Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae tua 70 miliwn o ffonau symudol yn cael eu defnyddio yn y Deyrnas Unedig, ac mae angen gorsafoedd (a elwir yn fastiau weithiau) ar eu cyfer er mwyn iddynt weithio.
Mae ffonau symudol yn gweithio drwy ddefnyddio signalau radio, yn debyg i setiau radio a theledu. Mae'r system yn seiliedig ar ardaloedd daearyddol a elwir yn gelloedd. Pan fyddwch yn ffonio rhywun, bydd eich ffôn symudol yn anfon signal at yr orsaf agosaf sy'n rheoli cell. Yna, bydd yr orsaf yn trosglwyddo'r signal drwy rwydwaith o linellau sefydlog a symudol i'ch cysylltu â'r person arall.
Mae celloedd yn amrywio o ran maint yn dibynnu ar y lleoliad ac ar y galw. Efallai y bydd gorsaf fawr yn gallu delio â 100 i 150 o alwadau gyda'i gilydd yr un pryd, ond efallai mai dim ond ryw 30 galwad y bydd gorsaf lai yn gallu delio â hwy. Bydd angen mwy o orsafoedd mewn ardaloedd lle mae llawer o bobl am ddefnyddio'u ffonau symudol. Ceir tua 51,000 o orsafoedd ffôn yn y DU, gyda dwy o bob tair gorsaf ynghudd yn nyluniad adeiladau neu strwythurau presennol.
Bob hydref, bydd Cymdeithas y Gweithredwyr Ffonau Symudol (MOA) yn anfon copi o gynlluniau gan y pum prif weithredwr rhwydwaith (3, O2, Orange, T-Mobile a Vodafone) i awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer gorsafoedd ffonau symudol newydd yn eu hardaloedd. I gael gwybod am y cynlluniau hyn ac i gael manylion am unrhyw ymgynghoriadau cyhoeddus a allai fod ar y gweill cysylltwch â'ch cyngor lleol.
Gallwch ddefnyddio'r ddolen isod a fydd yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yn mynd â chi at wefan eich cyngor lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am geisiadau cynllunio yn eich ardal drwy ddefnyddio'r porth cynllunio.
Mae'r pum prif weithredwr ffonau symudol, llywodraeth leol a llywodraeth ganol a Chymdeithas y Gweithredwyr Ffonau Symudol, wedi ffurfio cod arferion gorau sy'n amlinellu sut y byddant yn rhoi gwybod am eu cynlluniau ar gyfer mastiau newydd ac yn ymgynghori â phobl leol yn eu cylch.
Bydd gorsafoedd ffonau symudol yn anfon ac yn derbyn signalau radio er mwyn cysylltu â ffonau symudol. Mae'r Comisiwn Rhyngwladol dros Amddiffyn rhag Ymbelydredd nad yw'n Ioneiddio (ICNIRP) yn nodi canllawiau ar lefel yr allyriadau amledd radio y gall pobl ddod i gysylltiad â hwy. Mae pob gorsaf ffonau symudol yn y DU yn gorfod cydymffurfio â chanllawiau allyriadau amledd radio'r Comisiwn. Fel arfer, bydd allyriadau amledd radio'r gorsafoedd dipyn yn is na'r lefelau arbennig gan ICNIRP.
Bob blwyddyn, bydd y Swyddfa Gyfathrebiadau (OFCOM) yn cynnal archwiliadau ar rai safleoedd sensitif gerllaw gorsafoedd drwy fesur yr allyriadau amledd radio. Yna, cyhoeddir adroddiad o'r canfyddiadau, a gellir gweld y canfyddiadau hynny ar ei gwefan.
Os ydych chi'n poeni am fast ffôn neu orsaf ffonau symudol yn eich ardal leol, gallwch wneud cais i OFCOM ystyried archwilio safle. Ni chodir unrhyw dâl am y gwasanaeth hwn.
Mae gan OFCOM gronfa ddata ar-lein o leoliadau gorsafoedd ffonau symudol.
Mae llawer o waith ymchwil wedi'i gynnal i effeithiau posib defnyddio a bod mewn cysylltiad â ffonau symudol a gorsafoedd ffonau symudol. Yn 2000, mewn adroddiad gan y llywodraeth, a luniwyd gan y Grŵp Arbenigol Annibynnol ar Ffonau Symudol (IEGMP), daethpwyd i'r casgliad nad oedd y dystiolaeth a ddaeth i law yn awgrymu bod technolegau ffonau symudol yn peryglu iechyd poblogaeth gyffredinol y DU'.
Cyhoeddwyd adroddiad yn rhoi crynodeb o'r canfyddiadau ymchwil annibynnol ddiweddaraf ar 12 Medi 2007, a gellir ei weld ar wefan Ffonau Symudol ac Ymchwil Iechyd (MTHR).
Yr Asiantaeth Diogelu Iechyd yw'r prif gorff sy'n gyfrifol am ddarparu cyngor a gwybodaeth am effeithiau defnyddio a bod mewn cysylltiad â ffonau symudol a gorsafoedd ffonau symudol. Ar wefan yr Asiantaeth gellir cael gwybodaeth fanwl am lefelau ymbelydredd cyffredinol o ffonau symudol a'r lefelau ar gyfer y sawl sy'n byw gerllaw gorsafoedd ffonau symudol.