swyddfa eich cyngor am o leiaf fis
  • gallwch ofyn am eich copi eich hun ond efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi fach i dalu am y costau
  • bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cymeradwyo neu'n gwrthod yr is-ddeddf
  • os caiff ei chymeradwyo, bydd ef yn pennu dyddiad pan ddaw'n gyfraith (mis wedyn fel rheol)
  • gallwch wedyn weld copi o'r is-ddeddf wedi'i chadarnhau yn swyddfa eich cyngor

Sut caiff is-ddeddfau eu gorfodi

Os byddwch yn torri is-ddeddf, efallai y cewch ddirwy. Ar hyn o bryd, bydd angen i'r cyngor fynd â chi i'r llys ynadon i wneud i chi dalu. Os bydd hyn yn digwydd i chi, nid yw'n golygu bod gennych euogfarn troseddol. Mae'r ddirwy a gewch chi'n gysylltiedig â'r trosedd ac mae oddeutu £75.

Yn hytrach na dirwy, efallai y cewch chi hysbysiad cosb benodedig. Mae'r rhain yn gweithio fel tocynnau parcio - rhaid i chi dalu cyn pen nifer penodol o ddiwrnodau a bydd disgownt os byddwch chi'n talu'n gynnar. Cewch ddirwy fwy os na fyddwch chi'n talu.

Efallai y bydd rhai achosion yn dal yn mynd i'r llys ynadon os yw torri'r is-ddeddf yn fwy difrifol, er enghraifft pan gafodd rhywun ei anafu ar ôl symud arwydd ffordd yn rhybuddio bod twll yn y ffordd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU